Bwyd a ffermio
Gyda’r goncwest Rufeinig, daeth bwydydd newydd i Brydain, ond byddai’r deiet sylfaenol yn parhau'r un fath ag erioed - grawn. Bro Morgannwg yw un o’r ardaloedd gorau yng Nghymru ar gyfer tyfu cnydau grawnfwyd. Mae darnau o fân us a grawn wedi’i ruddo a ddarganfuwyd wrth gloddio yn Nurston a Castle Wood, Ffwl-y-mwn ar gyrion Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn dangos bod trigolion yr anheddiad hwn o’r Oes Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid yn dyrnu grawn. Mae’n debyg fod hwnnw’n cael ei dyfu ar eu tir hwy eu hunain. Roedd angen iddynt nid unig eu bwydo’u hunain - byddai’n rhaid iddynt hefyd gynhyrchu bwyd ar gyfer y milwyr Rhufeinig yn y caerau. Wrth gloddio yn Llwchwr dadorchuddiwyd rhannau o dri granar, ynghyd â rhywfaint o’r grawn a oedd wedi’i storio mewn dau ohonynt. Darganfuwyd tri math o wenith - gwenith bara, sbelt ac emer, ynghyd â haidd, ychydig o ryg ac (mewn un granar) ychydig o geirch. Byddai’r gwenith wedi cael ei falu i wneud blawd, ei gymysgu i wneud toes ar gyfer bara a’i bobi mewn ffyrnau y tu ôl i’r rhagfuriau. Mae sbelt ac emer yn rawn gwydn iawn sy’n cynnwys llawer mwy o brotein na gwenith bara, ond mae’r masgl o’u cwmpas yn dynnach, sy’n eu gwneud yn anoddach i’w dyrnu. Nid ydynt cystal ar gyfer gwneud bara.
Mae astudiaeth o esgyrn anifeiliaid a ddarganfuwyd ar ffermydd Rhufeinig yn dweud wrthym am yr anifeiliaid a fyddai’n cael eu magu ar gyfer bwyd. Yn Hwytyn byddai mwy o gig eidion yn cael ei fwyta na dim arall, a’r un fath yn Biglis - roedd defaid a geifr yn fwy cyffredin yno, ond fel anifeiliaid llai byddent wedi cynhyrchu llai o gig. Mae’r esgyrn o safleoedd mewn caerau a threfi fel arfer yn dweud wrthym am y cig a fyddai’n cael ei fwyta yno, yn hytrach na’r lle yr oeddynt wedi eu magu. Mae esgyrn a oedd wedi cyrraedd y prif draen ym maddonau’r gaer yng Nghaerllion yn dangos bod milwyr yn y ganrif gyntaf yn bwyta llawer o gyw iâr a golwython cig dafad yn ystod eu hymweliadau â’r baddonau (ac roedd esgyrn y golwython wedi eu cnoi’n dda!). Fodd bynnag, ni fyddwn bob amser yn cael cymaint o wybodaeth ag yr hoffem ei chael, oherwydd mae’r priddoedd asidig ar lawer o’r safleoedd yn dinistrio’r esgyrn yn llwyr.
Gan fod esgyrn pysgod yn fach iawn, ni fyddant yn cael eu darganfod fel arfer oni bai bod llawer o bridd y gloddfa’n cael ei ridyllu. Nid oes dim wedi eu nodi yn Ne Cymru hyd yma, ond mae pysgod cregin i’w gweld yn y safleoedd mwy Rhufeinig. Mae’n ymddangos fel pe bai’r blas am fwyd môr yn rhywbeth a gyflwynwyd gan y Rhufeiniaid. Daeth blas am win, olew olewydd a saws pysgod hefyd, fel y gallwn ddweud wrth y cynwysyddion a ddefnyddiwyd i’w mewnforio (Masnachu), er bod y rhain eto i’w darganfod yn bennaf ar safleoedd milwrol yn hytrach nag mewn trefi bach neu yng nghefn gwlad.
Mae’r math o grochenwaith sy’n cael ei ddarganfod ar wahanol safleoedd yn rhywbeth arall sy’n rhoi gwybodaeth i ni am fwyta, coginio ac arferion gwahanol. Mae tystiolaeth o olew a gwin i’w gweld ochr yn ochr â gweddillion mortaria, yr hyn oedd gan y Rhufeiniaid sy’n cyfateb i brosesyddion bwyd, yn dangos bod pobl ar safleoedd eraill yn debygol o fod yn dal i fwyta'r un math o fwyd â’u hynafiaid o’r Oes Haearn.