Blaenafon
002 Estyniad Trefol Blaenafon
HLCA 002 Estyniad Trefol Blaenafon
Anheddiad trefol yn dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, wedi'i gynllunio er bod rhywfaint o ddatblygiad organig cynnar. Tai dosbarth canol mawr, tai teras a chyngor modern. Tirwedd amaethyddol weddilliol.Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Estyniad Trefol Blaenafonyn cynrychioli terfyn eithaf ymlediad trefol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ffin ogledd-orllewinol yr ardal yn cynrychioli'r tir amgaeedig, a oedd wedi'i isrannu i raddau helaeth yn gaeau hirsgwar adeg sefydlu aneddiadau diwydiannol cynnar yr ardal; erbyn hyn adeiladwyd dros ran helaeth o'r ardal hon.
Gellir edrych ar ddatblygiad hanesyddol yr ardal fel ymlediad aneddiadau trefol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn yr ugeinfed ganrif dros dirwedd ddiwydiannol/amaethyddol gynnar, a oedd wedi'i harosod yn ei thro ar y dirwedd amaethyddol o gaeau datblygedig, afreolaidd, cynharach yn dyddio o'r cyfnod canoloesol/dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol. Cynhwysai'r rhain Ffi Parc Lettice yn dyddio o'r cyfnod canoloesol/dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol a thiroedd prydles yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif i'r gogledd.
Mae'r ardal yn cynnwys tir y tresmaswyd arno ac a amgaewyd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a gysylltir â chasgliad o dyddynnod wedi'u lleoli ar hyd y priffyrdd. Mae olion y dirwedd amaethyddol flaenorol wedi goroesi ar hyd cwr deheuol yr ardal ac maent yn cynnwys ystâd ryddfraint hynafol Ton Mawr, a gysylltir â Mr Francis James, a fferm Y Coed, a arferai berthyn i rywun o'r enw Mr Edward James. Mae ffermdy gwreiddiol Ton Mawr wedi'i ddinistrio erbyn hyn ac mae rhan o'r dref wedi tresmasu ar y tir hwn. Cliriwyd coedwigoedd i'r gogledd o fferm Y Coed ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ar ddechrau'r ugeinfed ganrif ar gyfer y cyfryw waith datblygu. Collwyd y mwyafrif o'r caeau amgaeedig o amgylch ardal Fferm Coedcae hefyd i ymlediad trefol, a ymestynnodd i Middle ac Upper Coedcae.
Digwyddodd datblygiad trefol yr ardal mewn cyfnod byr fel y dangosir ar 2il a 3ydd argraffiad mapiau'r AO dyddiedig 1901 a 1920. Ymddengys i'r cyfnod adeiladu ddechrau yn ystod dau ddegawd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg; adlewyrchir hyn gan Eglwys Sant Pedr, Llanover Road, a adeiladwyd yn yr arddull Gothig ym 1893. Gwnaed gwaith ehangu pellach yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif ar ffurf anheddiad trefol cynlluniedig, a disodlwyd y mwyafrif o'r ffermdai a'r bythynnod gwreiddiol i raddau helaeth gan ystadau tai cyngor.
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Heddiw nodweddir Estyniad Trefol Blaenafon yn bennaf gan ystadau cyngor yn dyddio o wahanol gyfnodau rhwng y 1930au a'r 1970au, er enghraifft, Kennard Court, Kennard Crescent a Chapel Newydd, gan gynnwys tai parod yn dyddio o'r 1960au a'r 1970au. Fodd bynnag, efallai fod nodwedd bwysicach i'w chael rhwng Cwmavon Road a Ton Mawr Road; mae'r ardal hon yn ymwneud â'r eiddo yn dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg/dechrau'r ugeinfed ganrif sy'n arwain allan o'r dref. Mae'r datblygiad hwn yn nodweddiadol o uchelgeisiau'r dosbarthiadau canol a oedd yn ymddangos yn ystod y cyfnod i ddod ymlaen yn y byd.
