Blaenafon
006 Gwaith Haearn Blaenafon ac Upper Brick Yard
HLCA 006 Gwaith Haearn Blaenafon ac Upper Brick Yard
Ardal prosesu a chloddio diwydiannol o bwys rhyngwladol (gan gynnwys tomenni gwastraff). Cysylltiadau trafnidiaeth ddiwydiannol o bwysigrwydd cenedlaethol (rhwydwaith tramffyrdd). Tai diwydiannol nodweddiadol. Cysylltiadau hanesyddol.Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol Gwaith Haearn Blaenafon ac Upper Brick Yard gan olion gwaith haearn Blaenafon yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif sydd wedi goroesi a'r ardal o'i amgylch gan gynnwys Upper Brick Yard.
Cymerwyd tir ar brydles ar gyfer gwaith haearn, a'r holl ffynonellau deunyddiau crai yr oedd arno ei angen (mwyn haearn, calchfaen a glo ar gyfer golosg) gan Arglwydd y Fenni yn ystod 1787-89 gan Thomas Hill, Thomas Hopkins a Benjamin Pratt, y partneriaid cyntaf yng Nghwmni Blaenafon. Cynhwysai'r gwaith gwreiddiol ddwy ffwrnais chwyth (ychwanegwyd trydedd ffwrnais ym 1789), siediau bwrw a pheiriant chwythu a adeiladwyd gan gwmni Boulton a Watt. Defnyddiwyd grym ager yn hytrach na dwr i weithio meginau'r ffwrneisi; yr adeg honno roedd y dechnoleg hon, a sefydlwyd ddegawd yn gynharach yn Snedshill yn Sir Amwythig, yn gymharol newydd. Erbyn 1796 roedd y gwaith yn un o'r rhai mwyaf yn y byd, a chynhyrchai 5,400 o dunelli o haearn y flwyddyn. Erbyn 1812 roedd pum ffwrnais a allai doddi 14,000 o dunelli o haearn y flwyddyn.
Ym 1836 gwerthwyd gwaith haearn Blaenafon ac fe'i cymerwyd drosodd gan Gwmni Haearn a Glo Blaenafon, a phenodwyd James Ashwell yn rheolwr-gyfarwyddwr. Roedd yn gyfrifol am raglen helaeth o welliannau i ffwrneisi a gefeiliau'r cwmni, i'w system drafnidiaeth ac i'r tai a ddarperid ar gyfer ei weithwyr. Adeiladwyd chweched ffwrnais ym 1860 yn dilyn ffurf nodweddiadol ffwrneisi'r adeg honno ac roedd ganddi waelod o waith cerrig o dan strwythur crwn o frics tân. Er i'r cwmni gael problemau ariannol yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac er i lawer o'r gwaith gael ei drosglwyddo i'r gwaith haearn mwy newydd yn Forgeside, parhaodd gweithgarwch ar y safle hwn tan 1900. Erbyn hyn mae'r gwaith haearn (SAM: MM200) yn safle gwarchodaeth dan ofal y wladwriaeth ac mae'n destun rhaglen gadwraeth ar hyn o bryd.
Upper Brick Yard (SAM: MM296) oedd y brif iard frics a wasanaethai'r gwaith haearn ym Mlaenafon; mae'n bosibl i'r safle, a ddangosir ar fap dyddiedig 1814, gael ei sefydlu mor gynnar â 1788. Cynhwysai siediau sychu, siediau ac odynau gwneud brics ynghyd â phyllau clai a lefelau glo a wasanaethid gan rwydwaith o dramffyrdd a throedffyrdd. Er i'r gwaith brics ei hun gael ei ddymchwel yn y 1960au ystyrir ei bod yn debygol bod olion claddedig sylweddol wedi goroesi.
Mae nodweddion diwydiannol eraill yn yr ardal yn cynnwys lefel John Williams (a ddangosir ar y map dyddiedig 1812 ynghyd â thramffordd yn ymestyn i'r de i'r ffwrneisi chwyth) a phwll glo Cwmdwfn sydd hefyd yn gynharach na 1850.
Gwasanaethai rhwydwaith dwys o dramffyrdd, a ddatblygodd o'r 1780au ymlaen, Waith Haearn Blaenafon. Mae'r ardal hon yn cynnwys y fynedfa ddeheuol i Dwnnel Pwll Du (SAM: MM223); roedd y fynedfa hon, a oedd yn lefel gloddio yn wreiddiol, wedi'i hymestyn drwodd i Bwll Du erbyn tua 1815. Y twnnel hwn, a fesurai 2,400 metr o hyd, oedd y twnnel hwyaf (ac eithrio mynedfeydd i fwyngloddiau) ar unrhyw dramffordd ym Mhrydain lle y defnyddid ceffylau i dynnu'r tramiau.
Nid oes fawr ddim wedi goroesi o dai y gweithwyr diwydiannol yn dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif, a ddatblygodd ar y cyd â'r gwaith haearn, o fewn HLCA006 ar wahân i Stack Square ac Engine Row. Adeiladwyd Stack Square rhwng 1789-92 i ddarparu llety ar gyfer gweithlu Gwaith Haearn Blaenafon ac mae'n cynnwys bloc ar ffurf U y gelwir ei ben deheuol yn Engine Row, a siop waith yn y gornel dde-orllewinol. Cafodd Stack Square, a elwid gynt yn Shop Square, ei henw presennol ym 1853 ar ôl i gorn simnai boeler gael ei adeiladu yng nghanol y sgwâr.
Arferai tai yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif, a ddymchwelwyd bellach, gynnwys Bunker's Row, Quick Buildings, Stable Row, Staffordshire Row, Coaltar Row a thai ar ochr ddwyreiniol North Street. Cynhwysai tai cynnar eraill res o dai cefn wrth gefn yn Furnace Yard, a ddymchwelwyd cyn 1880. Yr un yw hanes olion tai yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dymchwelwyd tai Upper Brick Yard ac adeiladau Little Quick bellach, er bod Limekiln Cottages, Osbourne Cottage a Tunnel Houses wedi goroesi mewn cyflwr adfeiliedig. Mae West View Terrace (1911) yn enghraifft sydd wedi goroesi o welliannau a wnaed ar ddechrau'r ugeinfed ganrif i stoc dai'r ardal a oedd yn heneiddio a ddisodlodd y Quick Buildings yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif.
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Yn ei hanfod disgrifir ardal tirwedd hanesyddol Gwaith Haearn Blaenafon ac Upper Brick Yard fel tirwedd ddiwydiannol greiriol y dylanwadwyd arni yn bennaf gan weithgarwch prosesu haearn. Y nodwedd amlycaf yn y dirwedd yw gwaith haearn Blaenafon yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif, gyda'i olion nodweddiadol, gan gynnwys ffwrneisi twr cydbwyso, tai bwrw, ty injan ac odynau. Hyd yn ddiweddar roedd y rhan fwyaf o'r ardal yn agored, ar wahân i ardal fach o gaeau rheolaidd eu siâp â waliau sych a gwrychoedd yn Upper Brick Yard.
Mae'r ffwrneisi ym Mlaenafon yn ffurfio grwp pwysig. Mae'r ffwrneisi hyn, sy'n unigryw oherwydd eu bod mor gyflawn ac yn arddangos allanwaith o gerrig nadd o safon, yn darparu'r enghraifft orau ym Mhrydain. Mae cyflwr presennol y strwythurau hyn yn ei gwneud yn bosibl inni ddeall eu natur gymhleth. Fe'u hadeiladwyd mewn ffordd a oedd yn nodweddiadol o Dde Cymru; yn erbyn clawdd cerrig uchel wedi'i dorri allan o'r llethr. Mae ffwrneisi 2, 4 a 5 fwy neu lai yn gyflawn ac maent yn arddangos arddull gynnar y cynllun o sgwarau cerrig a brics. Mae rhan isaf ffwrnais 6 yn enghraifft brin iawn o ffurf ffwrnais grwn sydd wedi goroesi, tra bod enghraifft o "waith durblatio gwddf" wedi goroesi yn ffwrnais 5. Mae'r cledrau yn arwain at y ffwrneisi hefyd wedi goroesi.
Y cofadail mwyaf trawiadol i waith Ashwell yng Ngwaith Haearn Blaenafon yw'r twr cydbwyso dwr a adeiladwyd ym 1839, yr enghraifft orau o'i bath sydd wedi goroesi yng Nghymru. Mae gwaith cerrig y twr o safon, ac ar ei ben ceir olion y ffrâm o haearn bwrw â cholofnau Tysganaidd.
Ymhlith llawer o nodweddion eraill sydd wedi goroesi ar y safle ceir tai bwrw (mae ty bwrw ffwrnais 2 yn dal i fod yn gyflawn) sy'n arddangos y ffurf fwaog nodweddiadol; sylfeini ty peiriant chwythu ynghyd â gwaelod y simnai a phileri a bracedau o haearn bwrw a gludai bibelli chwythu i'r ffwrneisi; ffowndri yn dyddio o'r cyfnod ar ôl 1860 ac olion ffwrnais grom; dwy odyn sychu graidd ac odynau calchynnu; swyddfa gyflog; siediau storio a gwaelod strwythur ffwrnais chwyth poeth a adeiladwyd o frics tân. Gall adeilad a ddefnyddid i storio cadwyni codi fod yn ffwrn olosg sydd wedi goroesi. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys nodweddion yn gysylltiedig â'r diwydiant cloddio gan gynnwys lefelau, tomenni a phyllau clai yn Upper Brick Yard.
Nodweddir yr ardal gan rwydwaith tramffyrdd helaeth a wasanaethai'r gwaith haearn a chysylltiadau â thwnnel Pwll Du gan gynnwys porth ei fynedfa ddeheuol.
Adeiladwyd y tai diwydiannol yn yr ardal, a gliriwyd erbyn hyn, mewn amrywiaeth o wahanol ffurfiau, arddulliau a chynlluniau wedi'u gwasgaru ledled yr ardal, gyda chrynhoad gerllaw'r gwaith haearn ac ar hyd North Street. Cynhwysai'r rhain dai cefn wrth gefn, tai ag un ffrynt, eiddo unllawr a hanner â thair ystafell, bythynnod deulawr a chanddynt bedair ystafell a ffrynt dwbl, a adeiladwyd fel arfer o gerrig gyda thoeau llechi. Mae'n bosibl bod olion archeolegol claddedig wedi goroesi mewn rhai o'r safleoedd hyn. O'r olion sydd wedi goroesi Stack Square ac Engine Row yw'r rhai mwyaf cyflawn. Maent yn enghraifft brin o dai diwydiannol yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif a gwnaed cryn dipyn o waith adfer arnynt.
Mae Stack Square, a elwid yn Shop Square yn wreiddiol, yn cynnwys dwy res o dai o wahanol faint a statws ar gyfer tai gweithwyr a rheolwyr. Fe'u hadeiladwyd o gerrig llanw yn bennaf gyda thrawstiau strwythurol derw, toeau llechi a phatrymau ffenestri yn nodweddiadol o Orllewin Canolbarth Lloegr ac maent hefyd yn ymgorffori arddulliau adeiladu lleol nodweddiadol. Ymestynnwyd llawer o'r anheddau â dwy ystafell, a oedd yn llai o faint, yn ddiweddarach. Mae'r rhes ddwyreiniol yn cynnwys pum ty deulawr ag un ffrynt mewn parau adlewyrchedig a chanddynt addurniadau o frics ar y ffenestri a ffenestri a adferwyd. Mae'r rhes ogleddol yn cynnwys pedwar ty deulawr â ffrynt dwbl, yr oedd ganddynt bedair ystafell yn wreiddiol, sydd â chyrn simnai diweddarach o frics, lleoedd tân sydd wedi goroesi, addurniadau o frics cylchrannol ar y ffenestri a ffenestri â chwarelau bach a adnewyddwyd. Roedd gan bob un ddrysau estyllog hollt a grisiau pren gynt. Mae rhai grisiau carreg gwreiddiol yn goroesi yng nghefn y tai.
Mae Engine Row yn debyg i res ogleddol Stack Square ac mae'n cynnwys pedwar ty deulawr â ffrynt dwbl a adeiladwyd o gerrig lanw ac arnynt doeau llechi sydd wedi cadw dau gorn simnai o frics. Mae gan ddrysau a ffenestri ar y llawr isaf addurniadau o frics cylchrannol tra bod ffenestri ar y llawr uchaf o dan y walblad. Mae ganddynt ddrysau hollt a ffenestri â chwarelau bach lle y mae'r gwydr wedi'i fframio â haearn. Ychwanegwyd dau benty at y cefn sy'n darparu ystafell gefn ar gyfer pob ty.
Mae cysylltiadau hanesyddol yn cynnwys diwydianwyr pwysig megis Thomas Hill, Thomas Hopkins, Benjamin Pratt, James Ashwell, Samuel Hopkins, Percy Gilchrist a Sydney Gilchrist Thomas ymhlith eraill a datblygiadau technolegol yn gysylltiedig â'r diwydiant haearn a dur.