Dyffryn Gwy Isaf
037 Caelun Troy Farm
HLCA 037 Caelun Troy Farm
Tirwedd amaethyddol a lleoliad hanfodol cysylltiedig ar gyfer Troy House (HLCA038): caelun rheolaidd o glostiroedd canolig yn gysylltiedig â fferm y plas gynlluniedig; ffiniau traddodiadol amrywiol; adeiladau nodweddiadol: fferm ac adeiladau allan (Fferm y Plas); bythynnod a phorthdai ystadau (rhai mewn arddull gynhenid bictiwrésg); archeoleg greiriol/claddedig: anheddiad/caeau cynhanesyddol - ôl-ganoloesol; archeoleg ddiwydiannol: ffwrnais bwrw haearn Rufeinig; ôl-ganoloesol? melin bannu; addurniadol/hamdden creiriol: gardd a pharcdir ôl-ganoloesol yn gysylltiedig â Troy House (ee ardal 'Old Parke', pyllau, gwndidau a groto); cysylltiadau hanesyddol; nodweddion cysylltiadau. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Troy Farm yn ardal o dir amaethyddol sy'n cynnwys y ffermdy ac adeiladau fferm. Fe'i lleolir ar lethrau gorllewinol isaf Dyffryn Afon Troddi, ac, yn rhan ogleddol yr ardal, lawr gwastad y dyffryn, wrth gyflifiad Afon Troddi ac Afon Gwy. Amgylchynir yr ardal gan Afon Gwy i'r gogledd, a'r coetir hynafol, sydd ar frig y gefnen i'r dwyrain. Mae ffordd, y B4293 fodern, yn diffinio ei ffin orllewinol. Roedd yn rhan o blwyf Mitchell Troy, ym maenor Trelech ac mae'n rhan o'r ystad yn gysylltiedig â Troy House, a oedd, o'r ail ganrif ar bymtheg, yn gartref i Ddugiaid Beaufort yn Sir Fynwy.
Mae canfyddiadau Mesolithig (PRN 03876g) a Neolithig (PRN 03897g) o'r ardal yn dynodi anheddiad cynnar. Ymhlith olion Rhufeinig yr ardal mae ffwrnais haearn bwrw a llinell bosibl y Ffordd Rufeinig o Drefynwy i Gas-gwent (RR6d-01, Sherman ac Evans 2004).
Roedd adeilad cyfagos Troy House (HLCA 038), a oedd yn blas pwysig yn barod yn y bymthegfed ganrif, yn ganolbwynt i'r ardal; daethpwyd o hyd i lawer o olion canoloesol (PRNs 03870g, a 03898g), tra bod yr ysgubor ar Troy Farm yn cynnwys elfennau strwythurol, a allai ddyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Ystyrir mai olion adeilad cynharach a addaswyd yw'r rhes o fythynnod ar y fferm, sy'n dyddio o'r cyfnod canoloesol o bosibl (Newman 2000, 392). Credir hefyd fod melin ddwr ar Afon Troddi a oedd yn bodoli yn y bedwaredd ganrif ar ddeg yn yr ardal (Rees 1932, taflen SE).
Mae cysylltiad agos iawn rhwng yr adeiladau fferm a'r caeau, sy'n perthyn i'r fferm, a Troy House. Gelwir rhan ogleddol yr ardal, ynghyd â'r ardal o goetir hynafol, yn Troy Park, sy'n awgrymu iddi ffurfio parc ceirw'r ystad yn wreiddiol, a grybwyllir yn ewyllys Syr Charles Herbert, dyddiedig 1552 (Bradney 1913, 163). Mae'r ardal hon, ar lethrau gogledd-orllewinol y gefnen sy'n rhannu Dyffrynnoedd Troddi a Gwy, yn bodoli ar ffurf caelun rheolaidd o gaeau sgwâr â ffiniau syth o wrychoedd, sy'n awgrymu i'r ardal ddod yn gaeedig yn hwyr yn ei hanes. Mitchel Troy oedd un o'r plwyfi a gwmpaswyd gan Ddeddf Clostiroedd 1810, ac efallai fod y broses o greu clostiroedd yn dyddio'n ôl i'r Ddeddf hon.
Fel sy'n gyffredin mewn demenau hynafol, mae'r ffermdy ac adeiladau'r fferm yn agos iawn at y plas, sy'n uno ag ef i'r de. Roedd y rhain yn gweithredu fel stablau a llety i geffylau a cherbydau Dug Beaufort, yn ystod ymweliadau'r teulu â Troy, sef ei sedd yn Sir Fynwy. Roedd gan y fferm ei hun enw da am fod yn ffrwythlon ac yn gynhyrchiol (Bradney 1913, 165) ac fe'i cynhwyswyd pan werthwyd ystad Troy i Edward Arnott, pan mai tenant Troy Farm oedd Aaron Smith. Mae'r ardal yn dal i fod yn fferm weithiol, er bod y ffermdy wedi'i rannu bellach yn sawl annedd llai.
