Gelli-gaer
005 Y Tir Comin Agored Canolog
HLCA 005 Y Tir Comin Agored Canolog
Croesgloddiau; ffordd Rufeinig, grwn a rhych, gwaith cloddio. Nôl i'r map
Cefndir hanesyddol
Mae gan ardal gymeriad tirwedd hanesyddol y Tir Comin Agored Canolog nodweddion tebyg i dir comin arall heb ei amgáu ar Dir Comin Gelli-gaer. Fodd bynnag, mae'n cynnwys o leiaf dri chroesglawdd, sy'n unigryw i'r rhan hon o Dir Comin Gelli-gaer a'r ffordd Rufeinig, a dorrir gan y cloddiau ar ongl sgwâr. Mae gan yr ardal dystiolaeth o gyn-amaethu âr ar ffurf cloddweithiau bas o rwn a rhych, nad ydynt, yn ddiddorol, i'w gweld i'r gogledd. Ni chloddiwyd y cloddiau ac nis dyddiwyd, er yr ymddengys mai eu pwrpas oedd darnodi ac isrannu lleiniau pendant o rostir fynyddig, sy'n dangos bod lefel o drefniadaeth gymdeithasol yn gysylltiediag â'r gwaith o rannu'r tir. Hefyd bu cryn dipyn o waith cloddio ar raddfa fach yn yr ardal am y tywodfaen Pennant lleol i'w ddefnyddio mewn adeiladau a waliau clostiroedd. Croesir yr ardal gan bibell nwy bwysig a osodwyd yn y 1980au, a adawodd ystod o borfa wedi'i gwella werdd, sy'n gwbl anghydnaws â'r Tir Comin. Denodd yr ystod hon nifer o weithgareddau hamdden, megis marchogaeth ceffylau ar garlam a golff. Ar hyn o bryd defnyddir y llain gul hon o rostir fynyddig agored â'i phorfa arw ar gyfer pori defaid a merlod, ac mewn mannau mae wedi'i gorchuddio yn nodweddiadol gan eithin.
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Nodweddir yr ardal hon gan lain gul o dir comin agored tebyg i'r ardal i'r gogledd ac i'r de. Fodd bynnag, mae'r ardal yn enwog am y dystiolaeth o waith cloddio cynnar, y ffordd Rufeinig bwysig a nifer o groesgloddiau, sy'n awgrymu bod y tir yn yr ardal hon wedi'i drefnu a'i ddefnyddio yn gynnar, sy'n gysylltiedig o bosibl ag olion bas grwn a rhych.