Cefndir
Rhwng 2004 a 2010, cynhaliodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent (YAMG) brosiect, gyda chymorth grant gan Cadw, i astudio tirweddau diwydiannol ymyl ogleddol y meysydd glo, a hynny yn benodol yn ardal Blaenau'r Cymoedd, sy'n gysylltiedig â'r diwydiant haearn llosgi golosg, sef o bosib y diwydiant mwyaf dylanwadol yn hanes De Cymru.
Roedd y prosiect yn cynnwys y gweithfeydd haearn eu hunain a nodweddion perthynol, rhwydweithiau cludiant cysylltiedig, rheoli dwr, ynghyd â nodweddion echdynnol. Nod y prosiect oedd cynyddu'r data ar yr adnodd hanesyddol hwn, a thrwy hynny gynyddu ei broffil a'r ddealltwriaeth ohono. Yn y pen draw y nod oedd cynorthwyo cadwraeth drwy reolaeth ragweithiol, er enghraifft hysbysu Menter Blaenau'r Cymoedd.
Roedd y prosiect yn ymwneud â chanfod, mesur, mapio a disgrifio tirweddau a nodweddion diwydiannol. Aseswyd goroesiad a chyflwr yr adnodd, adnabuwyd peryglon posibl, ac adolygwyd lefelau amddiffyn cyfredol.
Roedd y prosiect yn ymwneud â chasglu ac adolygu gwybodaeth sydd eisoes yn bod, gan gynnwys cofnodion a gedwir yn:
- Y Cofnod Amgylcheddol Hanesyddol (CAH) yn YAMG, Abertawe
- Cofnod Henebion Cenedlaethol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC), Aberystwyth
- Cadw (ar gyfer gwybodaeth ynghylch cadwraeth statudol)
Ymhlith y ffynonellau allweddol roedd The South Wales Iron Industry 1750-1885 (Ince 1993) ac Early Limestone Railways (van Laun 2001). Ymgynghorwyd ag Archifau Cenedlaethol a Rhanbarthol, yn bennaf ar gyfer ffynonellau mapiau hanesyddol (e.e. darparwyd copïau o fapiau Degwm, cynlluniau ystadau a diwydiannol perthnasol trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Astudiwyd ffotograffau a dynnwyd o'r awyr yn y Gofrestr Ganolog o Ffotograffau Awyr yng Nghymru. Darparwyd mapiau digidol Arolwg Ordnans diweddar a hanesyddol (mapiau arolwg ordnans 1af-3ydd argraffiad), yn ogystal â ffotograffau digidol a dynnwyd o'r awyr, o dan drwydded gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Roedd dadansoddi cartograffig ac arolwg maes yn elfen bwysig o'r prosiect.