Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

039 Rheilffordd Ogleddol Dyffryn Gwy


Mynydd Varteg opencast tips: view to the northwest.

HLCA 039 Rheilffordd Ogleddol Dyffryn Gwy

Coridor cysylltiadau/trafnidiaeth: priffyrdd (A466); cerrig milltir; rheilffordd gyhoeddus (Rheilffordd Dyffryn Gwy); patrwm caeau amaethyddol: clostiroedd rheolaidd mawr, dolydd; ffiniau traddodiadol; Coetir Hynafol; hamdden a thwristiaeth addurniadol (rhan o lwybr cerdded Dyffryn Gwy). Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Rheilffordd Ogleddol Dyffryn Gwy yn goridor trafnidiaeth a chysylltiadau, sy'n rhedeg mewn llain gul ar lannau dwyreiniol Afon Gwy o Lower Redbrook i Wyesham lle mae'n lledaenu i gynnwys y caeau gwastad ar waelod y dyffryn. Mae'n cynnwys ymyl y coetir hynafol i'r dwyrain, a glan yr afon heb ei thrin. Amgylchynir yr ardal gan Afon Gwy i'r gorllewin, coetir hynafol i'r dwyrain, a phontydd i'r gogledd a'r de, sy'n cario'r nodweddion trafnidiaeth dros Afon Gwy. Yn hanesyddol, roedd wedi'i lleoli ym mhlwyf Llandidiwg, ym maenor Hadnock, ac roedd y rhan fwyaf o'r tir yn yr ardal yn eiddo i Ddug Beaufort.

Roedd yr ardal, fel ardal gyfagos coetir Lord's Grove (HLCA 040) fwy na thebyg yn bodoli'n bennaf ar ffurf coetir hynafol lled-naturiol am y rhan fwyaf o'i hanes, gyda dim ond llwybrau bach yn ei chroesi nes i sawl llwybr trafnidiaeth pwysig gael ei adeiladu o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae ffordd bresennol yr A466, Redbrook Road, yn dilyn llinell Ffordd Dyrpeg Trefynwy i Gas-gwent. Mae map degwm 1844 yn dangos Ffordd Dyrpeg Trefynwy i Gas-gwent, a agorwyd yn 1829, ac a oedd yn ddatblygiad pwysig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a wnaeth ddarparu mynediad ffordd am y tro cyntaf ar hyd Dyffryn Gwy. Mae dwy garreg filltir dyrpeg yn yr ardal yn ymwneud yn uniongyrchol â'r llwybr, y mae un ohonynt yn nodi mai 2 filltir yw'r pellter i Drefynwy, a'r llall yn nodi mai milltir yw'r pellter i Neuadd y Sir Trefynwy (y mae'r ddwy yn rhestredig Gradd II; LBs 85211 a 85212). Cafodd y ffordd ei hadeiladu a'i chynnal a'i chadw gan Ymddiriedolaeth Dyrpeg Trefynwy, ond cafodd ei dirwyn i ben yn 1873 a throsglwyddwyd y cyfrifoldeb i'r Bwrdd Priffyrdd lleol ac yna i Gyngor Sir Fynwy yn dilyn Deddf Cyngor Sir 1888.

Agorwyd llinell Rheilffordd Dyffryn Gwy rhwng Cas-gwent a Threfynwy, a awdurdodwyd gan Ddeddf 1866, yn 1876 gyda gwasanaethau i deithwyr yn gweithredu tan 1959. Caewyd y llinell yn 1964. Caiff y llinell ei dangos ar Argraffiad Cyntaf mapiau'r AO (1887, 1890), yn mynd gogledd-de drwy'r ardal wrth ochr y ffordd dyrpeg, a rhedai o Orsaf Troy ar hyd glannau gorllewinol yr afon dros draphont y rheilffordd (a adeiladwyd yn 1861 fel estyniad i linell Coleford, Trefynwy, Brynbuga a Phont-y-pwl), i barhau i'r de ar hyd glannau Afon Gwy, gan adael Sir Fynwy a Chymru yn Redbrook a Gorsaf Redbrook, cyn ail-groesi Afon Gwy a dod yn ôl i mewn i Gymru dros Bont Rheilffordd Redbrook (a adeiladwyd yn 1876) ac yna i Tintern Parva (HLCA 017).

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Rheilffordd Ogleddol Dyffryn Gwy gan y cysylltiadau a'r llwybrau trafnidiaeth, sy'n mynd gogledd-de drwy'r ardal, ac sy'n cynnwys llinell hen Reilffordd Dyffryn Gwy sy'n rhedeg ar hyd glannau dwyreiniol Afon Gwy ac yn croesi'r afon yn rhan ddeheuol yr ardal dros Bont Rheilffordd Redbrook sy'n rhestredig erbyn hyn (PRN 03267.2g, NPRN 43012, LB 24926). Mae Ffordd yr A466 (Redbrook Road), hen Ffordd Dyrpeg Trefynwy i Gas-gwent, yn dilyn llwybr cyfochrog i raddau helaeth i Reilffordd Dyffryn Gwy. Mae nodweddion trafnidiaeth yr ardal yn cynnwys dwy garreg filltir restredig (LBs 85211 a 85212).

Mae'r ardal hefyd yn cynnwys elfen amaethyddol i'r gogledd, lle mae gwaelod y dyffryn yn ymestyn i ardal o ddolydd rheolaidd mawr ar deras Afon Gwy, sy'n dir pori ar hyn o bryd. Yn hanesyddol roedd yr ardal hon yn cynnwys caeau llai, fel y dangosir ar Argraffiad Cyntaf mapiau'r AO (1881, 1890); mae'r rhain wedi'u cyfuno bellach. Mae'r ffiniau yma wedi'u ffurfio'n bennaf o ffensys post a gwifren gyda rhai gwrychoedd.