Cludiant a theithio
Yn ystod y goncwest, byddai’r fyddin wedi defnyddio’r ffyrdd a’r llwybrau a oedd eisoes ar gael, o bosibl llwybrau cefnffyrdd hynafol, ond byddai ffyrdd wedi eu hadeiladu’n gymharol gyflym i gysylltu’r caerau Rhufeinig. Disgrifir dwy o’r ffyrdd trwy ein hardal ni mewn dogfen o’r 3edd ganrif o’r enw Antonine Itinerary, rhyw fath o gynllunydd taith Rhufeinig. Mae hwn yn dangos llwybr o Gaerfyrddin i Gaerwrygion trwy Nidum Castell-nedd), Bomium (y Bont-faen mwy na thebyg), Isca (Caerllion), Burrium (Wysg) a Gobannium (y Fenni). Gallwn olrhain yn fras y llinell yr oedd rhan o’r ffordd hon yn ei dilyn trwy gyfres o #gerrig milltir a ddarganfuwyd rhwng Castell-nedd a’r Pîl. Roedd llwybr arall yn mynd o Gaerllion trwy Gaer-went a thros Fôr Hafren i Gaerfaddon a Silchester.
Gellir adnabod rhai ffyrdd Rhufeinig ar y ddaear o hyd trwy’r technegau tirfesur a pheirianneg a ddefnyddid gan y fyddin. Byddai ffyrdd yn cael eu gosod mewn cyfres o rannau syth gan syrfewyr yn cymryd golwg o un pwynt uchel i un arall, ond y dirwedd fyddai’n penderfynu’n rhannol ar yr union lwybr - er enghraifft, roedd yn rhaid croesi afonydd mewn mannau, a oedd yn addas ar gyfer pont neu ryd. Lle’r oedd bryniau, byddai ffyrdd Rhufeinig yn cael eu hadeiladu gan ystyried anghenion byddin yn ymdeithio, yn hytrach na chan ystyried cerbydau. Mae’n debygol y byddai’r peirianyddion wedi dringo llethrau serth drwy gyfrwng darnau byr o ffyrdd yn newid cyfeiriad gyda throeon mawr. Ymhlith nodweddion peirianneg arferol eraill mae argloddiau a thoriadau neu derasau. Gair archeolegwyr am arglawdd ffordd Rufeinig yw ager . Weithiau roedd yna ffosydd ymyl ar gyfer draenio, neu ‘byllau benthyg’ wedi’u cloddio o bobtu i gael cerrig ar gyfer metlin.
Mae rhai ffyrdd wedi parhau i gael eu defnyddio’n barhaus ers cyfnod y Rhufeiniaid. Fodd bynnag, ni ddylem ddisgwyl gweld arnynt eu harwynebau Rhufeinig, gan y byddentwedi eu trwsio droeon yn ystod y canrifoedd. Lle mae arwynebau ffyrdd Rhufeinig wedi eu nodi, mae hynny oherwydd rhoi’r gorau i ddefnyddio’r ffordd a honno wedi ei chladdu. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi cloddio nifer o’r rhain. Yn nodweddiadol, byddai sylfaen y ffordd wedi’i wneud o haen o gerrig mawr, ac yna haenau o gerrig llai wedi eu hychwanegu dros yr wyneb i ffurfio arwyneb da a fyddai, yn aml, yn cambro i gael gwared ar y dŵr. Lle mae yna lawer o draul, er enghraifft, lle’r oedd ffordd yn gadael caer neu’n mynd trwy anheddiad, gallai’r Rhufeiniaid fod wedi adnewyddu’r arwyneb lawer gwaith.
Mae dogfen arall o’r 3edd ganrif, a oedd yn pennu prisiau am nwyddau a gwasanaethau, yn dangos ei bod hi’n llawer rhatach i anfon nwyddau trwm neu swmpus ar y dŵr. Yn Fferm Barland ger Casnewydd, cloddiodd yr Ymddiriedolaeth gwch Rhufeinig a fyddai wedi gallu hwylio Môr Hafren, a byddai’r prif afonydd yn debygol o fod wedi’u defnyddio hefyd i gludo cyflenwadau. Yn y 1960au cloddiwyd cei wrth ymyl Afon Wysg yng Nghaer-llion. Roedd rhan o'r arwyneb wedi ei wneud o gerrig o fryniau’r Preseli yn y Gorllewin, fel balast, fwy ân thebyg.