Gwyr
042 Trwyn y Mwmbwls a Rotherslade
HLCA042 Trwyn y Mwmbwls a Rotherslade
Parth rhynglanwol ac ymyl arfordirol agored: nodweddion arfordirol ac arforol; safleoedd cloddio a safleoedd amddiffynnol; archeoleg gladdedig; twristiaeth. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Trwyn y Mwmbwls a Rotherslade yn cyfateb i'r ymyl arfordirol agored (ymyl clogwyn a bryn agored) rhwng Rothers Tor a thrwyn y Mwmbwls rhwng Bae Langland a'r Mwmbwls. Gorweddai'r ardal hon o fewn cyn-ddemên a phlwyf Ystumllwynarth.
Yn debyg i ardaloedd arfordirol eraill ym Mro Gwyr, ceir ogofâu ar hyd y blaen traeth creigiog ac ymyl y clogwyn. Darganfuwyd olion esgyrn anifeiliaid yn ogofâu Rothers Tor (01431w) ac Inner Sound (01426w; 04714w). Darganfuwyd Inner Sound, yr un fwyaf dwyreiniol o 'ogofâu esgyrn' Bro Gwyr, gan waith cloddio ym 1838 a thaflwyd y mwyafrif o'r esgyrn i'r môr. Achubodd L. W. Dillwyn rai o olion mamoth ag ysgyfrithedd syth, a arddangosir bellach yn Amgueddfa Abertawe. Ni ddarganfuwyd unrhyw olion dynol nac unrhyw dystiolaeth o weithgarwch anheddu er y gellir casglu bod gweithgarwch yn digwydd yn yr ardal o'r cyfnod Neolithig o leiaf ar sail y dystiolaeth a gafwyd o ardaloedd oddi amgylch yn arbennig Bae Abertawe ac mae darganfyddiadau o ogofâu yng ngorllewin Bro Gwyr yn dyddio o'r cyfnod Paleolithig.
Ni chafwyd unrhyw dystiolaeth uniongyrchol o'r HLCA hon sy'n dyddio o'r cyfnod cyn y cyfnod ôl-ganoloesol fodd bynnag, mae safle fila bosibl ar safle eglwys blwyf lle y cafwyd darganfyddiadau Rhufeinig yn tystio i'r ffaith bod pobl yn byw yn ardal Ystumllwynarth yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Mae eglwys a chastell Ystumllwynarth gerllaw sy'n dyddio o'r ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ganrif ar ddeg yn y drefn honno yn arwydd pellach o weithgarwch sefydlu aneddiadau yn yr ardal oddi amgylch. O'r cyfnod canoloesol ymlaen mae'n dra thebyg y defnyddid ymyl y clogwyn a'r tir comin ar gyfer pori anifeiliaid.
Cloddio calchfaen o wynebau'r clogwyni a'r ogofâu er mwyn ei gludo i fannau eraill ar arfordir De Cymru a Dyfnaint oedd un o'r prif weithgareddau yn yr ardal. Cyflymodd y gweithgarwch hwn yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol; o 1650 honnir bod gan arglwydd y faenor chwarel ar glogwyni'r mwmbwls (Gabb 1986). Llofnododd y Capten George Phillips brydles gan Ddug Beaufort ym 1844, a ganiatâi iddo gloddio o'r Knab i Fae Braclet. Erbyn 1850 roedd cymaint o garreg wedi'i symud o'r ardal nes i ymchwiliad gael ei sefydlu i benderfynu a oedd hynny wedi effeithio ar angorfa gysgodol llongau yn y bae (Gabb 1986). Darganfuwyd nifer fawr o olion dynol ( 02999w, 00467w) yn holltau'r graig; dyddiwyd y rhain yn betrus i'r cyfnod canoloesol, a disgrifiwyd rhai ohonynt fel cyrff pobl a laddwyd mewn rhyfel a chysylltwyd eraill â mynwent hen gapel yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth gadarn i ategu'r dyddiad hwn. Dangosir chwarel fawr ar Fryn y Mwmbwls ar argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO. Daeth gweithgarwch cloddio yn yr ardal i ben yn y 1960au. Cloddiwyd Mwyn Haearn hefyd ar raddfa fach, y rhedai gwythïen ohono trwy Fryn y Mwmblws; lleolir gefail ychydig y tu allan i'r ardal hon (03096w).
