Morol

Un o ardaloedd mwyaf dynamig yr amgylchedd hanesyddol yw'r ardal lle mae'r tir yn cwrdd â'r môr. Mae'r tonnau'n dod a mynd â dyddodion yn gyson, gan amlygu wyneb tir hynafol yn yr ardal rhynglanwol ac ardaloedd newydd drwy henebion ar y clogwyni. Mae Cadw wedi ariannu Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru i recriwtio gwirfoddolwyr drwy Brosiect yr Arfordir i'n helpu i fonitro a chofnodi'r arfordir sy'n newid yn dragywydd ac i sicrhau bod gwybodaeth newydd yn cyrraedd y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol.

Mae awdurdodau lleol a chyrff amgylcheddol fel Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am lunio cynlluniau rheoli ar gyfer yr arfordir ar lefel strategol. Mae'r Ymddiriedolaeth yn rhoi argymhellion iddynt i sicrhau bod yr amgylchedd hanesyddol yn cael ei warchod yn gywir a'i ystyried pan gaiff amddiffynfeydd môr newydd eu cynllunio. Rydym yn rhoi cyngor hefyd i sicrhau nad yw pobl sy'n defnyddio'r arfordir ar gyfer hamdden a dibenion eraill yn difrodi'r archaeoleg yn anfwriadol.

 

 

hm2

Gofalu am Dreftadaeth

church

Eglwysi

 

slide-bg19

Gofalu am Henebion

countryside

Cefn Gwlad

discover2

Henebion Cludadwy

crime

Trosedd treftadaeth

Rheoli Treftadaeth yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pobl neu grwpiau sy’n chwilio am gyngor ar henebion hanesyddol ym Morgannwg a Gwent, naill ai oherwydd eu bod wedi dod o hyd i rywbeth sy’n bwysig yn eu barn nhw ac eisiau barn arbenigol, neu oherwydd yr hoffent adfer neu hyrwyddo cofeb yn eu cymuned.

Os hoffech wybodaeth ychwanegol cysylltwch â:

heritagemgmt@ggat.org.uk