Gofalu am Henebion

Ydych chi'n diogelu'r gorffennol neu'n adnewyddu adeiladau hanesyddol at y dyfodol, neu wedi gwneud hapddarganfyddiad neu hyd yn oed wedi darganfod safle newydd? Byddai ein staff Rheoli Treftadaeth bob amser yn falch o gynnig cymorth a gwybodaeth.

Ddim yn siŵr beth rydych wedi dod o hyd iddo? I adnabod heneb, byddwn yn gofyn i chi anfon ffotograffau atom fel arfer – weithiau, dyna'r cyfan fydd ei angen arnom i adnabod heneb ond mae'n debygol y bydd angen i ni ymweld â safle os yw'n fwy anarferol neu gymhleth. Pwy ŵyr, mae'n bosibl eich bod chi wedi darganfod rhywbeth arbennig iawn!

O ran cadwraeth, neu os ydych chi'n ystyried adfer heneb, gallwn roi cyngor ac arweiniad ar fframwaith rheoli effeithiol*, ynghyd â gwybodaeth am ddyletswyddau cyfreithiol a statudol.

I gael mwy o wybodaeth am archaeoleg yn y broses gynllunio, ewch i'n tudalennau Cynllunio Archaeolegol

*Yn anffodus, ni all staff yr is-adran Rheoli Treftadaeth lunio cynllun gwaith na rhoi pris ar gyfer mentrau o'r fath.

hm2

Gofalu am Dreftadaeth

church

Eglwysi

 

countryside

Cefn Gwlad

discover2

Henebion Cludadwy

crime

Trosedd treftadaeth

Os hoffech wybodaeth ychwanegol cysylltwch â:

heritagemgmt@ggat.org.uk