Roedd yr ardal arfordirol hon yn bwysig ar gyfer llongau a gweithgareddau arforol. Roedd y darn o arfordir o amgylch trwyn y Mwmbwls yn arbennig o beryglus. Erbyn 1793 adeiladwyd goleudy (00828w; LB 11721 II*) ar yr ynys allanol a oleuid gan danau glo, disodlwyd y rhain gan lamp olew ym 1799 (Gaab 1986). Drylliwyd llawer o longau oddi ar yr arfordir hwn hyd yn oed ar ôl i'r goleudy gael ei adeiladu, mae enghreifftiau yn cynnwys Hope a ddrylliwyd ym 1806 ar Draeth Mixon, SS Tyne a ddrylliwyd ym 1919 ar ôl iddi wrthdaro â'r Sgwner Ffrengig Fleur de Mer a Protesilaus a drawodd ffrwydryn oddi ar Drwyn y Mwmbwls (Edmunds 1979). Y gobaith oedd y byddai adeiladu pier (00820w LB 11731 II) yn y Mwmbwls a'i gysylltu â Rheilffordd y Mwmbwls yn cynyddu masnach o'r ardal. Cwblhawyd y gwaith ym 1898; ond nis defnyddiwyd erioed at ddibenion masnach ac yn lle hynny daeth yn nodwedd dwristaidd boblogaidd (gweler isod). Mae'n amlwg bod Ystumllwynarth (Oystermouth yn Saesneg) yn enwog am ei wystrys ac mae tystiolaeth o ardaloedd oddi amgylch yn dangos i'r adnodd hwn gael ei ecsbloetio o'r cyfnod Rhufeinig a chyn hynny yn ôl pob tebyg. Ym 1684 ystyrid bod gan y Mwmbwls y gwelyau wystrys gorau ym Mhrydain. Buwyd yn casglu wystrys o'r ardal tan ddiwedd y 1930au.
Ym 1835, sefydlodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub orsaf bad achub yn y Mwmbwls, (erbyn hyn fe'i lleolir ychydig oddi ar y pier diweddarach) mewn ymateb i ddeiseb ar ôl i fywydau gael eu colli mewn cymaint o longddrylliadau ar Draeth Mixon a Thraeth Mixon a Scarweather (Edmunds 1979). Cafwyd tri thrychineb yn cynnwys badau achub, dau pan oeddid yn ceisio achub pobl o longau eraill; yr un gwaethaf y gwyddom amdano yw trychineb 1947 pan gollodd holl aelodau'r criw eu bywydau yn ceisio cynorthwyo'r Samtampa a gollodd bob aelod o'i chriw hefyd.
O'r ddeunawfed ganrif o leiaf chwaraeai'r ardal rôl fwy amddiffynnol a lleolid magnelfeydd ar Ynys y Mwmbwls (02243w) a Bryn y Mwmbwls (03097w). Adnewyddwyd y magnelfeydd hyn y naill ar ôl y llall yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Adeiladwyd magnelfa (LB 22571 II) gerllaw goleudy'r Mwmbwls ym 1860 rhag ofn y byddai'r Ffrancwyr yn ymosod. Mae olion eraill amddiffynfeydd yn dyddio o'r Ail Ryfel Byd yn cynnwys llwyfannau magnel (02244w), arfdy (LBs 22569 II; 22570) a chwiloleuadau (03102w, 03103w).
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth y Mwmbwls a'r arfordir cysylltiedig yn gyrchfan poblogaidd i dwristiaid, daeth yr ardal yn fwy poblogaidd ar ôl i'r pier gael ei adeiladu ym 1898 ac ar ôl i reilffordd y Mwmbwls gael ei hymestyn (02811.0w, 03101w). Glaniai stemars olwyn a fuasai'n cymryd ymwelwyr undydd ers y 1830au bellach wrth y pier. P. ac A. Campbell a'u Cwmni Cyf oedd un o'r cwmnïau mwyaf, a hwyliai eu llongau i Weston-super-Mare, Clevedon, Minehead, Ilfracombe ac ynys Wair (Gaab 1986). Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif cynigiai'r pier amrywiaeth o weithgareddau, difyrion ac adloniant, gan gynnwys bandiau, chwaraeon dwr, a chyngherddau. Yn ystod tri degau'r ugeinfed ganrif daeth y pier i feddiant yr Amusement Equipment Co. Ltd a osododd Dodgems a gemau eraill (Gaab 1986).
Mae'r Mwmbwls yn dal i fod yn lle poblogaidd ar gyfer twristiaeth, ac mae llawer o bobl yn cerdded ar hyd pennau'r clogwyni neu i lawr i Fae Limeslade, fodd bynnag, nid yw'r pier mor boblogaidd bellach, er bod ymdrechion wedi'u gwneud i adfer rhywfaint o'i lwyddiant cychwynnol. Erbyn hyn defnyddir yr ardal gymeriad hon fel ardal dwristaidd a chanddi fannau agored hamdden.