Mae amgylchedd adeiledig y rhan hon o'r HLCA yn adlewyrchu ffyniant cynyddol a statws cymdeithasol eu trigolion. Mae'r adeiladau yma fel arfer yn fwy o faint nag mewn mannau eraill ym Mlaenafon ac maent yn tueddu i gynyddu mewn maint po bellaf ydynt o ganol y dref. Codwyd yr adeiladau hyn yn bennaf o gerrig garw eu hansawdd ac yn ôl amrywiaeth o arddulliau; mae nodweddion yn cynnwys ffenestri crwm, cyrn simnai o gerrig, addurniadau o frics coch a melyn o amgylch y drysau a'r ffenestri â chylchigau cerfiedig. Mae'r gerddi blaen â wal o'u hamgylch, y mae llawer ohonynt wedi cadw eu rheiliau haearn, hefyd yn nodweddiadol.
Ar hyd Cwmavon Road ceir terasau trawiadol mawr o eiddo deulawr a thrillawr. Mae gan y mwyafrif ohonynt un ffrynt, drychiadau wedi'u rendro a drychiadau wedi'u chwipio â gro, ffenestri crwm uchder dwbl mawr a gerddi blaen a chanddynt reiliau haearn a chilbyst gwreiddiol cywrain, wedi'u gosod ychydig yn ôl o'r ffordd. Mae rhai o'r tai hyn wedi cadw eu ffenestri gwreiddiol. Tua phen pellaf Cwmavon Road, yn arwain allan o'r dref, ceir nifer o filâu mawr ar wahân.
Lleolir ardal nodweddiadol debyg o dai ar hyd Ton Mawr Road. Mae ganddi gynllun helaeth ac mae naws "clwt pentref" yn perthyn iddi rhwng Ton Mawr Road a Charles Street. Ychwanegir at y teimlad o ehangder gan erddi blaen gweddol fawr â gwrychoedd prifet a choed aeddfed. Mae'r stoc dai yma yn cynnwys terasau sylweddol o dai pâr ag un ffrynt. Mae addurniadau gwreiddiol yn cynnwys pyrth bwaog pengrwn o frics coch a melyn a chonglfeini addurniadol. Mae'r ardal yn arddangos amrywiaeth o ddeunyddiau toi gan gynnwys teils llechi a choncrid a chyrn simnai o frics (y dymchwelwyd y mwyafrif ohonynt). Nodweddir rhan isaf Ton Mawr Road gan dai un ffrynt a chanddynt addurniadau o frics melyn ar y ffenestri a'r drysau ac fel arfer ffenestri crwm mawr a thoeau llechi.
Nodweddir yr ardal yn union y tu ôl i Ton Mawr Road gan gynnwys Gladstone Terrace a New James Street gan eiddo llai o faint, llai addurniadol. Fel arfer mae gan yr eiddo hwn un ffrynt a threfniant tri drws mewn amrywiaeth o arddulliau, y mae rhai ohonynt wedi'u rendro bellach.
Nodweddir yr ardal hefyd gan y dirwedd amaethyddol weddilliol, y mae ei ffurf i'w gweld yn bennaf ar hyd Llanover Road ac Upper Coed Cae Road, fodd bynnag, rhannwyd y mwyafrif o'r caeau mwy o faint yn erddi neu'n rhandiroedd. Ffurfiai'r rhain batrwm rheolaidd o gaeau unionlin mawr a chanolig eu maint; mae rhai ffiniau caeau gwreiddiol o gerrig sych i'w gweld o hyd. Ers hynny, codwyd cyfleusterau chwaraeon ar rai o'r ardaloedd agored a oedd ar ôl. Mae'r ardal o goetir o amgylch Maes y Glyn a Fferm Cae-Dalwyn a arferai fod yn helaethach wedi cadw llawer o'i chymeriad er i goetir gael ei glirio ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif.
Un o fân nodweddion yr ardal hon yw'r systemau rheoli dwr a cheir cronfeydd dwr a gwaith dwr, yn dyddio o ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.