Blaenafon
012 Anheddiad Forgeside
HLCA 012 Anheddiad Forgeside
Ardal breswyl ddiwydiannol a ddisgrifir fel anheddiad cwmni bach, cryno â chynllun grid rheolaidd sy'n gysylltiedig â datblygiad gwaith haearn diweddarach Blaenafon yn Forgeside yn ogystal â Phwll Mawr a phyllau glo eraill. Tai teras diwydiannol a datblygiad ar ffurf ystâd tai cyngor yn dyddio o'r ugeinfed ganrif.Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Anheddiad Forgeside yn seiliedig ar derfynau'r gwaith haearn a'r anheddiad glofaol cynlluniedig rheolaidd, a ddatblygwyd i wasanaethu gwaith haearn Cwmni Blaenafon a phyllau glo gerllaw o'r 1850au. Rhoddwyd yr enwau ymarferol Rhes A, B, C, D ac E i'r tai cynharaf, dangosir y rhain ar argraffiad 1af map yr AO ynghyd â Clapham Terrace ac Oxford Terrace. Arferid defnyddio Coity House (Rhestredig; Gradd II), a adeiladwyd yn fuan ar ôl 1860, fel ty ar gyfer rheolwr Cwmni Blaenafon. Mae'r tai pâr ar wahân o ddiddordeb: sef Ark House (a elwir bellach yn Beech House) ac Oak House; maent yn nodweddiadol o dai lle y bu rheolwyr neu fformyn gwaith yn byw. Mae Capel Zion (Rhestredig: Gradd II), ychwanegiad cymharol ddiweddar a adeiladwyd gan y Bedyddwyr ym 1874, hefyd yn haeddu sylw.
Cydymffurfiodd datblygiadau ychwanegol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg â'r cynllun grid rheolaidd sefydledig. Cynhwysai'r datblygiadau hyn derasau Oxford Terrace, Coity Terrace a Gething Terrace yn ogystal ag ysgol (fel y dangosir ar 2il argraffiad map yr AO). Adeiladwyd Martin Terrace ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, tua 1920 adeiladwyd gorsaf drydan (Rhestredig: Gradd II) a chodwyd Neuadd Les ym 1934. Ni fu fawr o newid yn yr anheddiad ers hynny ar wahân i Griffiths Court a adeiladwyd ar ôl dymchwel Rhesi A a B yn y 1970au a rhai anheddau parod ar wahân a ychwanegwyd ar y cyrion.
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Disgrifir Anheddiad Forgeside el anheddiad diwydiannol â chynllun grid rheolaidd yn dyddio o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg sy'n cynnwys tai teras a rhandiroedd cysylltiedig. Mae'r ardal yn arddangos undod cryf o ran arddulliau a ffurfiau adeiladu ar sail teras wrth deras a rhes wrth res, er bod newidiadau diweddar wedi lleihau'r effaith unffurf i ryw raddau.
O'r pum rhes deras wreiddiol yn yr ardal, Rhes A oedd yr unig un a adeiladwyd o gerrig ac nid o frics; cynhwysai'r rhes hon fythynnod â ffrynt dwbl a ffenestri bach. Mae Rhesi C-E yn cynnwys bythynnod deulawr pâr ag un ffrynt sydd â thoeau llechi, estyniadau cefn a lleiniau iard (roedd Rhes B, a ddymchwelwyd bellach, yn debyg i'r rhain). Mae Rhes C yn codi'r llethr mewn grisiau ac mae'n cynnwys anheddau â chyrn simnai mawr o frics ac amrywiaeth o driniaethau ffrynt. Mae deunydd ac arddull yr iardiau cefn a'r modurdai yn amrywio'n fawr hefyd. Mae Rhes D yn cynnwys un ar bymtheg o fythynnod pâr ag un ffrynt, y mae gan rai ohonynt ffasadau wedi'u rendro ac wedi'u chwipio â gro (wedi'u hadnewyddu) a chapanau drysau o gerrig. Yma mae prif echel y cyrn simnai wedi'i halinio ar hyd crib y to a cheir addurniadau cornis danheddog wrth y walblad. Mae Rhes E yn cynnwys dau ar bymtheg o fythynnod pâr ag un ffrynt, y mae'r mwyafrif ohonynt heb eu rendro, sydd â simneiau yn y gwahanfuriau/talcenni.
Mae terasau nodweddiadol eraill yn cynnwys Clapham Terrace ac Oxford Terrace; mae'r cyntaf yn deras hollt o ddeuddeg a phedwar ar ddeg o fythynnod deulawr ag un ffrynt, drysau pâr o gerrig garw wedi'u gosod yma ac acw, toeau llechi a chapanau drysau o gerrig cylchrannol sy'n codi mewn grisiau i fyny'r stryd; mae'r ail deras yn debyg ar wahân i dai mawr ar wahân a ychwanegwyd (hy Rhifau 6 a 7). Mae tai teras yn dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg/dechrau'r ugeinfed ganrif yn cynnwys Coity Terrace a Martin Terrace; mae'r cyntaf yn cynnwys rhes o un ar bymtheg o fythynnod deulawr ag un ffrynt a adeiladwyd o gerrig wedi'u gosod yma ac acw ac sydd â drysau pâr, toeau llechi, silffoedd ffenestri o gerrig, capanau drysau o frics a mân addurniadau o frics o amgylch y ffenestri a'r drysau. Mae ffrynt y tai yn wynebu'r stryd ac nid ydynt wedi'u rendro ond symudwyd y cyrn simnai ac adnewyddwyd y ffenestri.
Mae anheddau rheolwr nodweddiadol yn cynnwys Coity House, o gynllun hirsgwar gydag estyniadau. Mae'r prif dy wedi'i rendro, mae ganddo dri bae ar ddau lawr o dan do llechi ar oleddf â theils crib seramig. Mae wedi cadw nodweddion gwreiddiol gan gynnwys ffenestri codi corniog ag un ar bymtheg o gwarelau a chaeadau ffenestri gwreiddiol a bwa cambr i bob agorfa. Mae Ash House ac Oak House hefyd yn adlewyrchu hierarchaeth y cwmni: mae'r rhain yn dai ar wahân â ffrynt dwbl a adeiladwyd o gerrig garw wedi'u gosod yma ac acw sydd â thoeau llechi a llechi ar dalcenni'r tai. Maent wedi cadw waliau wedi'u plastro â morter nodweddiadol ac mae gan yr iardiau blaen reiliau haearn, er bod y cyrn simnai wedi'u symud a'r mwyafrif o'r ffenestri wedi'u hadnewyddu.
Mae elfennau nodweddiadol eraill yn cynnwys: Capel Zion a adeiladwyd gan y Bedyddwyr o dywodfaen pennant llanw ac â tho llechi, sydd wedi cadw agorfeydd pengrwn a mân addurniadau o frics melyn ar y drysau a'r ffenestri, a cheir rheiliau haearn o bob tu iddo; yr orsaf drydan o frics coch; a Neuadd Les sydd â tho talcennog a ffasâd wedi'i blastro â rendr garw.
Newidiwyd cymeriad yr ardal hon ychydig bach trwy ychwanegu tai cyngor ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif ar ffurf Griffith's Court sy'n rhannol wag erbyn hyn.