Gofalu am Dreftadaeth

 Mein ffyrdd o ddeall a rheoli 'treftadaeth' yn newid yn gyflym. Ein tîm Rheoli Treftadaeth yw'r pwynt cyswllt cyntaf i sefydliadau neu unigolion sydd angen cyngor neu wybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol yn ne Cymru

 Yn yr adran Gofalu am Dreftadaeth, dyma rai o'n hamcanion allweddol:

  • Sicrhau bod safleoedd a gwybodaeth archaeolegol bregus, meidrol a digymar yn cael eu diogelu drwy reolaeth ragweithiol.
  • Darparu gwybodaeth archaeolegol.
  • Cyfrannu at ymgynghoriadau'r llywodraeth ar ddeddfwriaeth a gweithdrefnau arfaethedig, a monitro effeithiolrwydd ddeddfwriaeth, cyngor a chylchlythyron y llywodraeth a'r arferion proffesiynol gorau.
  • Cynnig gwasanaethau rheoli/cyswllt ar gyfer mentrau cefn gwlad a gweithgareddau'n ymwneud â'r amgylchedd morol.

Rydym yn gweithio'n agos â swyddogion yn awdurdodau unedig De Cymru a staff yn Cyfoeth Naturiol Cymru, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Gwy a Gŵyr, a Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar y ffordd orau o reoli a hyrwyddo henebion yn eu hardaloedd.

slide-bg19

Gofalu am Henebion

church

Eglwysi

countryside

Cefn Gwlad

discover2

Henebion Cludadwy

crime

Trosedd treftadaeth

Angen cymorth? Cysylltwch â ni