Gwyr
046 Pen-rhys
HLCA046 Pen-rhys
Anheddiad a thirwedd amaethyddol a chyn-ganolfan faenoraidd ôl-ganoloesol/canoloesol: anheddiad cnewyllol bach sydd mewn cyflwr da; ffermydd gwasgaredig, caelun amrywiol; coetir a phlanhigfeydd; archeoleg greiriol; a diwydiant gwledig: melino yn bennaf. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Pen-rhys yn cynrychioli fwy neu lai gyn-faenor neu Arglwyddiaeth Pen-rhys ac eithrio tiroedd craidd ystâd ganoloesol ac ôl-ganoloesol ddiweddarach Pen-rhys i'r gogledd-ddwyrain sy'n cynnwys castell o gerrig a thy bonedd ôl-ganoloesol, ac is-faenor Horton i'r de-orllewin. Mae'r ardal yn cynnwys anheddiad Pen-rhys, a elwid gynt yn Mounty Borough a daliad mynachaidd y Sanctuary, ynghyd â systemau caeau cysylltiedig, a choetir a blannwyd a chyn-ddolydd/rhostir amgaeëdig i'r gorllewin. Mae'r ardal hefyd yn ffinio ag ardaloedd Oxwich a Morfa Oxwich i'r de ac i'r gorllewin yn y drefn honno, tra ei bod yn ffinio â Scurlage i'r gogledd a Reynoldston i'r gogledd-ddwyrain. Mae pentref Pen-rhys (Mounty Borough) wedi'i ddynodi fel ardal gadwraeth (EV 9) yng Nghynllun Datblygu Unedol Abertawe.
Ni chofnodwyd fawr ddim tystiolaeth archeolegol ar gyfer yr ardal sy'n gynharach na'r cyfnod canoloesol ac eithrio cae diddyddiad (00162w) a nodir ar ffotograffau a dynnwyd o'r awyr ym Mryn Sil, ac a all fod yn gysylltiedig â gweithgarwch anheddu yn ystod y cyfnod cynhanesyddol neu ddechrau'r cyfnodau canoloesol, ond mae angen cadarnhau hynny ymhellach. Mae'r safle, yr ystyrir ei fod yn un domestig, yn cynnwys ffos gylchog hirgron sydd tua 5m o led, ac sy'n amgáu ardal ag arwyneedd o 0.2 ha ar dir sy'n graddol godi tua'r de-orllewin ac sy'n disgyn yn fwy serth ar ochrau eraill.
Yn ystod y cyfnod canoloesol ffurfiai anheddiad Pen-rhys graidd ffiff Mounty Borough (ffiffiau Pen-rhys a Horton yn ddiweddarach), a sefydlwyd ym 1099 gan Henry de Beaumont, sy'n cael y clod am adeiladu'r amddiffynfa gylch a elwir yn Mounty Borough (00165w; 305472; SAM GM053), ac adeiladu eglwys Sant Andreas gerllaw (00186w; 11542), y credir iddi gael ei sefydlu yn y ddeuddegfed ganrif. Ymddengys i Ben-rhys roi ei enw i'r teulu Penres, a roddodd yr eglwys, yn ystod esgobaeth David, Esgob Tyddewi (1147-1176) i Gomandwr Marchogion Sant Ioan yn Slebets; cadarnheir y rhodd tua 1180 gan John de Penres a thua 1200 gan Robert de Penres. Trosglwyddwyd eglwys Pen-rhys yn ddiweddarach i Ysbyty Dewi Sant yn Abertawe, yr atafaelwyd ei gwaddolion a'u hail-roi o dan Edward VI.
Ceir cysylltiad pellach â Marchogion Sant Ioan o ran safle fferm ôl-ganoloesol y Sanctuary, y dywedir bod ei rhagflaenydd yn perthyn i faenor Millwood, neu Sant Ioan, a oedd yn eiddo i Farchogion Sant Ioan.
