Ceunant Clydach
004a Coridor Trafnidiaeth Cwm Clydach a 004b Coridor Trafnidiaeth Darren-Ddu
HLCA 004a Coridor Trafnidiaeth Cwm Clydach a HLCA 004b Coridor Trafnidiaeth Darren-Ddu
Coridor Trafnidiaeth (diwydiannol a chyhoeddus), rheilffordd a ffordd â nodweddion cysylltiedig gan gynnwys pontydd; chwareli a gweithfeydd calch; nodweddion cyflenwi dwr; anheddiad cynhanesyddol ucheldirol (bryngaer); clostiroedd amaethyddol amrywiol ac aneddiadau amaethyddol ôl-ganoloesol gwasgaredig a rhesi byr o dai diwydiannol mewn lleoliadau anghysbell; Coetir Hynafol.Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardaloedd tirwedd hanesyddol Coridor Trafnidiaeth Cwm Clydach a Choridor Trafnidiaeth Darren-Ddu yn cynnwys cwm culrych iawn Cwm Clydach sy'n ffurfio coridor llwybr naturiol rhwng ucheldiroedd y Blaenau sy'n llawn mwynau a Dyffryn Wysg. Nodweddir yr ardal, y lleolir y rhan fwyaf ohoni o fewn SoDdGA Mynydd Llangatwg a SoDdGA Cwm Clydach, gan lwybrau cysylltiadau yn bennaf, gan gynnwys ffordd, rheilffordd a thramffordd, a ddatblygwyd ar y dechrau i wasanaethu diwydiant yr ardal oddi amgylch ac yn ddiweddarach y cwm ei hun. Yn wreiddiol byddai ceffylau pwn wedi cael eu defnyddio i gludo nwyddau yn yr ardal, fodd bynnag rhwng 1793-5 adeiladwyd Rheilffordd Clydach (HLCA 004a), ac yn fuan ar ôl hynny adeiladwyd Rheilffordd Llam-march rhwng 1794-5 (HLCA 004a). Mae llwybrau eraill yn yr ardal yn cynnwys Tramffordd Llam-march a adeiladwyd yn 1809 (HLCA 004a), y Ffordd Dyrpeg o Ferthyr Tudful i Gofilon a adeiladwyd rhwng 1812-13, Tramffordd Bailey a adeiladwyd yn 1821 (HLCA 004b), Rheilffordd Merthyr Tudful, Tredegar a'r Fenni a adeiladwyd yn 1862 ac yn olaf Ffordd Blaenau'r Cymoedd, a gwblhawyd yn 1962 (y mae'r ddau olaf wedi'u lleoli o fewn HLCA 004a).
Adeiladwyd Rheilffordd Clydach, y dilynir ei llwybr gan yr isffordd bresennol (SO 245148-241159), i gysylltu'r Efail yn Llangrwyne â glanfa'r gamlas yng Ngilwern, trwy Byllau Glo Gellifelen a Phont Harry Isaac, adeiladwyd estyniad i Gendl ychydig yn ddiweddarach. Trosglwyddwyd y llinell o Gilwern i Langrwyne i Ymddiriedolaeth Tyrpeg Sir Frycheiniog yn 1839. Adeiladwyd rhan gyntaf y rheilffordd gan ddefnyddio sliperi haearn, erbyn 1794, roedd 6792 o'r sliperi haearn hyn wedi'u gosod, ar ôl hynny penderfynwyd defnyddio sliperi pren. Yn 1836 gosodwyd sliperi carreg yn lle'r sliperi gwreiddiol, ac mae rhai o'r sliperi carreg hyn i'w gweld heddiw. Lleolir rhan gofrestredig o Reilffordd Clydach ger Brynmawr yn SO 202122 (HLCA 004a; MM263 (BLG)).
Darparodd Rheilffordd Llam-march y llwybr gwreiddiol a ddefnyddid i gludo nwyddau i Waith Haearn Clydach o ddaliadau mwynau yng Nghwm Llam-march a Gellifelen, yr ychwanegwyd incleins ato yn ddiweddarach; trowyd y llwybr yn dramffordd yn 1809 ac fe'i hymestynnwyd i lanfa yng Ngilwern o dan Ddeddf Camlas Brycheiniog a'r Fenni.
Adeiladwyd Tramffordd Bailey (SO 197123 - 201159) c1821-30, a chysylltai Gwaith Haearn Nant-y-glo â Chwareli Llangatwg; erbyn hyn mae'r llwybr yn ffordd dar, sy'n nodi ffin ogleddol y dirwedd hanesyddol ac yn cynnig golygfeydd da o Gwm Clydach.
Agorwyd llinell led safonol Rheilffordd Merthyr Tudful, Tredegar a'r Fenni hyd at Frynmawr erbyn 1862, gan ddefnyddio rhan o lwybr Tramffordd Bailey. Ar y dechrau fe'i prydleswyd i Reilffordd Llundain a'r Gogledd-orllewin yn 1866 a'i cymerodd drosodd wedyn yn yr un flwyddyn, ac fe'i trosglwyddwyd i'r LNS yn 1923. Roedd y llwybr, nas defnyddir bellach, yn allweddol wrth dorri monopoli Rheilffordd y Great Western ar y daith drwy Dde Cymru. Mae traphont drawiadol, Traphont Rheilffordd Nant-y-Dyar (Rhestredig Gradd II; HLCA 004a), wedi goroesi i'r gogledd o Waith Calch Clydach (HLCA 007).
