Y Rhufeiniaid yn Ne Cymru

Masnachu

Yn yr Oes Haearn cyn cyfnod y Rhufeiniaid, ychydig iawn o dystiolaeth sydd gennym o unrhyw fath o fasnachu. Ar ôl y goncwest roedd ein hardal, yn enwedig y gaer lengol yng Nghaerllion, yn gysylltiedig â rhwydweithiau masnachu yn ymestyn dros yr ymerodraeth a thu hwnt.

Bydd archeolegwyr yn dibynnu’n helaeth ar grochenwaith i ddweud wrthym am y patrymau masnachu. O ran bwydydd a deunyddiau organig eraill (megis tecstilau a lledr), mae’r hyn na fyddai’n cael ei ddefnyddio ar unwaith wedi pydru ers meitin. Gall gwaith metel a gwydr gael ei ail-gylchu, ond mae crochenwaith fel arfer yn ddiwerth pan fydd wedi torri, ac nid yw’n bioddiraddio pan gaiff ei daflu. Mae’n hynod ddefnyddiol i ddweud wrthym am fasnachu mewn gwin ac olew olewydd, gan fyddai’r ddau’n cael eu cludo mewn llestri pridd nawr a elwid yn amphorae y gall arbenigwyr eu hadnabod fel rhai o ranbarthau penodol ac yn cynnwys cynhyrchion penodol. Fe’u defnyddid hefyd i gludo ffrwythau wedi’u sychu, syryp sudd grawnwin a’r saws pysgod a fyddai’n cael ei ddefnyddio’n helaeth wrth goginio yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Cyrhaeddai gwin o’r Eidal, Gwlad Groeg a Gâl, ac olew olewydd a saws pysgod o Sbaen i Gaerllion, a llai yn cyrraedd Llwchwr a chaerau eraill a’r anheddau o’u cwmpas. Yn nhref fechan y Bont-faen, fodd bynnag, cymharol ychydig o amphorae a oedd yno gan ddangos nad oedd gan y trigolion, fel rhai’r ardal wledig o gwmpas, fawr o ddefnydd i’r nwyddau hyn wedi’u mewnforio o ardal Môr y Canoldir. Yn ddiweddarach yng nghyfnod y Rhufeiniaid, mae’n ymddangos bod gwinoedd o Gâl a’r Almaen, yn cael eu mewnforio mewn casgenni nad ydynt wedi goroesi’n aml iawn, wedi disodli gwin o ardal Môr y Canoldir.

Hwyrach fod y rhan fwyaf o’r cynnyrch amaethyddol arall yn cael eu masnachu’n lleol. Fodd bynnag, darganfuwyd bod grawn o Gaerllion, a oedd wedi’i gadw trwy gael ei droi’n siarcol mewn tân, yn cynnwys hadau chwyn na allent fod wedi dod o unman arall ond o ardal Môr y Canoldir, gan ddangos y gallai cyflenwadau swmpus fel hyn weithiau gael eu cludo ymhell iawn.

Gan fynd yn ôl at grochenwaith, yn y ganrif 1af-3edd cafodd y llestri coch poblogaidd o’r enw samian eu mewnforio o Gâl ac ardal Afon Rhein. Deuai mathau eraill o grochenwaith o fannau eraill ym Mhrydain, yn enwedig y llestri coginio o ansawdd da, sef Black Burnished o Dorset. Mae’r mathau o grochenwaith sy’n cael eu darganfod yn ein hardal ni yn awgrymu bod y partneriaid masnachu pwysicaf ar gyfer ein hardal yn ne orllewin Lloegr yn rhyfedd, ychydig iawn o dystiolaeth sydd o fasnachu gyda Chanolbarth Lloegr, er bod Afon Hafren yn llwybr naturiol ar gyfer cludo ar y dŵr. Byddai hyn wedi bod yn bwysig oherwydd bod cludo nwyddau, yn enwedig rhai trwm a swmpus, lawer yn rhatach mewn cychod hyd yn oed nag ar ffyrdd da. Ar gyfer cludo dros y tir byddai’n rhaid dibynnu ar wagenni trwm yn cael eu tynnu gan ychen neu (yn fwy tebygol) gan res o anifeiliaid pwn. Y tu ôl i’r cei a gloddiwyd yng Nghaerllion darganfuwyd gwaddod o lechi o ardal y Preseli yn Sir Benfro, balast, mae’n debyg, a oedd wedi ei ollwng o long a oedd wedi dod o’r Gorllewin ag un llwyth ac wedi mynd allan â llwyth arall.