Y fyddin Rufeinig
Pan oresgynnwyd Prydain gan Rufain, pŵer mawr y dydd, roedd yn defnyddio dau fath o filwyr, llengol ac ategol. Roedd y milwyr llengol, i gyd yn ddinasyddion Rhufeinig, yn droedfilwyr cadarn, yn nodweddiadol yn cario cleddyf byr ar gyfer trywanu, tarian fawr ac ychydig waywffyn taflu ac arfwisg Roedd y milwyr ategol yn llawer mwy amrywiol ac yn cynnwys troedfilwyr ysgafn, gwŷr meirch ac unedau arbenigol megis saethwyr neu daflwyr. Roeddynt wedi’u recriwtio o blith pobloedd yr ymerodraeth a oedd wedi’u gorchfygu, ond yn gwasanaethu dan swyddogion dinasyddion Rhufeinig. Os byddent yn parhau am y 25 mlynedd o’u gwasanaeth, gallent edrych ymlaen at ennill dinasyddiaeth Rufeinig ynghyd â’u tâl ymadael.
Yn ystod cyfnod y goncwest, byddai byddinoedd llengol ac ategol yn cael eu defnyddio mewn cyfuniadau hyblyg. Gellir olrhain rhai o’u symudiadau yn ystod tymhorau ymgyrchu’r haf trwy eu gwersylloedd dros dro, megis y rhai ym Melin-cwrt a Blaen-cwm-bach uwchben cwm Nedd. Ar gyfer y gaeaf byddent yn adeiladu caerau cryfach gydag amddiffynfeydd o bridd, tyweirch a choed, ac adeiladau pren y tu mewn. Cloddiwyd rhan o farics o gaer cyfnod y goncwest yng #Nghaerdydd gan yr Ymddiriedolaeth. Wrth i’w gafael ar yr ardal gynyddu, ad-drefnwyd eu rhwydwaith o gaerau. Ar safleoedd lle’r oeddynt yn parhau i feddiannu, defnyddiwyd cerrig yn lle’r coed maes o law.
Yr uned bwysicaf yn ein hardal ni oedd yr Ail Leng Awgwstaidd yng Nghaerllion, lle’r adeiladwyd caer yn y 70au yn lle un gynharach ym Mrynbuga, a oedd wedi bod yng ngofal yr Ugeinfed Lleng cyn ei symud tua’r gogledd. Er i rannau o’r gaer gael eu cryfhau yn yr 20fed ganrif, y safle yw’r gaer lengol yr aflonyddwyd leiaf arni ym Mhrydain, lle gall ymwelwyr weld #rhannau o’r amddiffynfeydd a’r baddonau, yr amffitheatr a rhai blociau gwersyllty. Erbyn yr ail ganrif, y milwyr ategol oedd yn gofalu am y caerau yn Llwchwr, Castell-nedd, y Coelbren, Merthyr Tudful, Gelli-gaer, Caerffili, Caerdydd a’r Fenni, er na wyddom pa unedau’n union oedd yn gysylltiedig.
Mae’n ymddangos bod llai o gaerau wedi eu meddiannu yn y canrifoedd diweddarach. Er bod Caerdydd wedi ei hail-adeiladu ddiwedd y 3edd ganrif, yng Nghaerllion cafodd adeilad y Pencadlys a baddonau’r gaer eu datod yn ofalus. Er hynny, ni allwn fod yn sicr hyd yma ai’r rheswm am hyn oedd bod y llengoedd ar eu newydd wedd lawer yn llai yn dilyn diwygiadau gan yr Ymerawdwr Diocletian, ac felly nad oedd angen adeiladau mor fawr, ynteu oherwydd bod y fyddin wedi gadael y gaer yn llwyr.