Dyffryn Gwy Isaf
023 Coedlan Hayes
HLCA 023 Coedlan Hayes
Coetir Hynafol â chlostiroedd afreolaidd sy'n gysylltiedig â Llys Newton: planhigion parcdir cymysg; archeoleg ddiwydiannol: chwarela; cysylltiadau a ffiniau (waliau ystad) a nodweddion ffiniol; Archeoleg greiriol: nodweddion rheoli coetir posibl. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Coedlan Hayes wedi'i lleoli i'r de o gefnen isel sy'n rhedeg ar hyd glan orllewinol Afon Gwy. Diffinnir ei ffiniau gan faint y coetir hynafol i'r de, y dwyrain a'r gorllewin, a'r ffin genedlaethol i'r gogledd. Lleolir yr ardal ym mhlwyf Llandidiwg, ym maenor Newton.
Mae'r ardal, sydd bellach yn cynnwys cymysgedd o goed coniffer a choetir llydanddail, wedi bodoli fel coetir ers map y degwm (1845) o leiaf, sy'n nodi mai cyflwr amaethu'r rhan fwyaf o'r ardaloedd oedd 'coedwig'. Mae'r rhan fwyaf o'r ardal yn cynnwys coetir hynafol a ailblannwyd, er bod llain gul o goetir ar y llethrau isaf i'r gogledd-ddwyrain o'r ardal yn dal i fodoli ar ffurf coetir lled-naturiol hynafol.
Ar fap y degwm gwelir nifer o glostiroedd o amgylch ymyl yr ardal, y mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u rhestru o dan goetir, er y rhestrir rhai ardaloedd bach fel tir âr. Mae'r clostiroedd hyn yn dal i fodoli i ryw raddau erbyn arolwg Argraffiad Cyntaf mapiau'r AO 1881, ond maent wedi'u hepgor o fapiau diweddar i raddau helaeth (data Landline 1:10000 yr AO 2006). Mae'r dyraniad, a geir gyda map y degwm, yn nodi mai Mary Griffin yw prif berchennog y tir; roedd yr ardal yn rhan o'r ystad a brynwyd oddi wrth Arglwydd Gage gan y Llyngesydd Griffin; roedd teulu'r Griffin yn gyfrifol am adeiladu Llys Newton yn yr ardal gyfagos (HLCA021) (Bradney 1904).
Mae ffin ogleddol yr ardal hon yn bwysig iawn yn hanesyddol gan ei bod yn ffurfio'r ffin genedlaethol rhwng Cymru a Lloegr; ceir dau faen terfyn wrth ffin yr ardal. Cynrychiolir gweithgarwch ôl-ganoloesol pellach gan nodweddion cloddiol, a cholofn driongliant Arolwg Ordnans (PRN 07463g).
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Nodweddir Coedlan Hayes gan goetir hynafol, coetir cymysg, er mai planhigion coniffer a geir yn bennaf, ar ochrau serth y dyffryn a chopa'r gefnen sy'n ffurfio ochr orllewinol Dyffryn Gwy. Ceir ardal gul o goetir lled-naturiol hynafol o hyd ar y llethrau isaf i'r gogledd-ddwyrain o'r ardal. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys grwp o glostiroedd afreolaidd wrth ei ffin ddeheuol â Llys Newton (HLCA021); mae map y degwm (1845) o Landidiwg yn dangos yr ardal hon fel clostir cromliniol mawr, gyda chlostiroedd unionlin llai yn ymuno ag ef. Caiff yr holl glostiroedd hyn bron â bod eu rhestru fel coetir, gydag ambell ran o dir âr.
Gellir hefyd nodweddu'r ardal gan lwybrau cysylltiadau, a gynrychiolir yn yr ardal gan ddau faen terfyn (PRNs 07461g, 07462g) wrth y perimedr i'r gogledd, sy'n nodi'r ffin â Lloegr. Dangosir y rhain ar Argraffiad Cyntaf ac Ail Argraffiad mapiau'r AO (1882 1901) ac maent yn bodoli o hyd ar linell y ffin fodern.
Ymhlith y nodweddion eraill mae gwaith cloddio nodweddiadol ar raddfa fach a gynrychiolir gan chwarel (PRN 07464g) a ddangosir ar Ail Argraffiad map yr AO (1901), ac a gofnodwyd fel 'old' ar y pryd. Mân nodwedd arall yw colofn driongliant AO a ddangosir ar Argraffiad Cyntaf ac Ail Argraffiad mapiau'r AO (1882, 1901).