Yr amddiffynfa gylch ym Mhen-rhys yw'r drydedd fwyaf ym Mro Gwyr, ar ôl North Hill Tor a Norton, a'r un â'r adeiladwaith mwyaf sylweddol; nodwyd cydberthynas rhwng maint mawr a dyddiad sefydlu cynnar. Mae Pen-rhys yn un o'r ddeuddeg o 'hen ffioedd marchog' a ddelid trwy wasanaeth milwrol cyn 1135, a restrir mewn siarter ddyddiedig 1306 (RCAHMW 1991, 29-30, 113-115; Draisey 2002, 19; Nicholl 1936,168-169). Ymddengys mai cymharol fyrhoedlog fu'r amddiffynfa gylch, am y credir iddi gael ei gadael yn ystod y ddeuddegfed ganrif, pan symudodd y teulu i safle'r castell cerrig mwy o faint i'r gogledd-ddwyrain (gweler HLCA 047). Arhosodd y teulu de Penres ym Mhen-rhys tan ddechrau'r 15fed ganrif, pan drosglwyddwyd yr arglwyddiaeth i'r teulu Mansel trwy briodas. Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol parhaodd ystâd Pen-rhys yn brif berchennog tir yr ardal, a oedd ym meddiant y teulu Mansel Talbot erbyn y ddeunawfed ganrif.
Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO, dyddiedig 1879, y patrwm anheddu fwy neu lai fel yr ymddangosai ar y cynllun ystâd dyddiedig 1785 ar wahân i fwthyn unigol a ychwanegwyd. Mae'r anheddiad yn cynnwys clwstwr cnewyllol o fythynnod a ffermydd, wedi'u lleoli i'r de o'r eglwys o fewn ei mynwent led-hirsgwar. Byddai cymharu'r cynllun ystâd yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif, argraffiad 1af map yr AO a mapiau cyfredol yn dangos bod y mywyafrif llethol o ffermydd a bythynnod yr ardal wedi goroesi, ac na fu fawr ddim newid yng nghynllun yr anheddiad ers y ddeunawfed ganrif. Ni ellir diystyru'r posibilrwydd bod nodweddion pensaernïol diddorol wedi goroesi. Mae cyfran gymharol uchel o ffermydd llai o faint ac anheddau eraill yr ardal, a ddangosir ar y map yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif, hefyd yn ymddangos ar argraffiad cyntaf map yr AO ac ymddengys eu bod wedi goroesi hyd heddiw ar ryw ffurf neu'i gilydd, gan gynnwys Bwythyn Church, Marsh View, Bwthyn Rose, Sea View, Bwthyn Bay View, er mai dim ond trwy wneud rhagor o archwiliadau maes y gellir cadarnhau hynny. Dengys y map degwm dyddiedig tua 1840 ac argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO rai ychwanegiadau yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg megis Bwthyn Hillside.
Y tu hwnt i brif anheddiad Pen-rhys ceir nifer fach o ffermydd anghysbell, gan gynnwys ffermdy Pitt sy'n dyddio o ganol yr 17eg ganrif, y credir iddo gael ei adeiladu gan David Bennet (d1666), neu ei fab. Cofnodir y cyntaf, y mae ei gofeb yn eglwys Sant Andreas, fel tenant i Pitt mewn arolwg dyddiedig 1632. Ym 1670 cofnodir wyth aelwyd ar gyfer Fferm Pitt; arhosodd disgynyddion y teulu Bennet yn Pitt tan ddiwedd y ddeunawfed ganrif (LB 11545 II*). Ar ben hynny, dengys yr argraffiad cyntaf ffermydd y Sanctuary, Bysouth, Bryn Sil, Moor a Merrysun; dangosir un odyn galch segur yn y caeau i'r gogledd-orllewin o fferm Merrysun.
Yn ei hanfod mae patrwm y caelun cysylltiedig yn union yr un fath â'r hyn a ddangosir ar argraffiad cyntaf map yr AO, a'r cynllun ystâd dyddiedig 1785, er i gryn dipyn o waith gael ei wneud yn ystod yr ugeinfed ganrif i gyfuno caeau i ddarparu ar gyfer datblygiadau mewn arfer ffermio, a arweiniodd at golli gwrychoedd. Mae olion y cyn-gae agored canoloesol sy'n gysylltiedig â Phen-rhys i'w gweld o hyd yn y dirwedd fodern, fel olion ffosiledig llain-gaeau hirgul, y ceir mynediad iddynt o'r llwybrau sy'n arwain i'r de o'r anheddiad, yn arbennig o amgylch y Sanctuary a Fferm Pitt. Yr ardal i'r gogledd ac i'r gorllewin o Fferm Bryn Sil a welodd y nifer fwyaf o newidiadau; adliniwyd ffiniau blaenorol i raddau helaeth, cyfunwyd caeau bach i greu caeau mawr, isrannwyd ardaloedd a arferai gynnwys doldir a rhostir agored, 'Mead Moor', i'r gorllewin o goetir hynafol Mill Wood.