Gwyr
037 Reynoldston
HLCA037 Reynoldston
Tirwedd anheddu a thirwedd amaethyddol a chanolfan faenoraidd ôl-ganoloesol/canoloesol: cyn-anheddiad canoloesol; caelun amrywiol; craidd anheddiad organig; ffermydd gwasgaredig; eglwys ganoloesol; nodweddion amddiffynnol domestig cynhanesyddol; coetir gweddilliol; a chysylltiadau hanesyddol. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Reynoldston yn cynrychioli cyn-brif-faenor Reynoldston ac eithrio ystâd Stouthall. Mae ffiniau'r ardal yn hirsefydlog ac maent yn dilyn nant i'r de, cwr Tir Comin Cefn Bryn i'r gogledd ac i'r dwyrain a'r lôn o Puck's Hollow i Frog Moor i'r gorllewin.
Nid oes amheuaeth na fu pobl yn byw yn yr ardal hon yn ystod y cyfnod cynhanesyddol o gofio ei lleoliad gerllaw Cefn Bryn, mae olion yma yn cynnwys beddrodau siambrog Neolithig yn ogystal â nifer fawr o henebion yn dyddio o'r Oes Efydd. Dywedir bod maen hir (00163w) y tybir ei fod yn dyddio o'r Oes Efydd yn yr ardal; fodd bynnag, ni welwyd y maen hir hwn ers y 1970au. Ystyrir bod gwersyll Reynoldston (00161w; 94607; SAM GM195) yn dyddio o'r Oes Haearn ac ymddengys i bobl barhau i fyw yno i mewn i'r cyfnod Rhufeinig, fel y dengys crochenwaith Rhufeinig a ddarganfuwyd ar y safle, a gofnodwyd gan Samuel Lewis ym 1833. Mae'n bosibl i'r safle hwn barhau i gael ei ddefnyddio i mewn i'r cyfnod canoloesol, a thybir mai hwn oedd safle gwreiddiol ty canoloesol y teulu Lucas cyn Brynfield (gweler isod).
Lleolid yr ardal hon yn wreiddiol o fewn Cwmwd canoloesol Cymreig Gwyr, israniad o Gantref Eginog. Yn ystod yr ad-drefnu a welwyd yn y cyfnod ôl-ganoloesol ffurfiai'r ardal blwyf Reynoldston yng Nghantref Abertawe, yn Sir Morgannwg. Mae Samuel Lewis yn awgrymu i'r faenor gael ei henw o Reginald de Breos. Rhestrir Reynoldston fel 'hen ffiff marchog' mewn siarter ddyddiedig 1306, fodd bynnag ystyrir bod y siarter hon yn adlewyrchu uchelgeisiau tiriogaethol y person a oedd yn gyfrifol amdani, sef William de Breos VII, ac felly mae'n amheus. Awgrymwyd bod maenor Reynoldston ynghyd â'r rhan ohoni sydd ar wahân yn rhan o is-faenor Weble, ac yn rhan o Arglwyddiaeth Landimôr (Nicholl 1936, 40). Credir bod yr ardal hon, ar ddechrau'r cyfnod canoloesol cyn y Goresgyniad Normanaidd, wedi'i lleoli o fewn terfynau maenor Gymreig helaeth, a gynhwysai derfynau gorllewinol a gogleddol Bro Gwyr.
Gwyddom fod maenor Reynoldston yn eiddo i'r teulu Vernon o Haddon Hall yn Swydd Derby o'r bedwaredd ganrif ar ddeg tan farwolaeth Syr George Vernon ym 1567. Fe'i trosglwyddwyd trwy briodas i Syr Thomas Stanley o Tong, Sir Amwythig ac fe'i gwerthwyd wedyn ym 1574 i Syr Edward Herbert, mab ieuengaf Iarll 1af Penfro (James 1983, 184). Mae arolwg Gabriel Powell o arglwyddiaeth Gwyr ym 1764, sy'n seiliedig ar arolwg diweddaredig dyddiedig 1630 a 1665, yn ein hysbysu bod maenor Reynoldston ym meddiant y plentyn ifanc Thomas Mansel Talbot. Mae'r arolwg hwn ac arolygon cynharach yn manylu ar ffiniau'r rhan o'r faenor a oedd ar wahân, sy'n dilyn y ffin y gymuned bresennol.
