Dyffryn Gwy Isaf
038 Troy House
HLCA 038 Troy House
Ty gwledig ôl-ganoloesol mewn arddull Glasurol, Troy House, mewn parc a gardd gofrestredig gysylltiedig o'r 17eg-18fed ganrif; anheddiad/caeau ôl-ganoloesol archeoleg greiriol; ty gwledig ac adeiladau allan cysylltiedig, ee ychwanegiadau at adeilad ysgol, rhewdy; addurniadol/hamdden: parcdir a gardd; cysylltiadau hanesyddol. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Troy House yn barc cofrestredig (PGW (Gt) 16), sy'n cynnwys tri strwythur a restrir ar wahân: Troy House ei hun; porth a chlwydi'r ty; a'r ardd gaerog gysylltiedig, a leolir i'r gorllewin. Diffinnir yr ardal gan yr anheddiad, ar ffurf Troy House a'i barcdir cysylltiedig. Caiff ei ffiniau eu ffurfio gan derfynau'r parc ar Gofrestr Parciau a Gerddi Cymru, ac fe'u hymestynnwyd ychydig i'r gorllewin er mwyn cynnwys nodweddion yr ystyriwyd eu bod yn ddigon cysylltiedig â'r plas a'r parcdir i gyfiawnhau newid y ffiniau i'w cynnwys. Yn hanesyddol, roedd yr ardal ym mhlwyf Mitchel Troy, a oedd yn rhan o faenor Trelech.
Mae hanes Troy yn dechrau yn y bedwaredd ganrif ar ddeg; fe'i crybwyllir fel maenor yn 1314, ffi marchog a oedd yn eiddo i deulu'r de Clare, Ieirll Caerloyw a Hertford. Sedd teulu Catchmay ydoedd yn gyntaf, ac yna aeth i ddwylo teulu Scudamore drwy briodas. Roedd Arglwyddi Troy Parva yn gysylltiedig â gwrthryfel Glyndwr; cafodd Philip Scudamore, a oedd yn gysylltiedig ag Owain Glyndwr, ei ddienyddio yn yr Amwythig yn 1411, tra gwnaeth Syr John Scudamore, sef Arglwydd Troy Parva yn 1425, briodi merch Glyndwr.
Yn ystod y bymthegfed ganrif a'r unfed ganrif ar bymtheg, roedd Troy yn gysylltiedig â theulu Herbert a oedd yn bwerus, yn ddylanwadol ac yn ddrwg-enwog yn aml (Griffiths 2008, 262-279; Robinson 2008, 309-336). Mae teulu Herbert o Troy, a Rhaglan, y tu allan ac i'r gorllewin o ardal Dyffryn Gwy, yn enwog am gefnogi diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg, gan noddi beirdd Cymraeg cryn dipyn, fel Rhys Goch Eryri o Feirionnydd, Llywelyn ab y Moel o Bowys, Hywel Swrdwal a Guto'r Glyn, ymhlith eraill (Evans 2008, 288-294).
Roedd Syr William Herbert, mab anghyfreithlon Iarll cyntaf Penfro, yn gyfrifol am ailadeiladu'r faenor ganoloesol wreiddiol ar ddiwedd y bymthegfed ganrif. Gallai fod rhan o'r ty wedi'i ailfodelu o'r bymthegfed ganrif wedi'i gynnal ar ochr ddeheuol y strwythur presennol (Bradney 1913, 164).
Tua dechrau'r ail ganrif ar bymtheg, prynwyd yr ystad gan Edward, pedwerydd Iarll Caerwrangon a chafodd ei etifedd, y pumed Iarll, ei wneud yn Ardalydd Caerwrangon. Daeth Troy House yn gartref i frodyr iau'r Ardalydd, Syr Thomas Somerset ac ar ôl hynny, Syr Charles Somerset. Ar ôl i Syr Charles farw yn 1665; daeth Troy House yn gartref i Ardalydd Caerwrangon, a gafodd ei wneud yn Ddug Beaufort yn 1682.
Mae Doethair i Iarll Caerwrangon yn nodi i Syr Thomas Somerset 'delighted himself much in fine gardens and orchards' ac iddo anfon ffrwythau, gan gynnwys bricyll, i'w frawd yr Ardalydd, yng Nghastell Rhaglan, yn ystod ymweliad yno gan Charles I yn 1645 (Cofrestr Parciau a Gerddi 1994, 155). Adeiladodd Syr Charles Somerset dy newydd yma ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg, ac ymddengys iddo hefyd ailfodelu'r gerddi a'r tir; rhoddwyd ei flaenlythyrau ar darian dros y drws i'r ardd gaerog, ynghyd â rhai ei wraig, Elizabeth, ac roedd y dyddiad sef 1611 arfer bod yno hefyd er ei fod wedi treulio erbyn hyn (Cofrestr Parciau a Gerddi 155). Mae'r ty a adeiladwyd gan Charles Somerset yn dal i fodoli ar ffurf dwy adain ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg (dechrau'r 1680au) adeiladau yn wynebu'r gogledd a adeiladwyd yn yr arddull glasurol gan Ddug cyntaf Beaufort (Newman 2000, 391).
