Gelli-gaer
004 Y Tir Comin Amgaeëdig Dwyreiniol
HLCA 004 Y Tir Comin Amgaeëdig Dwyreiniol
Ffiniau caeau pendant; tystiolaeth enwau lleoedd; clostiroedd; gwaith cloddio a chwareli bach yn perthyn i'r cyfnod ôl-ganoloesol. Nôl i'r map
Cefndir hanesyddol
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol y Tir Comin Amgaeëdig Dwyreiniol yn debyg i'r tir comin amgaeëdig gorllewinol ac fe'i nodweddir gan lwyfandir o fryniau isel lle y ceir porfa amgaeëdig wedi'i gwella a phatrwm anheddu o ffermydd wedi'u gwasgaru yma ac acw, y mae rhai ohonynt yn adfeilion. Roedd y gwaith amgáu trefnus wedi tresmasu ar y tir comin agored erbyn diwedd y 18fed ganrif ac mae'n debyg bod datblygiad y patrwm anheddu yn adlewyrchu patrwm anheddu'r Tir Comin Amgaeëdig Gorllewinol (HLCA 003). Fodd bynnag, ni wyddom am unrhyw aneddiadau nac archeoleg greiriol gynnar yn yr ardal hon, er bod tystiolaeth yr enwau lleoedd Tir y Felin a Maerdy yn awgrymu y byddai gwneud arolwg pellach yn fuddiol. Mae'n bosibl bod Maerdy, sef tþ'r maer, yn gysylltiedig â maenor ddemên Eglwyswladus, y ceir cyfeiriadau ato mewn dogfennau, a leolir yn ardal gymeriad HLCA 002 yn union i'r de. Yn rhan ddeheuol yr ardal ar y naill ochr a'r llall i Nant Twp ceir cyn-fwyngloddiau a lefelau nas defnyddir, er na wyddom pwy ddechreuodd eu gweithio ar hyn o bryd. Hefyd denodd yr ardal ddeheuol hon ddiwydiant cloddio am dywodfaen Pennant ar raddfa fach.
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Nodweddir yr ardal hon gan ei phorfa amgaeëdig, a arferai fod yn dir comin mynyddig gynt, a phatrwm anheddu o ffermydd wedi'u gwasgaru yma ac acw. Cloddiau sy'n ffurfio ffiniau'r caeau er bod dilyniant cronolegol drwodd at waliau sych i'w weld. Mae pen deheuol yr ardal yn cynnwys tystiolaeth o gyn-weithgarwch cloddio ac mae'n bosibl bod yr enw lle Maerdy yn gysylltiedig ag enghraifft brin o bobl yn anheddu yn yr ardal hon ar Ddechrau'r Oesoedd Canol.