Cefn Gwlad
Yn aml, mae newid i'r defnydd ar dir sydd y tu hwnt i reolaeth cynllunio yn effeithio ar olion archaeolegol yng nghefn gwlad. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cydweithio'n agos â'r cyrff perthnasol: Cadw; Cyfoeth Naturiol Cymru; i fonitro newid ac effaith a hefyd i roi cyngor ar gynlluniau a gwaith adferol. Mae rhai cynlluniau'n cynnig cyfle i dirfeddianwyr neu denantiaid gael cyllid i barhau â gwarcheidwaeth ein hetifeddiaeth hanesyddol gyfoethog a meidrol y mae llawer o bobl wedi ymgymryd â hi ers cenedlaethau.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynorthwyo Cadw a Chyfoeth Naturiol Cymru i reoli'r amgylchedd hanesyddol mewn tirweddau lle y mae rhywfaint o amddiffyniad gan y tirweddau hynny oherwydd eu harwyddocâd hanesyddol neu archaeolegol, fel yn achos y rhai ar y Gofrestr Tirweddau, Parciau a Gerddi Hanesyddol a'r rhai sy'n cael eu hamddiffyn am sawl rheswm fel Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr a Gwy, neu oherwydd eu bod yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Glastir
Mae cynllun Glastir yn cynnig cymhellion i amddiffyn cynefinoedd bywyd gwyllt a chynefinoedd presennol, creu rhai newydd, annog mwy o fynediad i'r cyhoedd ac amddiffyn y dirwedd, gan gynnwys nodweddion hanesyddol ac archaeolegol. Fe'i hariennir ar y cyd gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru a'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n cynnig tâl i ffermwyr am reolaeth ofalus ar eu tir. Caiff ffermwyr a pherchenogion coedwigoedd eu hannog i reoli eu tir mewn ffordd fwy cyfeillgar i'r amgylchedd.
Mae cymhellion i amddiffyn cynefinoedd bywyd gwyllt a chynefinoedd presennol, creu rhai newydd, annog mwy o fynediad i'r cyhoedd ac amddiffyn y dirwedd, gan gynnwys nodweddion hanesyddol/archaeolegol, yn cael eu cynnig drwy'r cynllun. Gyda chefnogaeth gan Cadw ac Is-adran Taliadau Gwledig y Swyddfa Gymreig, mae'r Ymddiriedolaeth wedi sicrhau bod data allweddol ar gael yn hwylus drwy'r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol.
Gofalu am Dreftadaeth
Eglwysi