Gwasanaethau Cynllunio

Yn rhan o'r broses gynllunio, mae'n rhaid ystyried yr effeithiau ar yr amgylchedd hanesyddol o ganlyniad i newid arfaethedig i'r defnydd tir. Mae'r Ymddiriedolaeth yn darparu cyngor archaeolegol i'r deuddeg awdurdod cynllunio lleol yn Ne-ddwyrain Cymru (Blaenau Gwent, Pen y Bont, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tydfil, Sir Fynwy, Castell-Nedd Port Talbot, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Abertawe, ac Bro Morgannwg, yn ogystal ag i ran o Awdurdod Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog). Ar lefel strategol, y mae wedi eu cynorthwyo i lunio polisïau i amddiffyn yr amgylchedd archaeolegol yn eu cynlluniau lleol, ac wedi datblygu canllawiau cynllunio atodol ar archaeoleg ar gyfer rhai ardaloedd awdurdod.

Ar ran yr awdurdodau cynllunio lleol yn ein rhanbarth, mae ein tîm rheoli cynllunio archaeolegol yn darparu cyngor manwl i'r awdurdodau hyn ar gynllunio gwaith achos. Mae’r tîm yn gallu darparu amrywiaeth o gyngor cyn-penderfynu, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, asesiad desg, ffosio gwerthuso, ac arolwg geoffisegol. Mae’r tîm yn gallu darparu briffiau ar gyfer gwaith gwerthusiadau. I sicrhau bod y gwaith yn cwrdd â safonau proffesiynol, maen nhw’n gwirio a chytuno cynlluniau ymchwilio ysgrifenedig, methodolegau, a manylebau, yn monitro gwaith maes, ac yn cymeradwyo'r adroddiadau sy'n deillio o hynny, p'un a ymgymerwyd â hyn cyn gwneud y penderfyniad neu o ganlyniad i amod sydd ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio. Mae gwaith yn cael ei wneud yn unol â Chod Ymddygiad Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru a'r Safon a'r Canllawiau ar gyfer Cyngor Archaeolegol gan Wasanaethau'r Amgylchedd Hanesyddol, a gyhoeddwyd gan Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr.

Mae'r tîm yn cadw cofnodion o'r gwaith sy'n cael ei wneud, ac yn helpu i sicrhau bod gwaith archaeolegol ar gael i'r cyhoedd, naill ai trwy adneuo adroddiadau ymarferwyr yn y Cofnod Amgylcheddol Hanesyddol, neu drwy gyhoeddi adroddiad llawn.

Darperir Deddfwriaeth, Polisi a Chanllawiau yn Mholisi Cynllunio Cymru Pennod 6: Lleoedd Unigryw a Naturiol, a Chyngor Technegol Nodyn 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol. Mae diagram sy'n dangos sut y mae'r rhain yn cyd-fynd â hierarchaeth y ddeddfwriaeth a rheoliadau i'w gweld ar wefan Cadw.

sven-mieke-fteR0e2BzKo-unsplash (1)

Y Polisi Monitro

Dysgu mwy

ap3

Cod Ymddygiad Curaduron

Dysgu mwy

Staff Cynllunio

Dysgu mwy

Os hoffech drafod eich gofynion, cysylltwch â

planning@ggat.org.uk

Angen cymorth i ddod o hyd i Sefydliad Archaeolegol sydd wedi cofrestru gyda'r CIfA?

ifa-logo

Dogfennau pdf y Gwasanaethau Cynllunio Archaeolegol i'w lawrlwytho

  • Canllaw i Archaeoleg a Chynllunio yn Ne Cymru