Dyffryn Gwy Isaf
034 Penallt
HLCA 034 Penallt
Anheddiad clystyrog organig llac bach o ffermydd a bythynnod â chlostiroedd cysylltiedig yn canolbwyntio ar Hen Eglwys Penallt (y Santes Fair); archeoleg greiriol/claddedig; pentref crabachog a chaelun canoloesol posibl; patrwm caeau amrywiol o glostiroedd afreolaidd datblygedig wrth wraidd yr anheddiad; yn fwy rheolaidd mewn mannau eraill; ffiniau traddodiadol (gan gynnwys waliau cerrig sych); nodweddion eglwysig: Eglwys a mynwent ganoloesol/ôl-ganoloesol; nodweddion cysylltiadau; Coetir Hynafol a phrysgwydd/tir heb ei reoli. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Penallt yn ardal sy'n cynnwys anheddiad gwasgaredig a'i dir amaethyddol cysylltiedig ar uwchlethrau serth Dyffryn Gwy. Mae'n cynnwys pentrefan hanesyddol Penallt er nid y pentref modern sy'n gorwedd i'r de-orllewin, y tu hwnt i ffin y Dirwedd Hanesyddol. Roedd Penallt yn rhan o blwyf Trelech tan 1887, pan ddaeth yn blwyf ar wahân, ac roedd yn rhan o faenor Trelech. Mae tirwedd yr ardal yn ei diffinio i raddau helaeth; Afon Gwy ac ardaloedd cyfagos o goetir hynafol sy'n ei hamgylchynu. Er bod map y degwm sy'n dyddio'n ôl i 1847 yn bodoli, roedd plwyfi Penallt a Threlech yn unedig tan 1887, pan ddaeth Penallt yn blwyf ar wahân.
Ystyrir ei bod yn debygol bod yr Hen Eglwys yn dyddio'n ôl i'r cyfnod canoloesol; crybwyllir yr eglwys gyntaf mewn rhestr o eglwysi sy'n gyfoes â theyrnasiad Brenin John (1199-1216) mewn atodiad i Lyfr Llandaf (Bradney 1913, 157) ac fe'i crybwyllir hefyd yn 1254 (Brook 1988, 82). Gallai'r fynwent sy'n crymu ychydig awgrymu dyddiad canoloesol cynnar, fodd bynnag, nid yw hyn wedi'i gadarnhau eto.
Arferai'r eglwys fod yn gapel anwes i Sain Nicolas yn Nhrelech nes i Benallt ddod yn blwyf ar wahân yn 1887. Cafodd yr eglwys ei haddasu a'i hadfer yn 1886/7, gan J P Seddon o bosibl, sef pensaer yr Esgobaeth ar y pryd. Cyn hyn, adeiladwyd eglwys newydd yn 1869, wedi'i lleoli'n agosach at ganolfan y boblogaeth leol ym mhentref datblygol Pentwyn, sef Eglwys y Santes Fair. Ar ôl hynny yr Hen Eglwys oedd yr enw ar yr eglwys ganoloesol hyn.
Roedd plwyf Penallt yn agored i raddau helaeth tan Ddeddf Clostiroedd 1810, ac mae rhannau o'r ardal yn dal i fod yn agored ar fap degwm 1847 yn rhan ogledd-orllewinol yr ardal, o amgylch yr ardal o dir comin sydd wedi goroesi (gweler yr ardal â nodweddion gyfagos HLCA 032). Erbyn dyddiad Argraffiad Cyntaf map yr AO (1881, 1887) fodd bynnag, roedd yr ardal yn gwbl gaeedig, gan ffurfio caeau lled-reolaidd bach, sy'n goroesi ar y ffurf hon hyd heddiw (AO 2006 1:10000 data Landline). Mewn mannau eraill, mae patrwm y caeau wedi newid cryn dipyn, yn enwedig y caeau yn union uwchben glan yr afon, a gyfunwyd yn un clostir. Nid yw cynllun yr anheddiad wedi newid fawr ddim ers map y degwm; dangosir y rhan fwyaf o adeiladau'r ardal sydd wedi goroesi ar fap y degwm ac maent oll yn bodoli erbyn Argraffiad Cyntaf map yr AO (1881, 1887).
Mae'n bosibl mai'r rheswm dros beidio â datblygu'r anheddiad yn yr ardal yw'r newid o ran ffocws yr anheddiad o'r hen anheddiad ger yr Hen Eglwys i'r pentref presennol i'r de-orllewin y tu allan i'r ardal Dirwedd Hanesyddol, a oedd ar waith erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hefyd dresmasu ar yr ardal sef 'The Birches', ar hyd y llwybrau i'r de ac i fannau croesi Afon Gwy. Mae'n debygol mai olion anheddiad canoloesol yw'r hen anheddiad sy'n canolbwyntio ar yr eglwys mewn gwirionedd; mae ffotograffau o'r awyr o'r ardal yn dynodi nodweddion creiriol/claddedig posibl, a fyddai'n dynodi anheddiad mwy yn flaenorol.
