Blaenafon
015 Llan-ffwyst
HLCA 015 Llan-ffwyst
Anheddiad gwledig bach: anheddiad strimynnog yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ystadau cynlluniedig yn dyddio o'r ugeinfed ganrif. Amrywiaeth o dai domestig, adeiladau brodorol, tai diwydiannol a chymdeithasol. Rhwydweithiau trafnidiaeth yn cynnwys ffordd a chysylltiadau â Glanfa Llan-ffwyst a'r gamlas (HLCA013). Mân nodweddion prosesu diwydiannol.Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Llan-ffwyst yn adlewyrchu'r anheddiad presennol. Sefydlwyd Llan-ffwyst yn y cyfnod canoloesol; credir i'r eglwys, y gwyddom ei bod yn bodoli erbyn 1254, gael ei sefydlu ar ddechrau'r cyfnod canoloesol gan Ffwyst, offeiriad o goleg Sant Seiriol ar Ynys Môn. Ailadeiladwyd yr adeilad presennol (Rhestredig: Gradd II) yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wedi'i lleoli yn y fynwent mae croes yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol (SAM: MM306).
Tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg arhosodd yn anheddiad bach, a gwasanaethai eglwys plwyf Llan-ffwyst blwyf o ffermydd gwasgaredig ac ystadau maenoraidd; lleolir cartrefi'r prif berchenogion tir, megis Grove Farm, y tu allan i ffin y HLCA bresennol. O fewn yr ardal ei hun, mae'n debyg i Waterloo House (Rhestredig: Gradd II), ffermdy yn dyddio o ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, a elwid gynt yn Faerdy (sef Ty'r Maer) gael ei sefydlu yn y cyfnod canoloesol; fe'i trowyd yn dafarn, sef y Waterloo Inn, ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae Blorenge Cottage, annedd a newidiwyd sy'n dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg ac a leolir ar gwr yr ardal, yn enghraifft arall sydd wedi goroesi.
Ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg adeiladwyd rhai filâu, mewn clwstwr i'r gorllewin o Eglwys Llan-ffwyst, er enghraifft Dan-y-Blorenge a The Laurels (South Lodge). Cynyddodd gweithgarwch anheddu ymhellach a chafwyd datblygiadau strimynnog yn cynnwys bythynnod diwydiannol ar hyd y priffyrdd o ganlyniad i dwf diwydiant yn yr ardal; terfynodd Tramffordd Hill yn iard lo Llan-ffwyst a gerllaw roedd cefnen ac arni odynau calch a gefail. Ar ôl adeiladu Rheilffordd Merthyr Tudful, Tredegar a'r Fenni ym 1862, adeiladwyd rhagor o fythynnod gweithwyr ar hyd 'The Cutting'. Erbyn y 1880au roedd gan Lan-ffwyst ysgol a bragdy, fodd bynnag, bryd hynny roedd y rhan fwyaf o'r tir yn yr ardal yn dal i gael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol neu roedd yn cael ei weithio fel rhandiroedd.
Dim ond yn yr ugeinfed ganrif y cafwyd gwaith datblygu ar raddfa fawr yn yr ardal. Erbyn y 1960au roedd yr ardal rhwng Kiln Road a Gipsy Lane wedi datblygu ac roedd maes chwarae a phafiliwn gerllaw Glannant-y-llan. Gwnaed cryn dipyn o waith mewnlenwi yn ystod ail hanner y ganrif i greu'r naws gryno bresennol sydd gan yr ardal.
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Erbyn hyn mae Llan-ffwyst, anheddiad gwledig bach yn seiliedig ar ganolbwynt plwyf canoloesol, a nodweddid yn wreiddiol gan wasgariad llac o ffermydd 'wedi'u canoli' ar eglwys blwyf ganoloesol, yn cynnwys gan mwyaf ddatblygiadau tai yn dyddio o'r ugeinfed ganrif, ystadau tai cyngor yn dyddio o'r 1930-60au yn bennaf, gan gynnwys Dumfries Close a Woodland Crescent, yr oedd gan yr olaf doeau teils yn arddull Mansard. Fodd bynnag, mae craidd o fythynnod teras a filâu ar wahân yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi goroesi hefyd.
