Ceunant Clydach
008 Gilwern
HLCA 008 Gilwern
Rheilffordd/tramffordd ddiwydiannol a choridor a chyffordd camlas; glanfeydd camlas; anheddiad rheilffordd/tramffordd a chamlas ddiwydiannol; canolfan fasnachol; datblygiadau hirgul a fewnlenwyd yn ddiweddarach ar ddiwedd yr 20fed ganrif; gweithgynhyrchu a melino diwydiannol; cyflenwi dwr. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Cychwynnodd ardal tirwedd hanesyddol Gilwern gyda datblygiad Camlas Brycheiniog a'r Fenni, a daeth ei lleoliad wrth gyffordd ceunant serth Clydach a dyffryn Wysg yn gyffordd i Reilffordd Clydach a'r gamlas; cyn hynny roedd yr ardal wedi cael ei ffermio. Dechreuodd Brecknock and Abergavenny Canal Co. ar y gwaith o adeiladu Rheilffordd Clydach yn 1793 mewn ymgais i ddarparu refeniw cynnar; cysylltai'r llinell byllau glo Gellifelen a gwaith haearn yng Nghendl i Efail Llangrwyne yn Nyffryn Wysg. Yn 1796 dechreuodd gwaith ar y gamlas, ac yn 1797 adeiladwyd twnnel i ddarparu ar gyfer y rheilffordd. Ychwanegwyd bwa cyntaf y twnnel yn 1809 i gario Tramffordd Llam-march i lanfa Clydach Iron Co.
Ffurfiai'r glanfeydd yng Ngilwern graidd strategol cynlluniau cynnar Cwmni'r Gamlas. Gilwern oedd lleoliad canolfan weinyddol y gamlas a phreswylfa'r Asiant. Ar ben hynny cynhwysai'r ardal Lanfa Clydach Iron Co. ym mhen pellaf Tramffordd Llam-march ac fe'i gwasanaethid gan Reilffordd Clydach, Glanfa Llanelli a'r Lanfa Gyhoeddus (Glanfa Clydach), a wasanaethid gan ganghennau o Reilffordd Clydach a awdurdodwyd yn 1797. O'r fan hon y bwriad oedd y câi unrhyw haearn, glo a chalch eu llwytho a'u hanfon i'r gogledd i ardaloedd amaethyddol Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Swydd Henffordd; neu i'r de i ganolfannau diwydiannol a'r dociau yng Nghasnewydd. Sefydlwyd llawer o lanfeydd eraill yn ddiweddarach, ond parhaodd Gilwern yn un o'r rhai prysuraf nes i fusnes y camlesi ddirywio gyda dyfodiad y rheilffyrdd yn y 1860au. Brecknock Boat Co. (1797-1866) oedd y prif gariwr dros y gamlas, a bu'n masnachu mewn glo a chalchfaen, ac yn berchennog ar nifer o byllau glo; pan ddechreuodd fasnachu yn 1798 bu'n gweithredu o'r Lanfa Gyhoeddus. Glanfa Llanelli islaw Ty Auckland oedd y brif lanfa ar gyfer Gwaith Haearn Joseph a Crawshay Bailey yn Nant-y-glo, a Gwaith Haearn Kendall a Bevan yng Nghendl o 1817 hyd 1821. Adeiladwyd Ty Auckland (Rhestredig Gradd II) a Bythynnod Aukland gerllaw fel warysau ar gyfer y lanfa.
Mae llawer o nodweddion sy'n gysylltiedig â'r busnes a grëwyd gan y gamlas i'w gweld o hyd yn yr ardal. Mae Aqueduct Cottage, a adeiladwyd i ddarparu llety ar gyfer gweithwyr yn y lanfa, yn enghraifft bwysig o dai gweithwyr diwydiannol.
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Disgrifir Gilwern fel anheddiad camlas/pen rheilffordd o bwys cenedlaethol a leolir o amgylch cyffordd Rheilffordd Clydach a Thramffordd Llam-march yn dyddio o'r 18fed ganrif. Daw'r prif nodweddion o'r gamlas a nodweddion cysylltiedig megis y glanfeydd, a Machine House (Rhestredig Gradd II), a adeiladwyd yn 1810 i reoli gweithrediad y peiriant pwyso gerllaw.
Mae arglawdd Gilwern yn un o nodweddion trawiadol a nodweddiadol yr ardal (SAM: MM251(MON); Rhestredig Gradd II*) a adeiladwyd yn 1797, yn ystod cyfnod adeiladu cynnar i gario'r gamlas a dyfrbont Camlas Brycheiniog a'r Fenni, gan gynnwys waliau cynhaliol a phont orlif. Mae'r nodwedd, sydd wedi'i chuddio bellach gan goed aeddfed yn cynnwys clawdd enfawr dros ffos fawr sy'n cario afon Clydach. Mae nodweddion eraill sy'n gysylltiedig â'r gamlas yn cynnwys pontydd a nodweddion cyflenwi dwr, megis ffosydd a ffrydiau.
Mae'r ardal hefyd yn cynnwys nodweddion diwydiannol eraill megis yr Odynau Calch yn Auckland House (Rhestredig Gradd II), a Melin Wlân Dan-y-Bont a addaswyd bellach, a'i phont gerllaw dros afon Clydach (Rhestredig Gradd II).
Lleolid yr anheddiad diwydiannol cynnar, a gynhwysai graidd o ddatblygiadau hirgul, ar hyd y briffordd i'r Fenni; y rhes fer o dai, sydd ag iardiau unionlin y tu cefn iddynt, yw nodwedd amlycaf yr anheddiad. Dangosir adeiladau diwydiannol (warysau ac ati) wedi'u gwasgaru o amgylch y gamlas ac i'r dwyrain o'r Felin yn Dan-y-bont, gan gynnwys Rock Cottage (Rhestredig Gradd II) hefyd ar Fap Degwm 1840. Mae'r ardal heddiw yn cynnwys Tafarnau (rhai yn cynnig llety) gerllaw'r Gamlas, Swyddfa Bost, eglwys ôl-ganoloesol a thri chapel anghydffurfiol, sef capel Hope y Bedyddwyr, a adeiladwyd yn 1876 o Hen Dywodfaen Coch, sydd â ffenestri pengrwn hir a mynedfa yn y talcen; yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig (Cynulleidfawyr) dyddiedig 1886 a adeiladwyd yn yr Arddull Gothig o dywodfaen Pennant ag addurniadau o frics melyn, a Chapel Methodistaidd Wesleaidd dyddiedig 1848.