Ceunant Clydach
006 Llethr Cwm Uchaf Amgaeëdig Darrenfelen a Chwm Dyar-fach
HLCA006 Llethr Cwm Uchaf Amgaeëdig Darrenfelen a Chwm Dyar-fach
Tirwedd yn cynnwys aneddiadau diwydiannol/amaethyddol gwasgaredig cymysg; anheddiad diwydiannol a sefydlwyd gan sgwatwyr; rhesi byr o dai diwydiannol yn bennaf; nodweddion rheilffordd/tramffordd a phontydd diwydiannol; adeiladau cynddiwydiannol a phatrwm caeau rheolaidd cysylltiedig o gaeau canolig eu maint; ffiniau caeau pendant; anheddiad cynhanesyddol (bryngaer). Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Llethr Cwm Uchaf Amgaeëdig Darrenfelen a Chwm Dyar-fach yn cynnwys aneddiadau a thyddynnod gwasgaredig, yr ychwanegwyd tai diwydiannol ac ystadau tai yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif atynt Yn debyg i HLCA 005 mae'r patrwm cynharach o dir amgaeëdig ar hyd ymylon mynydd agored Bryn Llanelli i'w weld o hyd yn y patrwm anheddu diweddarach; yr anheddiad diwydiannol a adeiladwyd ar gyfer glowyr (diwedd y 18fed /dechrau'r 19eg ganrif) a leolir ar y tir agored, ac ar hyd ymyl y ffordd ar ffurf datblygiadau hirgul yn bennaf. Mae natur wasgaredig a lleoliad yr anheddiad diwydiannol yn awgrymu iddo gael ei sefydlu gan sgwatwyr, ac mae'n adlewyrchu traddodiadau amaethyddol cynharach o ddefnyddio'r tir comin agored.
Mae Tramffordd Llam-march (1794-5) a Thramffordd Bailey yn croesi'r ardal; mae nifer o nodweddion diddorol yn gysylltiedig â'r tramffyrdd hyn: pentanau pont garreg pont Tramffordd Llam-march; Pont Cwm Llam-march, pont garreg/ffos sy'n cario Tramffordd Bailey (Gofilon) dros Gwm Llam-march; a Phont Cwm Nant-Gam, pont garreg/ffos a adeiladwyd yn 1822, a gariai Dramffordd Bailey o Bwll Glo Gellifelen i Waith Haearn Clydach. Mae llwybr 'ffordd gerrig' Blaenafon gynt a adeiladwyd c1799 (SO 224121 - 239120) ac a ddarparai gysylltiad o ben uchaf llinell Llam-march drosodd i Flaenafon, yn rhedeg drwy'r ardal; rhoddwyd y gorau i ddefnyddio'r ffordd gerrig hon yn 1812 pan ddechreuodd Gwaith Haearn Clydach ddefnyddio'r camlesi rhwng Gilwern a Chasnewydd. Roedd cysylltiad diweddarach i'r incleins a adeiladwyd yn 1811 a wasanaethai Waith Haearn Clydach (o SO 222122).
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Nodweddir Llethr Cwm Uchaf Amgaeëdig Darrenfelen a Chwm Dyar-fach gan aneddiadau gwasgaredig cymysg gan gynnwys rhesi o dai teras ar ffurf datblygiadau hirgul ac mewn lleoliadau anghysbell. Mae'r patrwm anheddu yn ddigynllun, ac fe'i nodweddir gan ddatblygiadau hirgul gwasgaredig mewn lleoliadau anghysbell; effaith hyn oll yw bod naws clystyrau bach digynllun ar wahân, heb unrhyw graidd neu gynllun pendant, yn dal i berthyn i'r datblygiadau hyn, sy'n adlewyrchu o bosibl y ffaith i'r anheddiad gael ei sefydlu gan sgwatwyr.
Mae stoc dai'r ardal yn amrywio o fythynnod unigol i filâu mwy o faint, fodd bynnag fe'i nodweddir yn bennaf gan resi byr o fythynnod gweithwyr teras deulawr â ffrynt dwbl, y mae'r mwyafrif ohonynt wedi'u newid gryn dipyn, er bod rhai enghreifftiau da wedi goroesi (ee Penllwyn). Mae rhai enghreifftiau o adeiladau cynddiwydiannol wedi goroesi megis yr ysgubor yn y Jolly Colliers, sy'n dyddio o'r 18fed ganrif yn ôl pob tebyg a Thy hir posibl ym Mhenffyddlwn (a ailadeiladwyd i ryw raddau yn y 19eg ganrif), a leolir o fewn y tir amgaeëdig cynddiwydiannol sydd wedi goroesi. Nodweddion amlwg eraill yr ardal yw'r capeli anghydffurfiol, sy'n cynnwys Capel Annibynnol Bethel (1896, ailadeiladwyd yn 1903), Capel Bedyddwyr Beersheba (1842, ailadeiladwyd yn 1902), Capel Methodistiaid Calfinaidd Carmel (1842, ailadeiladwyd yn 1902), y lleolir pob un ohonynt yn Darrenfelen, a Chapel Methodistiaid Saesneg Gellifelen (1829, ailadeiladwyd yn 1902). Mae'r ardal yn cynnwys ysgol, swyddfa bost ac ystafell Genhadol.
Mae nodwedd gyffredin rhwydwaith trafnidiaeth diwydiannol yn parhau yma a cheir nodweddion, pontydd yn bennaf sy'n gysylltiedig â Rheilffordd Llam-march a Thramffordd Bailey, ymhlith eraill, sy'n croesi'r dirwedd ac yn ei rhannu.
Safle arall y mae'n werth sôn amdano yw Gwersyll Clydach neu Dwyn-y-Dinas, anheddiad pen bryn neu fryngaer o'r Oes Haearn (PRN 2474), sydd wedi dioddef o ganlyniad i weithgarwch cloddio yn debyg i'r fryngaer yng Nghraig-y-gaer i'r gogledd (HLCA 001b), gweithgarwch a nodir gan olion odynau calch gerllaw.
Mae'r ardal ffin rhwng HLCA 006 a HLCA 005 yn rhan o SoDdGA Cwm Clydach.