Blaenafon
017 Mynydd y Garn-fawr
HLCA 017 Mynydd y Garn-fawr
Tirwedd ucheldirol agored a nodweddir gan nodweddion angladdol/defodol cynhanesyddol a gweithgarwch pori da byw. Nodweddion diwydiannol dibwys iawn sy'n cynnwys yn bennaf cerrig terfyn.Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Mynydd y Garn-fawr yn adlewyrchu terfynau'r tir agored a'r brif ardal gloddio ddiwydiannol. Mae gweithgarwch yn yr ardal hon yn dyddio o'r Oes Efydd o leiaf ac fe'i cynrychiolir gan nifer o garneddau crwn a leolir ar y mynydd, gan gynnwys carneddau Gogleddol a Deheuol Carn-y-Defaid (SAM: MM209, Carn y Big Fach a Charn y Capel.
Ceir tystiolaeth o rywfaint o weithgarwch tresmasu a gweithgarwch diwydiannol ar raddfa fach yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol yn yr ardal hon; roedd chwarel ac anheddiad cysylltiedig bach yng Nghefn-y-lan o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'n debyg y câi chwareli bach eraill ar gyrion yr ardal ynghyd ag odyn galch eu defnyddio at ddibenion amaethyddol. Roedd cronfa ddwr a ffrydiau cysylltiedig ym Mhwll Mawr.
Mae'r ardal yn cynnwys rhostir agored ar hyn o bryd a ddefnyddir at ddibenion pori anifeiliaid.
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Disgrifir Mynydd y Garn-fawr fel rhostir ucheldirol agored yn bennaf sy'n cynnwys nodweddion angladdol a defodol cynhanesyddol nodweddiadol. Mae Carn-y-Defaid yn cynnwys dwy garnedd gron o gerrig mawr, ar gopa'r esgair i'r de o'r Blorens. Mae'r garnedd fwyaf yn mesur 16m ar ei thraws ac 1.8m o uchder ac mae'r un lleiaf yn mesur 14m ar ei thraws ac 1-1.5m o uchder.
Nodweddir yr ardal hefyd gan nodweddion sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth a gweithgarwch rhannu tir ar dir uchel; mae corlannau ac ardaloedd o ffriddoedd ôl-ganoloesol ac ardaloedd y bu pobl yn tresmasu arnynt yn y cyfnod ôl-ganoloesol yn elfennau nodweddiadol yn ogystal ag arwyddion terfyn sy'n cynnwys cloddiau a physt o haearn fwrw yn dyddio o ddechrau'r ugeinfed ganrif yr engrafwyd PG&W Co arnynt.