Drwy gydol cryn dipyn o'i hanes prin yr ymwelwyd â Troy House gan y teulu ac fe'i meddiannwyd gan ei stiwardiaid yn Sir Fynwy. Pan werthwyd ystadau Beaufort yn 1901, ni chafodd Troy House ei werthu, a dim ond yn ddiweddarach y cafodd ei brynu gan Mr Edward Arnott (Bradney 1913 163-4). Yn ystod y 1950au a'r 60au, pan oedd y ty yn ysgol breifat, a redwyd gan Urdd Llueiniaid y Bugail Da, cafodd y ty ei addasu a'i ymestyn, gyda'r hyn a ychwanegwyd yn cynnwys capel, yn dyddio'n ôl i 1963/4 gan y pensaer Kenneth W Smithies o Fryste (Newman 2000 392).
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Nodweddir Troy House fel parc a gardd o amgylch ty gwledig mawr, Troy House, sydd bellach yn adeilad rhestredig gradd II* (LB 2060). Wedi'i adeiladu, neu ei ailfodelu o leiaf yn y 1660au, mae Troy House yn adeilad tri llawr hirsgwar mawr o gerrig patrymog a tho llechi a phediment plaen uwchben y rhan ganolog. Ceir blaengwrt cylchol o flaen y fynedfa wrth y prif ddrychiad yn y gogledd, gyda grisiau yn arwain i fyny at y drws ffrynt ar y piano nobile. Erbyn hyn eir at y ty o'r gogledd-orllewin, mae lôn yn arwain at y porth, sydd hefyd yn rhestredig (LB 25791; gradd II) o amgylch ochr orllewinol y ty; mae'r blaengwrt cylchol sydd o flaen y brif fynedfa dan laswellt erbyn hyn.
Mae'r gerddi cysylltiedig yn cynnwys gardd gaerog bwysig o ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg i'r gorllewin o'r ty, y mae'r waliau a'r drws (cerrig o 1611 a gofnodwyd) yn dal i fodoli, ac maent yn rhestredig gradd II* (LB 2886). Mae waliau'r ardd hirsgwar fawr hon wedi'u hadeiladu o gerrig, tra bod y drws canolog i'r dwyrain o dywodfaen coch addurnedig â strapwaith a tharian herodrol gyda blaenlythrennau aelodau o deulu Somerset arni. Erbyn 1706, roedd yr ardd hon yn cael ei defnyddio fel perllan, ac yn ddiweddarach roedd yn fynwent i'r llueiniaid a oedd yn byw yn y ty yn ddiweddarach. Fel cryn dipyn o'r parcdir blaenorol, mae'r ardal hon yn dir pori bellach, gyda choed ffrwythau a esgeuluswyd yn y berllan. Mae'r gwaith o ychwanegu at yr ysgol wedi cael gwared ar rywfaint o'r ardd i'r dwyrain o Troy House, a ddefnyddiwyd fel perllan a gardd lysiau, yn ogystal ag ardal o erddi blodau â lawntydd a llwybrau graean.
Er bod cryn dipyn o'r hen barcdir, sy'n dir amaethyddol bellach, wedi'i hepgor o'r ardal ar y Gofrestr, mae ffiniau'r ardal hon â nodweddion wedi'u hymestyn i gynnwys y rhewdy o'r ddeunawfed ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac o bosibl bantri o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg i'r dwyrain o Troy House. Mae gan y ddwy nodwedd gysylltiadau agos â'r ty, ac maent wedi'u huno â'r parc unwaith eto am y rheswm hwn.
Mae gan yr ardal gysylltiadau hanesyddol cryf, er enghraifft teulu Scudamore, gwrthryfel Glyndwr, a chyda theulu Herbert a theulu Somerset, yn ddiweddarach Dugiaid Beaufort.
Ceir cysylltiadau agos â Troy Farm sydd gerllaw, fferm y plas ar Argraffiad Cyntaf mapiau'r AO (1881), a'r tir amaethyddol o amgylch (HLCA037), y mae rhan ohono yn lleoliad hanfodol ar gyfer y parc, gyda chryn dipyn ohono yn hen barcdir. Roedd cysylltiadau agos hefyd rhwng y tir i'r gogledd a'r ty a oedd yn cynnwys rhes o goed a blannwyd rhwng y 1660au a 1706, a arweiniai o brif fynedfa'r ty i gyflifiad Afon Gwy ac Afon Mynwy.