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Nodweddir Caelun Troy Farm gan y caelun amaethyddol sy'n cynnwys caeau rheolaidd canolig-mawr ar y llethrau i'r dwyrain, a dolydd agored i'r gogledd ar waelod gwastad y dyffryn sy'n uno ag Afon Gwy, wrth i'r dyffryn ledaenu o dan Drefynwy. Mae'r system gaeau hon, sy'n dir pori ar hyn o bryd ac yn debygol o fod yn adlewyrchu'r broses o ad-drefnu'r ystad yn y cyfnod ôl-ganoloesol, heb newid fawr ddim ers Argraffiad Cyntaf map yr AO 1881 heblaw am rywfaint o waith cyfuno yn rhan ddeheuol yr ardal. Coed gwrych nodedig yw ffiniau'r caeau yn yr ardal hon yn bennaf a cheir waliau mortar a rhai ffensys post a gwifren.
Un o nodweddion pwysig yr ardal yw ei chysylltiadau hanesyddol â Troy House (HLCA 038), sy'n amgylchynu'r ardal. Mae rhan ogleddol yr ardal hon yn ffurfio lleoliad hollbwysig parc Troy House, ac mae cryn dipyn o ran ogleddol yr ardal yn hen barcdir a oedd yn gysylltiedig â'r ty, a ddangosir fel coetir ar Argraffiad Cyntaf map yr AO. Mae ardal wreiddiol y parcdir yn llawer llai erbyn hyn, ac mae bellach yn ffurfio rhan o'r caelun amaethyddol amgylchynol sy'n gysylltiedig â Troy Farm.
Mae'r anheddiad yn yr ardal yn cynnwys anheddau anghysbell a'r ffermdy, sy'n cydffinio â Troy House. Cynlluniwyd y fferm ar ffurf adeiladau hirfain o amgylch iard sgwâr canolog. Mae'r anheddiad yma hefyd yn cynnwys rhes o fythynnod, sydd o bosibl yn strwythur canoloesol cynharach, a addaswyd; adeiladwyd y bythynnod o gerrig patrymog, wedi'u rendro'r naill ben a'r llall ond a adawyd yn y golwg yng nghanol yr adeilad ac o dan do llechi. Yn ogystal, mae anheddiad pellach yn yr ardal yn cynnwys bythynnod anghysbell, yn rhan ogledd-orllewinol yr ardal. Mae'r ardal yn cynnwys bythynnod ystad nodweddiadol, fel Troy Cottage, Adeilad Rhestredig Gradd II, yn yr arddull ‘cottage ornee’ pictiwrésg, ac Elm Cottage. Yn nodedig hefyd mae'r ysgubor restredig Gradd II ar Troy House Farm, sef 'The Tithe Barn'; adeilad deulawr yw hwn, gyda waliau cerrig dibatrwm a tho o deils bric. Er iddo gael ei addasu a'i adnewyddu'n fawr, mae ganddo ffenestri Tuduraidd â ffrâm o gerrig o hyd, ac mae'r fynedfa o ochr y fferm ar ffurf bwa Gothig a adeiladwyd yn fras, a allai ddyddio'n ôl i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Nodwedd arall yw coetir hynafol lled naturiol, a leolir ar frig y gefnen i'r dwyrain, Coedwig Troypark (HLCA 036) ac mae'n tresmasu ar yr ardal. Mae Argraffiad Cyntaf map yr AO 1881 yn dangos yr ardal hon yn fwy coediog, rhan o'r parcdir a oedd yn gysylltiedig â Troy House (HLCA 038) ac mae'n bosibl i'r coetir hynafol yn hanesyddol ymestyn ymhellach i'r ardal nag ar hyn o bryd.
Mae cysylltiadau yn nodwedd arall yn yr ardal, ac ar hyn o bryd maent yn cynnwys y lôn fynediad syth i Troy House a Troy House Farm, tra bod ffin orllewinol yr ardal wedi'i ffurfio gan ffordd fodern y B4293, llwybr y Ffordd Dyrpeg o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd llwybr cyn dyrpeg cynharach yn rhedeg drwy'r ardal â nodweddion mewn llinell syth i'r de am tua 0.39km; mae'r llwybr hyn hwn, a oedd yn cael ei ddefnyddio yn 1765, wedi'i gynnal fel ceuffordd. Ystyrir bod y Ffordd Rufeinig (PRN 02460g; Sherman ac Evans 2004, RR6d) rhwng Trefynwy a Chas-gwent wedi dilyn llwybr tebyg os nad yn union yr un fath, er mwyn gwyro oddi wrth linell y ffordd fodern a rhedeg drwy ran orllewinol yr ardal â nodweddion.
Mae'r sôn am ffwrnais bwrw haearn Rufeinig bosibl yn yr ardal yn dynodi elfen ddiwydiannol gynharach bosibl o ran cymeriad yr ardal.