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Nodweddir Penallt fel anheddiad clystyrog organig rhydd bach a chanolfan blwyfol a oedd yn canolbwyntio ar Hen Eglwys Penallt (PRN 01273g, NPRNs 307475, 307359, LB 2104 Gradd I), eglwys ganoloesol ysblennydd, sydd bellach yn adeilad rhestredig Gradd I.
Caiff Hen Eglwys Penallt ei dogfennu gyntaf ar ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg mewn atodiad i Lyfr Llandaf. Er bod y rhan fwyaf o'r adeilad presennol yn dyddio'n ôl i ddiwedd y bymthegfed ganrif/dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg, mae goleddf mewnol ar wal ogleddol y corff yn ogystal â'r dystiolaeth ddogfennol yn awgrymu bod yr eglwys bresennol yn fwy diweddar. Y twr sgwâr yw rhan weladwy hynaf yr eglwys; mae'r rhan isaf yn dyddio'n ôl i ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae'r rhan hon wedi'i hadeiladu o flociau o gerrig maint gwahanol bras, ac fe'i haddurnwyd â rhwyllwaith, o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg o bosibl. Ychwanegwyd at y twr yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg, er mwyn cadw clychau'r eglwys fwy na thebyg, y mae'r cynharaf yn dyddio'n ôl i 1662. Caiff y gwaith addasu ei adlewyrchu gan wahaniaethau bach yn y gwaith cerrig. Mae rhan uchaf y twr wedi'i hadeiladu o flociau taclusach sy'n fwy patrymog. Mae sawl ffenestr o'r dyddiad hwn yn goroesi y gallent fod hefyd wedi cael eu gosod yn ystod y gwaith hwn. Adeiladwyd yr eglwys o flociau sgwâr o dywodfaen lleol coch/llwyd, gan raddio i mewn i chwarts â chonglfeini cerrig nadd. Cafodd cerrig lleol, o fath Hen Dywodfaen Coch, eu dewis ar gyfer y rhwymau i'r agoriadau a manylion cerfiedig. Yn ystod gwaith adfer 1886/7, aethpwyd â gwaelod y grisiau rhwd, ynghyd â chorau blwch, pulpud teiran ac orielau o amgylch ochrau gogleddol a gorllewinol y corff.
Mae nodweddion eglwysig eraill sy'n gysylltiedig â'r eglwys yn gwneud cyfraniadau pwysig i gymeriad yr ardal. Mae'r fynwent ei hun (PRN 08237g) yn betryal afreolaidd sy'n crymu, fel y dangosir ar fap degwm 1847 ac mae ar ffurf teras i raddau i mewn i ochr serth y bryn lle y lleolir yr eglwys. Mae'r wal derfyn rwbel patrymog wedi'i thorri wrth fynedfa'r ochr ddeheuol lle y lleolir porth y fynwent, ynghyd â chamfa i'r de o'r porth. Credir bod porth y fynwent a'r gamfa (PRN 07959g, LB 24928 Gradd II) yn dyddio'n ôl i ddechrau'r ugeinfed ganrif ac maent wedi'u hadeiladu o waliau rwbel chwarts tywodfaen â tho derw talcennog. Yn y fynwent ceir gwaelod wythonglog a siafft croes mynwent ganoloesol (PRN 01291g; NPRN 306513; LB 2105 Gradd II; SAM MM 146), yn ogystal â sawl cofeb ddiddorol o'r cyfnod ôl-ganoloesol, y mae'r cynharaf yn dyddio'n ôl i ganol yr ail ganrif ar bymtheg. Enghraifft bwysig yw beddrod mawr trawiadol Thomas Pritchard (PRN 07960g, LB 24946 Grade II) dyddiedig 1834, a adeiladwyd o dywodfaen gyda wal gerrig isel â rheiliau haearn gyr yn ei amgylchynu.
Mae cnewyllyn yr anheddiad cynnar sy'n canolbwyntio ar eglwys Penallt yn cynnwys bythynnod a ffermydd sydd wedi'u clystyru'n fras, a leolir mewn ardal o glostiroedd afreolaidd; ymddengys fod hyn yn arwydd o dresmasu cynnar ar y coetir agored. Mae ffotograffau o'r awyr yn dynodi anheddiad creiriol/claddedig posibl yng nghyffiniau'r eglwys wrth ffin y caelun mwy rheolaidd, sy'n ganoloesol o bosibl, i'r gogledd a'r dwyrain, sy'n awgrymu anheddiad mwy ar un adeg a fyddai'n unol â'r honiad bod Penallt yn debygol o gynrychioli anheddiad canoloesol llai.
