Blaenafon
007 Llynnoedd Garn (Cynllun Adfer Kay a Kears)
HLCA 007 Llynnoedd Garn (Cynllun Adfer Kay a Kears)
Tirwedd gloddiol ddiwydiannol gynt, a nodweddir yn bennaf erbyn hyn gan dir a adferwyd a gwarchodfa natur wlyptir; nodweddion rheoli dwr. Fe'i nodweddir hefyd gan olion aneddiadau diwydiannol ac amaethyddol cynddiwydiannol claddedig.Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Llynnoedd Garn (Cynllun Adfer Kay a Kears) yn cynnwys y tir a adferwyd ar raddfa fawr sy'n gysylltiedig â chynllun Adfer Kay a Kears.
Ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, cynhwysai'r ardal ffermydd bach a thir amaethyddol cysylltiedig a gynrychiolai'r gweithgarwch anheddu cynddiwydiannol o fewn yr ardal gyffredinol, gan gynnwys HLCA004. Cynhwysai'r ffermydd yn dyddio o ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol yn HLCA007 Flaen y Cwm (Ty Glan yr Afon), Ty'r Rebecca, Persondy, Push John a Bumblehole. Er bod y mwyafrif o'r adeiladau amaethyddol sydd wedi goroesi yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg i'r ddeunawfed ganrif, tybir i'r mwyafrif ohonynt ddisodli adeiladau canoloesol cynharach. Er enghraifft, ystyrir bod y ffermdy ym Mhersondy (a ddymchwelwyd yn y 1970au) yn dy hir canoloesol.
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg caffaelwyd tir yn yr ardal fesul tipyn gan y meistri haearn at ddibenion cloddio ac arllwys gwastraff; cynhwysai safleoedd cloddio yn yr ardal Garn Pits, Pwll Glo Cinder, Kear's Slope, Dick Shon's Level, Blaen y Cwm Level a River Bank Level ymhlith eraill. Gyrrid Pwll Glo Cinder, yr hynaf o'r gweithfeydd glo yn yr ardal hon, gan ddwr mor hwyr â'r 1840au yn hytrach nag ager. Dyma safle trychineb mawr ym 1838 pan laddodd llifogydd un deg pedwar o bobl. Am nifer o flynyddoedd roedd Kear's Slope (mwynglawdd drafft â hedin ar oleddf) a ddechreuwyd rhwng 1812 a 1824 ymhlith gweithfeydd glo pwysicaf yn yr ardal. Ddechrau'r 1840au roedd Garn Pits yn un or pyllau glo siafft ddofn cyntaf a gloddiwyd ac fe'i gweithid â siafftiau tandem. Tresmasodd gweithgarwch arllwys gwastraff ar rai ffermydd yn ystod y cyfnod, er enghraifft, Ty'r Rebecca.
Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd system gymhleth o ddyfrffosydd hefyd wedi'i sefydlu. Rhan o'i swyddogaeth oedd gyrru nifer o olwynion dwr, er efallai ei fod yn gysylltiedig â gwaith sgwrio yn wreiddiol, proses gloddio gynnar.
Yn ystod y 1970au gwnaed rhywfaint o waith adfer tir, gan gynnwys ailgyfuchlinio a lefelu tomenni; ac o ganlyniad dinistriwyd/claddwyd y ffermydd a oedd ar ôl yn yr ardal. Crëwyd Llynnoedd Garn yn rhan ogledd-orllewinol yr ardal ar dir lle y buwyd yn gweithio glo brig fel rhan o gynllun adfer Kay a Kears yn y 1990au. O ganlyniad, dinistriwyd Garn Pits a thomenni cysylltiedig, River Bank Level a dau bwll i raddau helaeth, er efallai fod rhai olion wedi goroesi ar y cyrion. O dan yr un cynllun ail-fodelwyd tomenni gwastraff yn rhan dde-ddwyreiniol yr ardal; mae'n bosibl bod olion diwydiannol claddedig wedi goroesi yma.
Yn ogystal ag olion diwydiannol, efallai fod nodweddion yn gysylltiedig â thirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol yr ardal wedi goroesi wedi'u claddu o dan y ddaear, gan gynnwys fferm Bumblehole, Persondy, Blaen y Cwm a Thy'r Rebecca wedi'u cadw o dan y dirwedd fodern.
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Mae Llynnoedd Garn yn ardal a nodweddir yn bennaf gan dirwedd adferedig yn dyddio o ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Erbyn hyn Llynnoedd Garn, sy'n gyfres o nodweddion dwr o waith dyn a gynlluniwyd fel gwarchodfa natur, yw ei phrif nodweddion gweladwy. Nodweddir y dirwedd hefyd gan ddraeniau concrid a hen domenni a ailgyfluchliniwyd a thir wedi'i glirio a neilltuwyd i raddau helaeth ar gyfer glaswelltir agored.
Er gwaethaf gwaith adfer a thirlunio ar raddfa fawr, mae posibilrwydd cryf bod olion archeolegol, yn arbennig yn rhan dde-ddwyreiniol yr ardal, wedi goroesi. Mae olion claddedig yn cynnwys nodweddion amaethyddol, hy ffermydd, a nodweddion diwydiannol megis ty'r injan, y ty dirwyn, y boelerdy ac olion eraill yn gysylltiedig â Phwll Glo Cinder. Efallai fod olion yn gysylltiedig â gweithfeydd cloddio ac inclein Kear's Slope hefyd wedi goroesi wedi'u claddu o dan y ddaear.
O'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, cynhwysai'r ardal nodweddion rheoli dwr, a gynrychiolir gan nifer o gronfeydd dwr, ffrydiau a chamlesi cyflenwi. Ar wahân i olion camlas gyflenwi ar gwr yr ardal, claddwyd neu dilëwyd y mwyafrif o'r nodweddion gwreiddiol hyn gan weithrediadau mwyngloddio brig. Fodd bynnag mae nodweddion rheoli dwr yn dal i fod yn dra amlwg, ac yn ddiweddar ychwanegwyd Llynnoedd Garn a'u rhwydwaith cysylltiedig o sianeli draenio.