Mae'n bosibl bod i'r ardal darddiad eglwysig cynharach o gofio i Groes Biler yn dyddio o'r nawfed ganrif (00163w; SAM GM089) gael ei darganfod gerllaw yn Stouthall. Mae eglwys bresennol St George (00107w; 229655; LB 22848 II) yn sefyll ar safle'r eglwys ganoloesol y tybir iddi gael ei sefydlu gan Syr Reginald de Breos yn y drydedd ganrif ar ddeg (Carlisle 1811). Ffenestr lansed aflem uwch yn wal ddeheuol y gangell yw'r unig nodwedd o'r eglwys hon sydd wedi goroesi (Orrin 1979). Goroesodd yr eglwys ganoloesol tan 1866, ac erbyn hynny roedd mewn cyflwr dirywiedig. Yn ôl disgrifiad Glynne o'r eglwys dyddiedig 1849 roedd ganddi gorff, cangell, clochdy gorllewinol a phortsh â bwa cangell 'pigfain, syml iawn' a'r hyn yr ymddengys eu bod yn grogrisiau ar yr ochr ogleddol, ffenestr lansed bengron ar wal ddeheuol y gangell (y cyfeiriwyd ati uchod) a dim ffenestri ar yr ochr ogleddol (Evans 1998).
Parhaodd Reynoldston i fod yn anheddiad eithaf bach tan fap 1784. Lleolid yr eglwys gerllaw lawnt y pentref o fewn mynwent amlochrog (05251w). Roedd prif graidd y pentref wedi'i gyfyngu i ardal fach o amgylch yr eglwys a gynhwysai ddaliadau gwasgaredig i'r gogledd, ac i'r gogledd-ddwyrain lleolid daliadau llai o faint ar gwr y tir comin a cheid clwstwr o fythynnod i'r de o'r eglwys o amgylch y brif groesffordd. Heddiw Box Farm yw enw'r brif fferm a ddangosir ar y map ychydig i'r de o'r eglwys (01716w; 18073) ac mae'n bosibl ei bod yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg. Lleolid ffermydd gwasgaredig ôl-ganoloesol ar hyd cwr y tir comin i'r gorllewin ac i'r dwyrain o'r eglwys, cynhwysai'r ffermydd hyn bryd hynny Little Reynoldston a Hill's Farm sydd hefyd yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg o leiaf. Lleolid pwll dyfrio gwartheg o fewn lawnt y pentref, yn tarddu o ffynnon ar y tir comin. Am fod yr anheddiad yn agos i'r tir comin roedd yn bosibl gweithredu system amaethyddol ddeuol a gyfunai gaeau âr ar gyfer ffermio a thir comin ar gyfer pori da byw. Y teuluoedd Hancorne, Popkins a Lucas oedd y prif berchenogion tir bryd hynny, fodd bynnag, roedd rhandiroedd i'w gweld o hyd, er bod llawer o'r daliadau wedi dechrau cael eu cyfuno.
Dengys map degwm 1838 ragor o aneddiadau ar hyd cwr y tir comin yn ogystal â rhai datblygiadau strimynnog ar hyd y briffordd o Gefn Bryn a redai o'r gogledd i'r de, gan gynnwys Bwthyn Grove. Ymddengys fod y mwyafrif o ffermydd wedi hen ymsefydlu ac mae ychwanegiadau wedi'u gwneud i Hill's Farm (02683w; 19030) a Little Reynoldston yn arbennig. Ychydig iawn o lain-gaeau a oedd ar ôl erbyn hynny, ac roedd y system gaeau wedi'i chyfuno i greu caeau bach afreolaidd eu siâp yr oedd gan lawer ohonynt gorneli crwn. Ymddengys fod dau fwthyn yn dwyn yr enwau bwthyn Brooke a Park View a safai yn yr ardal i'r de o Box Farm yn yr un lleoliad ar argraffiad cyntaf map yr AO a map ystâd dyddiedig 1784, gallai hyn awgrymu eu bod yn cynrychioli anheddau domestig cynharach a oedd wedi goroesi, ond, byddai angen cadarnhau hynny trwy wneud rhagor o ymchwil ac archwiliadau maes. Ar ben hynny, mae'n bosibl bod llawer o'r daliadau a bythynnod llai o faint a sefydlwyd yn ystod y ddeunawfed ganrif ar hyd cyrion y tir comin i'r gogledd-ddwyrain o'r eglwys wedi'u disodli, yn rhannol, gan adeiladau newydd erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, proses sydd wedi parhau hyd heddiw. Ymddengys fod llawer o'r ffermydd anghysbell yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif o leiaf ac mae'n bosibl iddynt gael eu sefydlu ar ffermydd canoloesol. Mae Fferm Hayes a Corner House yn ffermydd gwasgaredig yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r system gaeau a welir heddiw yn cynrychioli i raddau helaeth yr un a ddangosir ar argraffiad cyntaf map yr AO ac eithrio ambell i ffin cae y cafwyd gwared â hi.
