The Southeast Wales Industrial Ironworks Landscapes Project was concerned with identifying, quantifying, mapping and describing industrial landscapes and features associated with the coke-fired ironworks of the Heads of the Valleys area. This project allowed the survival and condition of the resource to be assessed, potential threats and levels of protection were established, and a series of recommendations for management and further protection were made. The project was spread over six years between 2004 and 2010.
Cyfyngwyd Blwyddyn 5 y prosiect (2008-09) i ardal astudio lai, sef cymoedd Sirhywi Uchaf, Ebwy ac Ebwy Fach a'r cefndeuddwr i ogledd Cwm Sirhywi o gwmpas Trefil. Cyfyngwyd chweched flwyddyn y prosiect (2009-10) i Gwm Cynon rhwng Hirwaun ac Aberaman, ac ardal calchfaen Penderyn i ogledd Hirwaun, a'r Cymoedd Dwyreiniol, i'r de o Safle Treftadaeth y Byd, Blaenafon. Roedd y gwaith yn cynnwys astudiaeth fanylach o nodweddion echdynnol a rheoli dwr mewn ardaloedd dethol, yr ystyrid eu bod yn dangos lefelau goroesi uchel neu botensial i oroesi ar sail gwaith y blynyddoedd diwethaf. Roedd prosiect y flwyddyn hon yn cynnwys arolwg maes wedi'i dargedu er mwyn canfod, mapio a disgrifio'r adnodd mewn rhagor o fanylder a galluogi asesiad o gyflwr ac arwyddocâd. Cyflawnwyd adolygiad o lefelau amddiffyn a bygythiadau hefyd, a gwnaethpwyd argymhellion.
Ymwelwyd â phedair ardal ar bymtheg (h.y. 42 is-ardal) yn ystod Blwyddyn 5 a chanfuwyd, disgrifiwyd ac aseswyd 149 o nodweddion/grwpiau echdynnol mawr o nodweddion echdynnol. O'r 78 o nodweddion rheoli dwr a ddisgrifiwyd, roedd 57 yn nodweddion newydd eu canfod. Ymhlith prif uchafbwyntiau'r astudiaeth roedd y tirweddau echdynnol sydd wedi'u cadw'n dda i'r gogledd o Frynmawr ac yn Nhwyn Blaen-nant, sydd ag olion hyd heddiw o gytiau gweithwyr a thystiolaeth o weithgarwch stripio lleiniau, rhigoli glo brig cynnar a hysio a sgwrio.
Ymwelwyd ag un ardal ar hugain (62 is-ardal) yn ystod Blwyddyn, 6 gan gynnwys 642 o safleoedd yn ymwneud â chloddio, a disgrifiwyd ac aseswyd yn bellach 622 ohonynt. Canfu'r astudiaeth 53 safle CAH ac 141 safle Cofnod Henebion Cenedlaethol yn yr ardal. Yn ystod yr astudiaeth ymwelwyd â 36 o nodweddion rheoli dwr ac fe'u haseswyd. Canfuwyd 18 o nodweddion rheoli dwr o'r newydd, ac estynnwyd cofnodion 54 o rai eraill (ardal y Cymoedd Dwyreiniol). Ymhlith uchafbwyntiau astudiaeth y flwyddyn roedd chwareli carreg galch nodedig Penderyn-foel, Hirwaun, sydd wedi'u cadw'n dda, a hefyd olion y prif sianeli bwydo sy'n gysylltiedig â gweithfeydd haearn Hirwaun a Llwydcoed.
Darperir adroddiadau ar Flwyddyn 5 a 6 ar ffurf dogfennau Pdf, y naill mewn un adran a'r llall mewn dwy adran y mae modd eu lawrlwytho: