Dyffryn Gwy Isaf
040 Coetir Lord's Grove
HLCA 040 Coetir Lord's Grove
Ardal o Goetir Hynafol: coetir hynafol llydanddail arall; archeoleg ddiwydiannol greiriol: chwareli; nodweddion cysylltiadau (gan gynnwys Rheilffordd ddiwydiannol). Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Coetir Lord's Grove yn ardal a nodweddir gan goetir hynafol sy'n rhedeg mewn llain gul hir ar hyd ochr y bryn sy'n wynebu'r gorllewin, sy'n ffurfio ochr Dyffryn Gwy yn y man hwn. Fe'i hamgylchynir gan y caelun cyfagos i'r dwyrain, ac i'r gorllewin gan y coridor trafnidiaeth cul sy'n rhedeg ar hyd glannau Afon Gwy. Yn hanesyddol, roedd yr ardal wedi'i lleoli ym mhlwyf Llandidiwg.
Prin yw'r wybodaeth hanesyddol sydd ar gael am yr ardal hon; drwy gymharu mapiau diweddar a map degwm Plwyf Llandidiwg 1844, dynodir na fu fawr ddim newid o ran maint cyffredinol y coetir. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw dystiolaeth o weithgarwch yn yr ardal cyn y cyfnod ôl-ganoloesol, pan gafodd llwybrau cysylltiadau a thrafnidiaeth eu torri drwy'r ardal yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y llwybr gyntaf oedd Rheilffordd Trefynwy neu'r Dramffordd, a awdurdodwyd gan Ddeddf 1810, a gwblhawyd yn 1812 (Coates 1992). Roedd yn rhedeg drwy Howler's Slade, yn Fforest y Ddena, drwy Coleford i Drefynwy, ac mae'r llinell yn mynd drwy'r coetir, cyn gwahanu'n ddwy i'r de, ychydig y tu allan i ffin yr ardal. Yn ddiweddarach, cafodd y gwaith o adeiladu ffordd dyrpeg Trefynwy i Gas-gwent (1829) a Rheilffordd Dyffryn Gwy yn y 1860au a'r 70au ychydig o effaith ar ymyl dwyreiniol yr ardal (map degwm 1844 ac Argraffiad Cyntaf map yr AO).
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Nodweddir Coetir Lord’s Grove bron yn gyfan gwbl gan goetir hynafol lled-naturiol; mae'n cynnwys llain gul hir o goetir sy'n ymestyn i'r de ar hyd ochr gorllewinol y bryn uwchben Dyffryn Gwy i'r gogledd o Redbrook. Caiff prif nodwedd arall yr ardal ei darparu gan y cysylltiadau trafnidiaeth, sy'n rhedeg drwyddi; llinell hen dramffordd ddiwydiannol sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de drwy'r ardal, un o linellau cangen Tramffordd Trefynwy, a agorwyd yn 1812 ac a oedd yn rhedeg rhwng Trefynwy a Howler's Slade yn Coleford. Er iddi gael ei dymchwel erbyn cyhoeddi Argraffiad Cyntaf map yr AO (1887, 1890), gellir gweld llinell y dramffordd ar y mapiau hyn a thrac ydyw ar hyn o bryd. Yn ddiweddarach, gwasanaethodd y dramffordd hon weithfeydd tunplat Redbrook drwy'r 'Redbrook Incline Overbridge' (PRN 02195g, NPRN 34994, LB 85227, SAM MM 203), sy'n cwympo o fewn yr ardal gyfagos.
Yn ogystal, mae ffordd yr A466/Tyrpeg (Redbrook Road) a llinell hen Reilffordd Dyffryn Gwy yn diffinio ffin ddwyreiniol yr ardal. Ceir cysylltiadau eraill ar ffurf lonydd troellog sy'n rhedeg drwy'r ardal hon hefyd, gan gynnwys Wyesham Lane, sy'n arwain at dir Duffield's a Redbrook.
Mae'r archeoleg ddiwydiannol yn nodwedd arall sy'n cynnwys nifer o chwareli bach yn rhan ogleddol yr ardal (gan gynnwys NPRN 40606) sy'n bodoli o 1887/1890 o leiaf ac a ddangosir ar Argraffiad Cyntaf mapiau'r AO. Mae'r holl chwareli hyn yn agos at y cysylltiadau trafnidiaeth sy'n rhedeg drwy'r ardal; gallai llwybr Tramffordd Trefynwy, a'r lôn sy'n rhedeg i Cockshoot Ash Barn, fod wedi bod yn gysylltiedig â'r gwaith o adeiladu'r nodweddion hyn.