Trefi
Cyn cyfnod y Rhufeiniaid, nid oedd dim trefi yn ein hardal ni. Fodd bynnag, roedd presenoldeb milwyr gyda chyflog i’w wario yn denu masnachwyr a phobl eraill a fyddai’n dilyn gwersylloedd, a dechreuodd trefi o ryw fath dyfu’n gyflym y tu allan i gatiau’r caerau. Byddai’r hyn a ddigwyddai pe bai unrhyw fyddin yn symud ymlaen wedi dibynnu ar ba mor ddwfn roedd yr anheddiad wedi bwrw gwreiddiau - yn bendant mewn llefydd megis Cas-gwent a’r Fenni, lle’r oedd y caerau, mae’n debyg, wedi eu gadael yn gymharol gynnar, mae’n ymddangos bod pobl wedi aros yn y dref. Ni wyddom ryw lawer am y rhan fwyaf o’r aneddiadau hyn. Yng Nghastell-nedd, un o’r mwyaf adnabyddus, mae rhai adeiladau wedi eu cloddio ar hyd y ffordd sy’n arwain at gât gogledd ddwyrain y gaer.
Roedd dau anheddiad yn y gaer yng Nghaerllion, y naill o amgylch y muriau a’r llall yn Bulmore ychydig filltiroedd i fyny dyffryn Wysg ochr draw’r afon. Mae cerrig beddau a ddarganfuwyd yn Bulmore yn dangos mai milwyr llengol wedi ymddeol a’u teuluoedd oedd rhai o’r trigolion, a oedd wedi cyfanheddu i ffurfio datblygiad hirgul ar hyd y ffordd i Frynbuga. Efallai mai’r hyn a oedd yn ddeniadol am gael trefgordd ar wahân yma oedd ei bod y tu allan i’r tir a gâi ei reoli gan y lleng. Byddai hynny wedi rhoi mwy o gyfle i’r preswylwyr lywodraethu eu hunain. Roedd Bulmore lawer yn llai gyda llai o adnoddau na’r dref yng Nghaerllion ei hun. Mae gwaith cloddio ac arolwg geoffisegol yn dangos bod y canabae (‘gwersyll’) y tu allan i’r muriau yn cynnwys rhai adeiladau cyhoeddus trawiadol iawn yn ogystal â thai a siopau.
Ddeg milltir i ffwrdd roedd Caer-went, a oedd wedi datblygu’n brifddinas weinyddol y Silwriaid erbyn dechrau’r ail ganrif. Yn ogystal â siopau a thai, mae’r adeiladau sydd wedi’u cloddio yma yn cynnwys y fforwm a’r basilica, yr adeilad dinesig lle byddai’r cyngor llwythol yn cwrdd a lle byddai’r llysoedd barn. Hefyd, roedd yno deml, mewn cyffin. Maes o law adeiladwyd muriau anferth o amgylch y dref, ac mae rhannau trawiadol ohonynt i’w gweld heddiw. Yn y Bont-faen mae’n bosib bod y datblygiad hirgul ar hyd y ffordd o Gaerdydd i Gastell-nedd wedi bod yn ganolfan weinyddol