Cod Ymddygiad Ymgynghorwyr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru
Mae gwaith pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru yn cynnwys cynnal a chadw Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol ar gyfer eu priod ranbarthau, darparu cyngor archaeolegol penodol, ynghyd â chyngor arall ar yr amgylchedd hanesyddol, a gweithredu cynlluniau i liniaru effeithiau datblygu ar weddillion archaeolegol.
Gall amgylchiadau godi pan fydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru yn rhoi cyngor ar faterion archaeolegol a materion eraill sy'n ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol, a hynny'n rhan o broses gynllunio (swyddogaeth Ymgynghorydd), ac yn cyflawni gwaith sy'n codi o'r cyngor hwnnw (swyddogaeth Ymarferydd). Mae'r gwaith ymgynghori yn cael ei ariannu trwy grantiau Llywodraeth Cymru a weinyddir trwy Cadw, yn ogystal â chymorth gan yr Awdurdodau Cynllunio Lleol. Mae Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod cyngor ar faterion sy'n ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol yn cael ei roi gan unigolion cymwys.
Ar gais Llywodraeth Cymru, mae'r Ymddiriedolaethau wedi llunio Cod Ymddygiad sy'n nodi'r gweithdrefnau y mae pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru wedi'u cyflwyno i sicrhau bod yna wahaniaeth clir rhwng rolau Ymgynghorydd ac Ymarferydd, a hynny er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau. Mae'r cod yn ategu codau ymarfer, codau ymddygiad, a safonau a chanllawiau eraill a ddefnyddir wrth ymarfer archaeoleg yn broffesiynol, yn hytrach na chymryd eu lle.
Mae'r Cod Ymarfer yn seiliedig ar saith egwyddor:
- 1. Caiff swyddogaethau Cynghorydd ac Ymarferydd eu cyflawni'n annibynnol gan adrannau neu dimau a reolir ar wahân o fewn pob Ymddiriedolaeth.
- 2. Bydd y Cynghorwyr ym mhob Ymddiriedolaeth yn rhoi cyngor hyddysg, diduedd, annibynnol a phroffesiynol ar y goblygiadau ac effaith datblygiadau arfaethedig ar yr amgylchedd hanesyddol. Bydd yr holl gyngor yn cydymffurfio â pholisi, cyngor a chanllawiau perthnasol Llywodraeth Cymru.
- 3. Caiff yr holl wybodaeth gyfrinachol neu freintiedig a ddarperir i neu gan y Cynghorwyr i'r Ymddiriedolaeth ei rheoli'n ddiogel er mwyn cynnal cyfrinachedd.
- 4. Ar gyfer gwaith rheoli datblygiadau a chynghori ar yr amgylchedd hanesyddol, bydd y Cynghorwyr ym mhob Ymddiriedolaeth yn trin swyddogaethau Ymarferydd o fewn yr Ymddiriedolaeth yn yr un modd â'r holl ymarferwyr eraill. Ni chaiff unrhyw wybodaeth ei chyfnewid mewn ffordd ffafraethol o fewn yr Ymddiriedolaethau.
- 5. Bydd y Cynghorwyr ym mhob Ymddiriedolaeth yn cyfeirio unrhyw un sy'n gwahodd tendrau am waith archaeolegol at ffynonellau gwybodaeth annibynnol priodol i'w galluogi i ddethol ymarferwyr archaeolegol cymwys.
- 6. Mae'r Cynghorwyr ym mhob Ymddiriedolaeth yn cydnabod y bydd y rhai sy'n bwriadu comisiynu gwaith archaeolegol yn awyddus efallai i benodi ymgynghorydd archaeolegol annibynnol i baratoi neu asesu cynllun ymchwilio ysgrifenedig, dylunio prosiect neu fanyleb gwaith y bwriedir iddynt fodloni briff archaeolegol, i fonitro cynnydd y gwaith, neu i roi cyngor ar argymhellion ar gyfer camau gweithredu pellach.
- 7. Bydd y Cynghorwyr ym mhob Ymddiriedolaeth yn darparu asesiad proffesiynol diduedd ac yn cymeradwyo briffiau archaeolegol, dyluniadau prosiect, cynlluniau ymchwilio ysgrifenedig, a'r gwaith a'r adroddiadau archaeolegol dilynol, ni waeth beth fo'r trefniadau cyflawni cytundebol.
Mae'r Ymddiriedolaeth wedi mabwysiadu polisïau penodol sy'n helpu i ategu'r gwaith o weithredu Cod Ymarfer yr Ymgynghorwyr mewn modd effeithiol.