Mynydd Margam
016 Ton Mawr
HLCA 016 Ton Mawr
Tirwedd amaethyddol caeedig gyda tharddiadau canoloesol posibl (neu gynharach); anheddiad/caeau ôl-ganoloesol; ffiniau caeau pendant; Coetir Hynafol; llwybrau troed a llwybrau. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Ton Mawr, rhan o diroedd ystad Margam, a fu unwaith yn gysylltiedig ag Abaty margam, yn cynnwys ardal a oedd yn wyndwyn yn draddodiadol (h.y. 'Ton' neu 'Tir Porfa'), hynny yw tir pori a thir braenar yn cylchdroi. Mae cynllun caeau'r ardal, a sefydlwyd erbyn dechrau'r 19eg ganrif wedi datblygu ers hynny; dangosir caeau rheolaidd a llinellol ar arolwg 1814 gyda lleiniau niferus neu llain-gaeau, yn dyddio o'r cyfnod canoloesol neu ôl-ganoloesol cynnar, yn ôl pob tebyg. Erbyn cyhoeddi argraffiad 1af map AO 6" roedd llawer o'r rhai olaf hyn wedi eu cyfuno ac roedd y patrwm caeau wedi ei symleiddio i greu'r system sydd ar waith heddiw. Mae'n debygol y bydd ffiniau o ddyddiad canoloesol yn parhau wedi eu ffosileiddio yn y patrwm caeau sydd wedi goroesi.
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Disgrifir Ton Mawr fel tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol caeedig gyda tharddiadau canoloesol posibl (neu darddiadau cynharach). Nid yw adnodd archeolegol yr ardal i raddau helaeth yn hysbys, er bod ei agosrwydd at ardaloedd cyfagos sydd â llawer iawn o gynnwys archeolegol megis HLCA 001 Abaty a Chastell Margam a HLCA 015 Parc Uchaf a Thon-y-grugos yn awgrymu bod dangosyddion posibl eraill o bwys yno nas darganfuwyd eto. Y prif nodweddion yw'r anheddiad ôl-ganoloesol, h.y. Fferm Ton Mawr, a chaeau datblygedig o faint canolig cymharol reolaidd, wedi eu gosod ar hyd llethrau is Moel Ton Mawr sy'n wynebu'r de-orllewin, ynghyd â ffiniau caeau pendant, yn cynnwys cloddiau, waliau sychion a gwrychoedd. Er ei fod yn llwybr pwysig o Goetir Hynafol, mae Coed Ton-mawr yn diffinio ymyl ddeheuol yr ardal ar hyd Graig-goch. Mae nodweddion eraill yn cynnwys llwybrau troed a llwybrau amaethyddol.