Crefft a diwydiant
Un o’r pethau sy’n nodi cyfnod y Rhufeiniaid yn archaeolegol yw nifer yr eitemau materol y gellir dod o hyd iddynt ar safleoedd lle’r oedd pobl yn byw ar y pryd. Nid ydym yn dod o hyd i gymaint eto tan y 18fed ganrif. Roedd yna gynnydd mawr yn yr hyn a gâi ei gynhyrchu o’i gymharu â’r Oes Haearn, er na ddatblygodd y Rhufeiniaid ddim ffatrïoedd cynhyrchu ar raddfa fawr fel y gwelwn yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.
Darganfuwyd gwrthrychau Rhufeinig yn y mwyngloddiau plwm yn Goldsland Wood ger y Barri ac yn Draethen ger Caerffili, sy’n dangos bod y dyddodion hyn yn cael eu cloddio. Mae’r mwynau o Fwynglawdd Draethen yn cynnwys cryn dipyn o arian hefyd, felly, byddent wedi bod yn fonopoli pwerus. Mae’n debygol bod plwm yn cael ei brosesu ym Machen Isaf.
Mae toreth o haearn hefyd yn ein hardal ni, ac mae gweddillion ffwrneisi toddi haearn Rhufeinig wedi’u darganfod ar rai safleoedd, yn ogystal â thomenni o’r slag a gâi ei gynhyrchu. Mae’n ymddangos mai ardal Meisgyn oedd un o’r mannau lle’r oedd toddi haearn yn bwysig. Daethpwyd o hyd i ffwrnais haearn yn y Bont-faen, a byddai gwaith toddi ar raddfa fach yn digwydd hefyd yn yr anheddiad y tu allan i’r gaer yng Nghaerllion. Ar ôl cynhyrchu’r haearn crai, byddai’r gofaint yn ei ddefnyddio i gynhyrchu offer llaw, arfau a ffitiadau. Roedd yr ingotau haearn yn dal i gynnwys darnau o slag, a byddai’n rhaid cael gwared arnynt yn ystod y broses hon. Mae’r rhan fwyaf o safleoedd anheddiad yn cynhyrchu’r ‘slag gofannu’ hwn. Mae hyn yn dangos naill ai y gallai’r crefftwyr a oedd yn byw yn yr holl aneddiadau hyn gynhyrchu gwrthrychau haearn, ynteu fod yna ofaint teithiol yn galw ar eu taith.
Roedd llestri wedi dod yn llawer pwysicach ar gyfer defnydd bob dydd. Câi llawer o’r dysglau a’r llestri coginio a storio bwyd yn ein hardal eu gwneud yn gymharol leol, fel yn yr odynau a gloddiwyd yng Nghil-y-coed yn y 1960au. Roedd odynau eraill a gloddiwyd yn Bulmore yn gwneud llestri coch ar gyfer y bwrdd.
Mae’r diwydiannau hyn, er ar raddfa fach o’u cymharu â’r rhai diweddarach, wedi gadael strwythurau nodweddiadol megis odynau ar eu hôl. O ran crefftau eraill, dim ond rhai o’r cyfarpar a’r offer llaw llai sydd wedi’u darganfod. Er enghraifft, roedd aloeon copr yn cael eu defnyddio ar gyfer offer cegin a gemwaith gwisg, ond hefyd ar gyfer math o fowldinau bach a allai gael eu gwneud o blastig heddiw o bosibl. Darganfuwyd crwsiblau gydag olion copr ar rai safleoedd, sy’n dangos bod y rhain yn cael eu gwneud yn lleol. Mae offer llaw y byddai seiri maen, plastrwyr, seiri coed a gweithwyr lledr yn eu defnyddio i gyd i’w cael yn gyffredin ar safleoedd Rhufeinig. Byddai nyddu a gwehyddu wedi bod yn bwysig ar gyfer cynhyrchu dillad a thecstilau eraill, ond byddai hynny’n digwydd yn y cartref gyda chyfarpar pren, felly, dim ond y pwysau o’r gwerthyd sydd wedi goroesi fel arfer.