Cefn gwlad
Yng nghyfnod y Rhufeiniaid roedd y rhan fwyaf o bobl yn byw yng nghefn gwlad. O’i chymharu â Lloegr, ni wnaed fawr o astudiaeth o’r Gymru Rufeinig, ac mae llawer na wyddom amdani o hyd. Y safleoedd hawsaf i’w darganfod yw’r aneddiadau - ond dim ond os byddai’r bobl a oedd yn byw yno yn defnyddio llawer o grochenwaith Rhufeinig. Mae rhywfaint o dystiolaeth nad oedd o leiaf rai o’r bobl ar waelod y pyramid cymdeithasol yn defnyddio llawer o nwyddau traul (Masnachu). Mae gwaith yn ddiweddar ar ochr Lloegr o Fôr Hafren wedi dangos mai’r un oedd y sefyllfa yno. Byddai’r bobl hyn wedi bod yn byw yn yr un ffordd i raddau helaeth â’u hynafiaid o’r Oes Haearn, a’r unig ffordd y gallwn ddweud y gwahaniaeth rhyngddynt yw os down o hyd i ychydig ddarnau o grochenwaith, neu os gallwn gael dyddiadau radiocarbon o’r siarcol neu’r esgyrn.
Mae’r safleoedd gwledig a gloddiwyd yn awgrymu bod y dirwedd yn cynnwys ffermydd ar wasgar. Roedd clystyrau o gaeau bach o amgylch rhai o’r rhain - gan mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd o ardaloedd mwy o gaeau, efallai bod y ffermwyr yn ransio gwartheg a defaid. Roedd llawer o’r ffermydd ar safleoedd lle’r oedd pobl wedi bod yn yr Oes Haearn, er nad yw hi bob amser yn bosibl dangos bod pobl wedi byw yno’n barhaus, yn enwedig os mai rhan o’r anheddiad yn unig a oedd wedi ei chloddio. Mae un o’r rhai sydd fwyaf dealladwy yn Hwytyn, Bro Morgannwg. Yn yr Oes Haearn a’r cyfnod Rhufeinig cynnar, lloc sgwâr gyda chlawdd o ffos o’i amgylch oedd y fferm hon, yn cynnwys nifer amrywiol o dai crwn. Codwyd yr adeilad cerrig cyntaf tua chanol yr ail ganrif, a chodwyd rhai eraill wedi hynny, nes i adeiladau cerrig gyda thoi teils gael eu codi o amgylch tair ochr y lloc. Roedd y rhain yn adeiladau cyfforddus gyda phlastr wedi’i beintio ar y muriau a dŵr drwy bibellau, ond heb fod mor fawreddog â’r rheiny ar safleoedd fila eraill, fel yr un llawer mwy yn Llanilltud Fawr, lle’r oedd hefyd loriau mosaig a gwres canolog dan y llawr.
Nid oedd pawb yng nghefn gwlad yn dilyn ffordd y Rhufeinwyr o fyw i’r un graddau. Ar yr un pryd ag yr oedd trigolion Hwytyn yn codi eu hadeilad cerrig cyntaf, roedd fferm, mae’n debyg yn cynnwys tai crwn pren o fewn palisâd pren, yn cael ei hadeiladu bum milltir i ffwrdd yn Biglis ar gyrion y Barri, ar safle o glwstwr o dai crwn o’r ganrif gyntaf. Ddiwedd y 3edd ganrif mae’n ymddangos bod adeiladau ar rafftiau cerrig ansylweddol wedi disodli’r tai crwn a chloddiau disodli’r palisâd. Er bod yr adeiladau yn Biglis lawer yn llai soffistigedig na’r rhai yn Hwytyn, roedd y trigolion yn cael digon o nwyddau traul, gan gynnwys llawer o grochenwaith a rhai darnau o emwaith efydd braf iawn. Dangosodd astudiaeth o esgyrn anifeiliaid yn amlwg fod digon o borthiant i stoc allu bod dan do yn ystod y gaeaf.