Dyffryn Gwy Isaf
036 Coedwig Troypark
HLCA 036 Coedwig Troypark
Ardal o Goetir Hynafol (lleoliad ehangach HLCA038) â chlostiroedd bach a chorlannau defaid; ffiniau traddodiadol; archeoleg ddiwydiannol: chwareli; melin seidr; nodweddion cysylltiadau; patrwm anheddu: ffarm wasgaredig brin a mân strwythurau eraill. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Coedwig Troypark yn ardal o goetir hynafol sy'n ffurfio stribyn tenau hir ar frig y gefnen a'r llethrau sy'n gwahanu Dyffrynnoedd Troddi a Gwy, ac yn amgylchynu'r goedwig gyfan: Coedwig Lydart Orles; Coedwig Graig; Troy Orles; Troypark; a'r Livox. Diffinnir ei ffiniau gan faint y coetir hynafol, ac Afon Gwy i'r gogledd. Yn hanesyddol, roedd yn rhan o blwyf Mitchell Troy, a oedd yn rhan o faenor Trelech, a oedd yn nwylo Dugiaid Beaufort yn draddodiadol. Cafodd y coetir, sef rhan o ystad Troy, ei brynu gan bedwerydd Iarll Caerwrangon i ddechrau tua 1600 ac arhosodd yn y teulu hwn (Dugiaid Beaufort yn ddiweddarach) nes iddo gael ei brynu gan Edward Arnott.
Nid oes unrhyw dystiolaeth o weithgarwch yma cyn y cyfnod ôl-ganoloesol, pan geir cryn dipyn o weithgarwch chwarela sy'n gysylltiedig â'r diwydiant meini llifo lleol, yn ogystal â sawl carreg nas gorffenwyd a adawyd yn y fan a'r lle. Hefyd, mae melin seidr o'r un cyfnod. Mae gweithgarwch amaethyddol yn yr ardal hefyd yn dyddio'n ôl i'r cyfnod hwn, ac fe'i cynrychiolir gan rai adeiladau bach sy'n gysylltiedig â chlostiroedd a chorlan.
Roedd rhan ogleddol yr ardal â nodweddion yn rhan o Troy Park, y gerddi pleser a oedd yn gysylltiedig â Troy House (HLCA038). Fe'i diffinnir gan wal derfyn o hyd sy'n amgylchynu rhan ogledd-ddwyreiniol yr ardal (sy'n cynnwys AoDdGA Coedwig Livox) gyda'r ty a'r gerddi, ac mae'n ei wahanu oddi wrth weddill y coetir i'r de-orllewin.
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Nodweddir Coedwig Troypark gan goetir hynafol, sy'n cynnwys coetir llydanddail cymysg. Ar Argraffiad Cyntaf mapiau'r AO 1881 dangosir y coetir yn ymestyn ymhellach i'r dwyrain, i mewn i'r caelun cyfagos (HLCA 037) nag a wneir ar hyn o bryd. Mae'n bodoli'n bennaf ar ffurf coetir hynafol wedi'i ailblannu, er bod rhan ogleddol yr ardal, ar y llethrau gogledd-ddwyreiniol yn syth uwchben Afon Gwy, yn goetir lled-naturiol hynafol. Caiff y rhan hon o'r ardal, sef Coedwig Livox, ei diogelu fel AoDdGA (46/33WGG).
Mae diwydiant yn nodwedd bwysig yn yr ardal; bu cryn dipyn o weithgarwch diwydiannol yn yr ardal. Mae chwareli tywodfaen nas defnyddir o'r cyfnod ôl-ganoloesol a'r cyfnod modern wedi goroesi, er nas dangosir ar fapiau hanesyddol. Mae'r ardaloedd chwarela hyn ar uwchlethrau serth y gefnen, ac mewn un achos gellir gweld meini llifo heb eu gorffen. Mae un ardal chwarela yn gysylltiedig â llwyfan sydd wedi'i therasu i mewn i'r llethrau sy'n wynebu'r gogledd ychydig o dan y chwarel. Gellir gweld rhagor o weithgarwch diwydiannol yn yr ardal â nodweddion ar ffurf melin seidr, (PRN 07454g) sy'n gysylltiedig â'r fferm (PRN 07453g).
Prin yw'r anheddiad yn yr ardal. Er na cheir unrhyw anheddau a feddiannir ar hyn o bryd yn yr ardal, gwelir nodweddion anheddiad creiriol gwasgaredig ac anghysbell, fel y fferm (PRN 07453g) sydd o bosibl yn gysylltiedig â Lower Graig Farm ar dir amaethyddol cyfagos, a hefyd adeilad ychwanegol, sy'n hirsgwar ei siâp, sydd i'w weld o fap y degwm a mapiau diweddarach. Yn benodol, mae'r anheddiad hwn yn cynnwys ty, clostiroedd caerog, a lôn fynediad, yn ogystal â'r wasg seidr (PRN 07454g). Yn ogystal, cofnodwyd clostir hirsgwar bach y tybir iddo fod yn gorlan (PRN 07457g) ar Ail Argraffiad map yr AO (1901). Mae'r nodweddion hyn hefyd yn gysylltiedig â gweithgarwch amaethyddol nodweddiadol, tra bod y coetir wedi'i rannu'n glostiroedd afreolaidd bach i raddau, sydd o bosibl yn gysylltiedig â chyn ddefnydd amaethyddol; mae'r ffiniau wedi'u gwneud o waliau cerrig sych, a chloddiau daear â gwrychoedd.
Mae gan yr ardal hon â nodweddion gysylltiadau agos hefyd ag ardaloedd â nodweddion cyfagos i'r gorllewin sef Troy Farm (HLCA 037) a Troy House (HLCA 038); roedd rhan ogleddol yr ardal yn perthyn i Troy Park, ac mae wal derfyn y parc yn rhedeg drwy'r coetir i'r dwyrain-orllewin. Mae'r wal derfyn drawiadol a nodweddiadol hon o dywodfaen gyda'i ffos gysylltiedig bosibl y tu mewn, yn 2m o uchder a 0.8m o led ar ei mwyaf heddiw.
Ceir cysylltiadau yn yr ardal ar ffurf lonydd a llwybrau, a cheir hefyd geuffordd (PRN 07459g) yn rhan ddeheuol yr ardal, sy'n dod i lawr y bryn gan redeg i'r gogledd-orllewin, sy'n gysylltiedig â gweithgarwch chwarela ar y ddwy ochr.