Ymhlith y tai cynharaf mae Waterloo House, ffermdy deulawr ôl-ganoloesol â phedwar bae a adeiladwyd o gerrig llanw gwyngalchog o dan do llechi a chanddo risiau bargodol y tu cefn iddo. Dechreuodd fel neuadd â dau fae yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg a arferai gynnwys gyntedd croes, yr ychwanegwyd bloc heulol yn dyddio o bosibl o'r ail ganrif ar bymtheg ato yn ddiweddarach. Mae prif nodweddion yr adeilad yn cynnwys cyrn simnai o frics, y mae rhai ohonynt wedi'u gosod ar letraws. Mae nodweddion eraill yn cynnwys cerrig diddos yn ogystal â chasmentau a adnewyddwyd sydd â mowldin ofolo, ffrâm goed a ffenestr plwm siâp diemwnt. Mae Blorenge Cottage yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg. Mae gan y bwthyn unllawr a hanner hwn waliau gwyngalchog o gerrig llanw a tho serth o deils cerrig, cyrn simnai o frics yn y ddeupen ac ychwanegiadau diweddarach. Mae'r ffenestri yn ffenestri adeiniog â dau gwarel â hanner dormerau ar ogwydd uwchben.
Mae filâu mawr ar wahân yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hefyd yn nodweddiadol o'r ardal; tai deulawr â thair ffenestr ydynt fel arfer sydd wedi'u gosod ychydig yn ôl o'r ffordd. Mae enghreifftiau yn cynnwys Dan-y-Blorenge, Tanyrallt, The Laurels (South Lodge) a Glannant-y-llan, a sefydlwyd yn gynharach o bosibl. Mae'r olaf yn arbennig oherwydd ei ffenestri Gothig pictiwrésg. Mae South Lodge (Rhestredig: Gradd II), sydd â chynllun sgwâr a tho llechi talcennog a chyrn simnai o frics, wedi cadw ffenestri pengrwn ar y llawr uchaf a feranda â cholofnigau o haearn bwrw. Mae'n debyg i'r cerbyty a'r stablau cerrig gerllaw gael eu hadeiladu yr un pryd â'r porthordy (Rhestredig: Gradd II).
Mae tai gweithwyr nodweddiadol yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn yr ardal yn cynnwys rhes ar hyd 'The Cutting'. Adeiladwyd y bythynnod pâr hyn sydd ag un ffrynt o gerrig patrymog ac mae ganddynt fân addurniadau o frics melyn o amgylch y ffenestri a'r drysau, toeau llechi a chyrn simnai o frics. Mae elfennau gwreiddiol nodweddiadol yn cynnwys estyllod dwr, portshys bach/porticos â thoeau llechi uwchben y drysau ac iardiau blaen bach y ceir waliau brics â rheiliau haearn o bob tu iddynt. Mae tai teras yr ardal at ei gilydd yn unffurf o ran arddull ac fel arfer maent wedi'u hadeiladu o gerrig patrymog ac mae ganddynt fân addurniadau o frics melyn a thoeau llechi, er y ceir rhai mân amrywiadau: sy'n amrywio rhwng tai â ffrynt dwbl ac un ffrynt a rhwng presenoldeb/absenoldeb ffenestri crwm, sy'n nodi lefelau o statws a dyheadau cymdeithasol.
Mae elfennau nodweddiadol eraill yn yr ardal yn cynnwys nodweddion trafnidiaeth: megis Tramffordd Hill a Rheilffordd Merthyr Tudful, Tredegar a'r Fenni yn ogystal â chysylltiadau â glanfa Llan-ffwyst (yn HLCA013) a nodweddion yn gysylltiedig â diwydiant, megis odynau calch, iard lo a gefail.
Mae cysylltiadau hanesyddol yr ardal yn cynnwys cysylltiadau â Crawshay Bailey, a fu farw ym 1872 yn ystod ei ymddeoliad yn Llanfoist House ac a goffeir gan gofgolofn yn y pentref.