Roedd Brynfield House (01494w; 18124) a leolir ychydig islaw cwr y tir comin, i'r gogledd o'r cloddwaith (00161w) yn rhan o ystâd y teulu Lucas, sef Stouthall. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd y ty, a elwid bryd hynny yn Shepherds Lodge, yn adfeiliedig. Fe'i hailadeiladwyd yn ddiweddarach gan ddaliwr y brydles y Parchedig James Edwards, Rheithor Reynoldston (Thompson a Lucas 1995). Bu'r Cyrnol John Nicholas Lucas yn byw yn y ty ar ôl hynny cyn iddo gael ei gymryd ar brydles gan Syr Gardener Wilkinson a'i wraig Caroline (Lucas cyn iddi briodi) ym 1866 (Thompson 1995). Awgrymodd P. J. Williams yn y 1920au mai'r cloddwaith, o fewn tiroedd ty Brynfield oedd lleoliad canoloesol gwreiddiol cartref y teulu Lucas. Pan oedd y ty yn Brynfield yn cael ei adnewyddu, darganfu Wilkinson wydr paentiedig wrth waelod hen wal; dyddiwyd y gwydr hwn ers hynny i tua 1400 ac mae'n dod o Loegr, sy'n awgrymu adeilad cynnar o statws uchel.
Datblygodd Reynoldston yn anheddiad mwy sylweddol erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ar ddiwedd y ganrif roedd ganddo swyddfa bost, gwesty, capel Methodistaidd, bragdy (33314), gof a rheithordy, ac mae tystiolaeth ddogfennol yn dangos i bobl y pentref barhau i ddilyn crefftau gwledig traddodiadol. Yn debyg i weddill Bro Gwyr darparai chwareli ac odynau calch lleol (02467w) galch i'w ddefnyddio at ddibenion amaethyddol. Yn ddiau roedd ffeiriau blynyddol yn ddigwyddiad mawr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg; yn draddodiadol cynhelid ffeiriau cynhaeaf yng nghanol mis Medi. Cynhelid y rhain ar yr Upper Green y tu allan i Westy'r King Arthur a chynhwysent amrywiaeth o stondinau.
Ailadeiladwyd eglwys St George rhwng 1866-67 ar gais y Parchedig John Davies. Adeiladwyd yr eglwys, a gynlluniwyd gan Prichard a Sneddon, Whitehall, ar sylfeini'r eglwys gynharach ac roedd corff yr eglwys hon yn fwy na chorff yr eglwys wreiddiol. Cynhwysai gorff yr eglwys, cangell, adenydd y gogledd, clochdy i'r gorllewin, portsh i'r de a festri. Mae cofebau yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif sydd wedi'u cyflwyno i'r teulu Lucas wedi'u gosod ar waliau'r adenydd a chorff yr eglwys (Evans 1998). Ym 1906 ychwanegwyd festri fach yn ongl ogledd-orllewinol yr adenydd a chorff yr eglwys, a gosodwyd cyfarpar gwresogi yn islawr y festri.
Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach (1869) sefydlwyd capel Methodist Wesleaidd (9643) gerllaw cwr y tir comin i'r gogledd-ddwyrain o eglwys St George. Roedd hyn yn ddigwyddiad hirddisgwyliedig am fod Methodistiaeth yn Reynoldston wedi'i sefydlu'n gadarn ers diwedd y ddeunawfed ganrif, ac yn aml byddai pregethu yn digwydd yng nghartrefi pobl. Thomas Coghlan oedd y gweinidog Methodist mwyaf adnabyddus (Neilson 1989) a fu'n pregethu ledled Bro Gwyr i mewn i'w nawdegau. Daeth Coghlan, sef gof y pentref, i Reynoldston ym 1867 ac roedd yn uchel ei barch yn y gymuned, a chwaraeai rôl weithredol mewn bywyd cyhoeddus ac wrth gefnogi hawliau'r rhai a oedd yn berchen ar dyddynnod a gweithwyr. Mae da byw yn parhau i gael eu pori ar y tir comin.
Gwelwyd y twf mwyaf sylweddol yn Reynoldston yn yr ugeinfed ganrif yn arbennig yn ystod ail hanner y ganrif. Cynhwysai hynny yn bennaf ddatblygiadau strimynnog ar hyd y briffordd sy'n rhedeg ar hyd cwr y tir comin i'r de-ddwyrain o Brynfield heibio i Little Reynoldston. Ar ben hynny gwnaed rhywfaint o waith mewnlenwi yn y clwstwr canolog ac ymestynnwyd canol y pentref tua'r gorllewin. Mae gwaith datblygu tameidiog yn yr ardal ar gyfer tai yn dal i fynd rhagddo.