Weithfeydd haearn craidd
Blwyddyn 1
The Southeast Wales Industrial Ironworks Landscapes Project was concerned with identifying, quantifying, mapping and describing industrial landscapes and features associated with the coke-fired ironworks of the Heads of the Valleys area. This project allowed the survival and condition of the resource to be assessed, potential threats and levels of protection were established, and a series of recommendations for management and further protection were made. The project was spread over six years between 2004 and 2010.
Roedd Blwyddyn 1 y prosiect (2004-05) yn ymdrin â meysydd gwaith haearn craidd yn ardal yr astudiaeth. Astudiaeth bwrdd gwaith oedd hyn yn y bôn, a oedd yn cynnwys ymarfer mapio cyflym gan ddefnyddio gwybodaeth cartograffig a ffotograffau a dynnwyd o'r awyr yn bennaf, gydag atchweliad map manylach, ond cyfyngedig. Ynghyd â hyn, defnyddiwyd yr wybodaeth CAH gychwynnol a'r Cofnod Henebion Cenedlaethol. Y nod oedd canfod a disgrifio'r adnodd ac asesu goroesiad, cyflwr ac arwyddocâd meysydd gwaith haearn craidd, a'u gwirio trwy ymweliadau safle wedi'u targedu. Daeth yr astudiaeth o hyd i 35 o weithfeydd haearn craidd (yn cynnwys 38 o ardaloedd polygon), gyda 18 ohonynt yn safleoedd a oedd newydd eu canfod, a diwygiwyd 21 o gofrestriadau CAH.
Darperir adroddiad ar Flwyddyn 1 ar ffurf dogfen Pdf mewn saith adran y mae modd eu lawrlwytho: