Mae GGAT Projects yn ymrwymo i ddatblygu a chynnal arferion a safonau archaeolegol proffesiynol uchel yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn wedi'i adlewyrchu yn ei gefnogaeth i Sefydliad yr Archaeolegwyr (IfA), fel Sefydliad Cofrestredig (Rhif 15) a staff sy'n cefnogi gwaith y Sefydliad. Cyfrannodd ein staff at y gweithgor ar gyfer Safonau Archaeoleg Prydain (SIBA), a luniodd y safonau proffesiynol cenedlaethol ar gyfer yr amrywiol fathau o waith archaeolegol a wneir yn y Deyrnas Unedig (asesiadau a wnaed yn y swyddfa, gwerthusiadau maes, cloddiadau, gorchwylion gwylio, cofnodi adeiladau sy'n sefyll). Fel rhan o fudiad sydd wedi cofrestru gyda'r Sefydliad, mae'n rhaid i'n holl staff gadw at Godau Ymddygiad a safonau gwaith y Sefydliad, ni waeth beth yw eu hymlyniadau personol.