The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Tirwedd Hanesyddol


Tirwedd ddiwydiannol ag aneddiadau hirgul llinellol

HLCA 001 Ardal Gweithio Haearn Maesygwartha a Llanelli

Tirwedd ddiwydiannol ôl-ganoloesol gynnar sy'n gysylltiedig â'r teulu Hanbury o Bont-y-pwl: safleoedd ffwrnais a gefail yn dyddio o'r 17eg ganrif; prosesu metel - safle Gwaith Tun; tai gweithwyr haearn cynnar a thai bonedd cysylltiedig yn dyddio o'r 17eg ganrif; cysylltiadau trafnidiaeth diwydiannol cynnar; cysylltiadau hanesyddol pwysig; cyflenwad dwr diwydiannol. Nôl i'r map


Anheddiad diwydiannol ar wahân.

HLCA 002 Gogledd Clydach (Cheltenham)

Anheddiad diwydiannol ôl-ganoloesol sy'n gysylltiedig â gweithgynhyrchu haearn a chalchfaen lleol; tai gweithwyr diwydiannol; Capeli anghydffurfiol. Nôl i'r map


Gwaith Haearn Clydach.

HLCA 003 De Clydach

Tirwedd ddiwydiannol o bwys cenedlaethol a nodweddir yn bennaf gan weithfeydd haearn (a gloddiwyd) yn dyddio o'r 18fed ganrif ac anheddiad cysylltiedig; patrwm anheddu cnewyllol-organig a hirgul ag anheddau gweithwyr haearn cynnar; Capel anghydffurfiol; anheddau parod yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif; rheilffordd ddiwydiannol; pontydd; a chyflenwad dwr diwydiannol.Nôl i'r map


Chwarel Llanelli. Graig y Gaer, bryngaer yn dyddio o'r Oes Haearn.

HLCA 004a Coridor Trafnidiaeth Cwm Clydach a HLCA 004b Coridor Trafnidiaeth Darren-Ddu

Coridor Trafnidiaeth (diwydiannol a chyhoeddus), rheilffordd a ffordd â nodweddion cysylltiedig gan gynnwys pontydd; chwareli a gweithfeydd calch; nodweddion cyflenwi dwr; anheddiad cynhanesyddol ucheldirol (bryngaer); clostiroedd amaethyddol amrywiol ac aneddiadau amaethyddol ôl-ganoloesol gwasgaredig a rhesi byr o dai diwydiannol mewn lleoliadau anghysbell; Coetir Hynafol.Nôl i'r map


Fe'i nodweddir gan lefelydd glo a haearnfaen sydd wedi goroesi.

HLCA 005 Gellifelen

Tirwedd gloddiol o lefelydd diwydiannol gan gynnwys tomenni ysbwriel amlwg; aneddiadau amaethyddol ôl-ganoloesol gwasgaredig a daliadau tir lled-ddiwydiannol; darnau bach o reilffordd ddiwydiannol a gwahanol lonydd a llwybrau a phontydd. Nôl i'r map


Anheddiad gwasgaredig afreolaidd.

HLCA 006 Llethr Cwm Uchaf Amgaeëdig Darrenfelen a Chwm Dyar-fach

Tirwedd yn cynnwys aneddiadau diwydiannol/amaethyddol gwasgaredig cymysg; anheddiad diwydiannol a sefydlwyd gan sgwatwyr; rhesi byr o dai diwydiannol yn bennaf; nodweddion rheilffordd/tramffordd a phontydd diwydiannol; adeiladau cynddiwydiannol a phatrwm caeau rheolaidd cysylltiedig o gaeau canolig eu maint; ffiniau caeau pendant; anheddiad cynhanesyddol (bryngaer). Nôl i'r map


Chwareli a gweithfeydd calch yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif.

HLCA 007 Gwaith Calch Clydach a Chwarel Gilwern

Chwarel a gwaith calch yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a nodweddion cysylltiedig; trafnidiaeth ddiwydiannol. Nôl i'r map


Camlas Brycheiniog a'r Fenni.

HLCA 008 Gilwern

Rheilffordd/tramffordd ddiwydiannol a choridor a chyffordd camlas; glanfeydd camlas; anheddiad rheilffordd/tramffordd a chamlas ddiwydiannol; canolfan fasnachol; datblygiadau hirgul a fewnlenwyd yn ddiweddarach ar ddiwedd yr 20fed ganrif; gweithgynhyrchu a melino diwydiannol; cyflenwi dwr. Nôl i'r map


Tirwedd amaethyddol amrywiol a ad-drefnwyd.

HLCA 009 Llethr Cwm Amgaeëdig Maesygwartha a Rhonos-uchaf

tirwedd amaethyddol amrywiol a ad-drefnwyd; ffermydd ac adeiladau fferm diwydiannol; fila fonedd â gerddi cysylltiedig; capel anghydffurfiol a mans. Nôl i'r map