Gelli-gaer

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gelli-gaer

001 Anheddiad Hanesyddol Gelli-gaer


Aerial view of Gelligaer

HLCA 001 Anheddiad Hanesyddol Gelli-gaer

Craidd yr anheddiad hanesyddol; safleoedd milwrol Rhufeinig; cyfadail baddonau Rhufeinig, caerwaith, eglwys ac anheddiad canoloesol. Nôl i'r map


Cefndir hanesyddol

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Anheddiad Gelli-gaer yn cynnwys craidd hynafol yr anheddiad trefol a ymestynnodd yn ddiweddar i'r de ac i'r gorllewin. Yn ffinio â'r ardal gymeriad hon i'r gorllewin ac i'r de mae'r B254 ac mae'r ardal gymeriad yn ymestyn i'r dwyrain hyd at Nant Cylla ac i'r gogledd hyd at y Cross Inn ar Heol Adam. Mae'r ardal yn cynnwys safleoedd ceyrydd Rhufeinig ac olion cysylltiedig, castell canoloesol Twyn Castell i'r de a adeiladwyd o gloddweithiau ac eglwys amlwg Catwg Sant a'i mynwent. Mae olion anheddiad cnewyllol Gelli-gaer yn dyddio o'r cyfnod Rhufeinig o leiaf. Dewiswyd y safle ar gyfer caer bwysig o bridd a phren, a adeiladwyd fel rhan o'r ymgyrchu a'r gorsafu milwrol gan y Rhufeiniaid yn ystod y ganrif gyntaf yn Ne Cymru. Saif mewn lle uchel ar esgair lydan Cefn Gelli-gaer tua 240m uwchben O.D. ac mae wedi'i leoli'n strategol ar linell y ffordd Rufeinig sy'n rhedeg i'r de o Aberhonddu, trwy Benydaren a Chaerffili, i Gaerdydd. Archwiliwyd y gaer sefydlog hon o gyfnod Flavius gan y diweddar Athro Michael Jarrett ym 1963 a nododd ei bod yn gloddwaith hirsgwar mawr tua 6 erw o faint. Cyn hynny ystyrid bod y gaer hon yn wersyll gorymdeithio neu'n wersyll adeiladu. Fodd bynnag, tua 103-111 O.C. adeiladwyd caer llai o faint o gerrig (3.7 erw) wedi'i lleoli yn union i'r de-ddwyrain yn lle'r gaer hon. Gellir gweld olion y sefydliad hwn ar ffurf cloddweithiau yn glir iawn yn y cae i'r gogledd-orllewin o Eglwys Catwg Sant. Mae'r gaer hon yn bwysig am iddi gael ei chloddio i raddau helaeth (er bod hynny ar hap) ym 1899-1901 gan aelodau o Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, a gynhyrchodd gynllun clasurol ar gyfer trefniadau mewnol caer o ddechrau'r 2il ganrif.

Mae'r gaer olaf yn dal i fod yn nodwedd bwysig yn ardal gymeriad y dirwedd hanesyddol hon, sydd hefyd yn elwa ar olion archeolegol claddedig eraill ar ffurf rhandy caer o'r 3ydd-4ydd ganrif (?) i'r de-ddwryain sy'n cynnwys olion balneum (baddondy) y gatrawd - un o'r baddondai mwyaf godidog y gwyddom amdano yng Nghymru. Ar ben hynny datguddiwyd olion odynau Rhufeinig yn y fynwent a nodwyd safle'r maes ymarfer sydd wedi'i balmantu'n arw i'r gogledd-ddwyrain o'r gaer. Dilynir llinell y ffordd Rufeinig gan lwybr modern Heol Adam wrth iddi ymestyn tua chefn gwlad Tir Comin Gelli-gaer i'r gogledd, lle y mae darnau sylweddol ohoni wedi goroesi ar ffurf cloddwaith sy'n nodwedd amlwg yn y dirwedd.

Mae dwy brif elfen wedi goroesi yn y dirwedd fodern i'n hatgoffa o'r aneddiadau canoloesol a oedd yn bodoli yng Ngelli-gaer. Adfeilion Twyn Castell, castell cloddwaith caerog 150m i'r de-ddwyrain o'r gaer Rufeinig, ac Eglwys drawiadol Catwg Sant yw'r rhain.

Priodolwyd y gwaith o adeladu'r castell o gloddweithiau i arglwyddi Cymreig cymydau mynyddig Senghennydd. Mae'n bosibl mai cadarnle Cadwallon ydoedd, sef mab Ifor Bach, a grybwyllir yn Rhôl y Siecr am y flwyddyn 1197-98. Ar ôl i'r Saeson gyfeddiannu Senghennydd ym 1267, daeth Gelli-gaer yn un o faenorau demên arglwyddiaeth Caerffili ac mae'n bosibl i swyddogaeth filwrol y castell ddod i ben bryd hynny. Mae'r olion yn cynnwys twmpath neu fwnt mawr serth ac iddo ben gwastad ar ffurf hirgrwn fwy neu lai, wedi'i osod mewn ceunant cul. Ni ddaeth unrhyw dystiolaeth o feili neu anheddiad amddiffynedig i'r golwg eto.

Mae'n debyg bod y castell yn dyddio o'r 12fed ganrif ac mae'n bosibl bod eglwys bresennol plwyf Gelli-gaer sydd wedi'i lleoli ar dir ychydig yn uwch i'r gogledd yn dyddio o'r un ganrif hefyd. Gellir edrych ar Eglwys Catwg Sant, a saif gerllaw'r gaer Rufeinig, fel tystiolaeth o anheddiad parhaus yn datblygu o fynwent Rufeinig/isrufeinig fel y gwelwyd mewn mannau eraill. Cyfeirir at yr eglwys mewn ffynonellau dogfennol yn gyntaf ym 1254. Roedd y fynwent a gofnodwyd ar Fap Degwm 1842 ar ffurf gromlinell. Mae'r eglwys yn cynnwys corff yr eglwys, cangell ar wahân, twr gorllewinol a chanddo dyred grisiau estynedig a phorth y de ac mae'n cynnwys olion o'r mwyafrif o gyfnodau o'r 13eg ganrif o leiaf.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir yr ardal hon gan anheddiad cnewyllol hynafol Gelli-gaer, a fu'n ganolfan filwrol ac yn gymuned bwysig ers y cyfnod Rhufeinig. Mae'r craidd hanesyddol, sy'n ardal gadwraeth, yn cynnwys henebion o bwys cenedlaethol sy'n tystio i nifer o wahanol batrymau anheddu yn yr ardal dros gyfnod hir a di-dor. Mae craidd hynafol Gelli-gaer, sy'n wahanol i'r cytrefiad trefol modern sy'n ymestyn i'r de ac i'r gorllewin, yn ardal gymeriad hynod a phwysig sy'n hawdd i'w hadnabod. Mae'n cynrychioli anheddiad hanesyddol tra phwysig, hynafol, amrywiol a phrin yn ucheldiroedd de-ddwyrain Cymru.