Ar wahân i rwydweithiau trafnidiaeth, prif nodweddion yr ardaloedd yw chwareli calchfaen, yn arbennig Chwarel Llanelli (HLCA 04a; SO 222124) a Chwarel Darren-Ddu (HLCA 004b; SO 213125). Yn wreiddiol cyflenwai Chwarel Llanelli Waith Haearn Clydach â chalchfaen ar gyfer fflwcs, ac roedd hefyd yn cyflenwi cerrig ffordd, yn ogystal â chalch, y naill ar ôl y llall, at ddibenion amaethyddol ac adeiladu. Wrth i weithgarwch cloddio fynd yn ei flaen, torrodd i ffwrdd ran isaf ail inclein, a oedd wedi'i adeiladu tua 1811, i gynyddu capasiti Rheilffordd Llam-march. Mae'r olion yn y safle yn cynnwys odyn galch ddwbl wrth y fynedfa, a cheir ail bâr (ag arysgrifiad 'GP 1892') gerllaw cilffordd rheilffordd Merthyr Tudful, Tredegar a'r Fenni, a bynceri concrid lle y câi cerrig ffordd eu storio.
Sefydlwyd Chwarel Darren-Ddu yn gynnar hefyd yn natblygiad diwydiannol y cwm a gwyddom fod odynau calch i'w cael yma yn 1795. Gwasanaethai cangen o Reilffordd Clydach y chwarel drwy fwa (a ddinistriwyd bellach gan Ffordd Blaenau'r Cymoedd) o dan ffordd dyrpeg 1812; parhawyd i ddefnyddio'r llinell hon tan tua 1908. Câi calch ei gludo mewn wagenni blwch pren a allai gario c 6 thunnell, tra deuai glo ar gyfer yr odynau o Frynmawr drwy Reilffordd Clydach.
Ar ben hynny câi 'cerrig bloc' eu cludo ar y rheilffordd i'r gamlas yng Ngilwern er mwyn iddynt gael eu dosbarthu y tu allan i'r ardal lle y caent eu defnyddio fel cerrig ffordd. Dechreuodd cwmni Black Rock Stone Products Ltd. fathru cerrig yma yn 1939. Gellir priodoli maint presennol y chwarel i'r galw am gerrig ffordd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n eiddo ar y cyd i gwmni Black Rock Stone Products Ltd a Black Rock Limeworks. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd dechreuodd Black Rock Limeworks losgi calchfaen unwaith eto o dan gwmni Graig-y-Gaer Limestone Quarries Ltd.
Ymhlith olion diwydiannol eraill yr ardal mae rhai Pwll Glo Clydach (SO 201122), sy'n dyddio o'r cyfnod cyn 1812, y mae ganddo fynedfa wastad (Lefel Glo Clydach MM264 (BLG)), a ailadeiladwyd pan adeiladwyd Rheilffordd Merthyr Tudful, Tredegar a'r Fenni dros y safle.
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Nodweddir Coridor Trafnidiaeth Cwm Clydach a Choridor Trafnidiaeth Darren-Ddu yn bennaf gan eu cysylltiadau trafnidiaeth diwydiannol a'u cysylltiadau trafnidiaeth eraill, sydd wedi datblygu yn bennaf ers diwedd y 18fed ganrif, a gynrychiolir yn bennaf gan Reilffordd Clydach a Rheilffordd/Tramffordd Llam-march. Mae'r nodweddion trafnidiaeth hyn yn defnyddio coridor llwybr a oedd eisoes yn bodoli yn y cyfnod cynhanesyddol. Mae lleoliad y ddwy fryngaer Twyn-y-Ddinas (HLCA 006) a Gwersyll Craig-y-Gaer (HLCA 004b; PRN 2499) rhwng ffriddoedd (a thiroedd llawn mwynau) y Blaenau a dyffryn amaethyddol bras isel afon Wysg i'r dwyrain yn dystiolaeth o hyn. Mae'r llwybr yn croesi amrywiaeth o dirweddau amaethyddol cynharach, sy'n eilaidd i'r nodwedd cysylltiadau/trafnidiaeth hollbwysig.
Darperir nodwedd weledol dra amlwg arall yr ardal dirwedd gan weithgarwch cloddio helaeth am galchfaen (adeiladu ac arwynebu ffyrdd) ac ar gyfer cynhyrchu calch at ddibenion diwydiannol, domestig ac amaethyddol, ac mae'n rhychwantu'r cyfnod o ddiwedd y 18fed ganrif hyd at ganol/diwedd yr 20fed ganrif.
Mae nodweddion eraill yn cynnwys ffrydiau a nodweddion cyflenwi dwr eraill a nodweddion anheddu gwasgaredig sy'n gysylltiedig â Gwaith Haearn Clydach a ffwrnais a gefeiliau Llanelli i'r gogledd o afon Clydach. Mae safle'r chwarel dra amlwg yng Nghraig-y-Gaer hefyd yn safle bryngaer yn dyddio o'r Oes Haearn, y mae ei holion wedi'u cloddio ar raddfa fawr.
Mae'r ardal yn cynnwys lleiniau helaeth o goetir hynafol wedi'i adfywio, sy'n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Cwm Clydach, a SoDdGA Cwm Clydach; mae'r ardal hefyd yn cynnwys rhan o SoDdGA Mynydd Llangatwg, a SoDdGA cyfan Rhannau Brynmawr.