Nid yw'r anheddiad presennol wedi newid fawr ddim ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg (map degwm 1847). Caiff y gydberthynas agos rhwng yr eglwys a'r anheddiad ei phwysleisio gan yr elfen 'Eglwys/Church' yn enwau ffermydd a bythynnod. Mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau wedi'u gwneud o gerrig patrymog neu gymysg, rhai wedi'u rendro, tra llechi yw prif ddeunydd y toeon.
Mae patrwm caeau amrywiol yr ardal yn nodwedd bwysig: ceir clostiroedd afreolaidd datblygedig wrth 'wraidd' yr anheddiad, tra bod trefniant mwy rheolaidd sydd ychydig bach yn gromliniol o gaeau is-hirsgwar ac unionlin canolig eu maint i'r gogledd-ddwyrain, gan ein hatgoffa o gae agored canoloesol; mae'r ffermdir hwn yn gysylltiedig â Church Farm. Gerllaw mae ty o'r enw 'Old Tythe Barn', ysgubor wedi'i haddasu o strwythur a ddangosir ar fap degwm 1847 ac a labelwyd yn Ysgubor ddegwm ar Argraffiad Cyntaf map yr AO (1887). I'r gorllewin mae ardal fach o glostiroedd hirsgwar rheolaidd, sy'n fwy nodweddiadol o glostir ôl-ganoloesol diweddar.
Er yr ystyrir bod patrwm caeau afreolaidd yr ardal hon yn ganoloesol, dylid nodi y gallai patrwm tebyg o glostiroedd sef 'The Birches' (HLC027) ddyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol. Felly, mae angen ymchwilio'n fanylach i batrwm y clostiroedd a datblygiad yr anheddiad yn yr ardal, a fyddai o ddiddordeb mawr.
I'r gogledd yn gysylltiedig â Jackston Farm mae caeau hirsgwar bach, sy'n cynrychioli tresmasu ôl-ganoloesol diweddarach ar ochr ddwyreiniol Church Common. Yn gysylltiedig â'r ardal hon mae dau strwythur hirsgwar a ddangosir ar Argraffiad Cyntaf map yr AO 1881 (PRNs 07138g a 07139g), mewn ardal gaeedig ar ôl dyddiad map y degwm. Mae ffiniau caeau'r ardal hon yn amrywio, er mai ffensys post a gwifren ydynt yn bennaf, gyda rhai gwrychoedd â choed gwrych nodedig, a waliau cerrig sych, y mae rhai o flociau chwarts mawr.
Mae gan yr ardal gysylltiadau cryf â rhannau eraill o blwyf Penallt; mae pentref mwy diweddar Penallt wedi'i leoli i'r de o'r Hen Eglwys, y tu allan i'r ardal Dirwedd Hanesyddol, lle yr adeiladwyd eglwys newydd y Santes Fair yn 1869. Mae gan yr ardal â nodweddion gysylltiadau agos hefyd â Choedwig Hael (HLCA027), ardal 'The Birches' a Dyffryn Black Brook, lle yr ymddengys i gam arall ar ehangu'r anheddiad ddigwydd yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, yn nodweddiadol tresmasu afreolaidd tameidiog ar y llethrau coediog i'r de-ddwyrain o Benallt.
Mae natur goediog yr ardal yn nodwedd arall; mae coetir hynafol yn diffinio ffiniau dwyreiniol a gorllewinol yr ardal, tra bod parseli bach o goetir hynafol wedi goroesi ym matrics tir amaethyddol Penallt. Mae hefyd yn bosibl bod rhai o'r coed nodedig a geir wrth ffiniau'r caeau yn weddill o hen goetir a gliriwyd. Nodweddir Penallt yn rhannol hefyd gan brysgwydd nas rheolir, sydd naill ai'n arwydd o elfen o ddychwelyd i goetir yn gysylltiedig â llai o ddibyniaeth ar ddaliadau bach, neu ardaloedd, na chawsant byth eu clirio na'u gwella'n llawn.
Rhydd llwybrau a lonydd troellog cul nodwedd arall o'r ardal, sy'n cysylltu anheddiad Penallt â'i gefnwlad amaethyddol, daliadau anghysbell amrywiol (mae llawer ohonynt yn hawliau tramwy cyhoeddus erbyn hyn), ardaloedd lle ehangwyd anheddiad, a'r dirwedd ehangach, fel Trelech i'r dwyrain a mannau croesi Afon Gwy i'r gorllewin. Lôn wledig gul yw'r prif lwybr drwy'r ardal, sy'n mynd ar draws ochr y dyffryn tuag at 'The Birches' (HLCA027); mae gwrychoedd a waliau cerrig sych o flociau chwarts mawr yn amgylchynu'r lôn.