Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

026 Pen-y-Fan


Blaenavon Ironworks: view to west.

HLCA 026 Pen-y-Fan

Tirwedd amaethyddol afreolaidd datblygedig ag anheddiad gwasgaredig: clostiroedd bach a chanolig amrywiol, gan gynnwys clostiroedd afreolaidd cychwynnol a dilynol a mwy o fewnlenwi rheolaidd; ffiniau caeau traddodiadol; prysgwydd/tir heb ei reoli; perllannau; patrwm anheddu: gwasgariad o dai a bythynnod, daliadau bach yn y bôn; Nodweddion cysylltiadau; twristiaeth (parc carafannau 'chalet' o'r Swisdir). Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Pen-y-Fan yn anheddiad ôl-ganoloesol a modern mewn tirwedd a oedd yn un amaethyddol yn bennaf yn flaenorol; mae'n bentrefan ar wahân ym mhentref Llaneuddogwy. Amgylchynir yr ardal gan goetir; mae coetir hynafol Dyffryn Gwy i'r dwyrain, a phlanhigfa fwy diweddar i'r gorllewin, a'r ardal a gliriwyd bron yn bendant yn bodoli'n hanesyddol yn sgîl y coetir. Fe'i lleolir ar fan gwastad goleddf isel uwchben ochr y dyfyn serth sy'n goediog iawn i'r gogledd o Laneuddogwy. Yn hanesyddol, roedd yr ardal ym mhlwyf Llaneuddogwy, yr oedd rhannau mawr ohoni yn perthyn i Ddug Beaufort. Er bod rhywfaint o'r tir yn yr ardal hon â nodweddion yn eiddo i ystad Beaufort, rhannwyd y rhan fwyaf ohono ymysg sawl deiliad daliad bach.

Ymddengys fod yr ardal yn cynrychioli'r broses o glirio coetir a thresmasu ar y man gwastad ac mae'r caelun a'r anheddiad sy'n deillio o hynny yn debygol o ddyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, neu hyd yn oed y cyfnod canoloesol; mae siâp cromliniol afreolaidd rhywfaint o'r clostir yn awgrymu tarddiad cynnar. Mae'r degwm yn dangos tirlun a ddominyddir gan ddaliadau bach; nid ymddengys i'r plotiau bach o ddaliadau nas cyfunwyd yn aml gael eu rhesymoli erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dim ond ar ôl gwneud rhagor o waith maes ac astudiaethau dogfennol y daw union ddyddiad y clostiroedd hyn (tir âr yn bennaf adeg y Degwm) ac unrhyw anheddiad cysylltiedig yn hysbys. Fodd bynnag, mae parseli gwasgaredig o dir o fewn daliadau yn aml yn dynodi patrwm canoloesol. Mae map y degwm (1844) yn dangos gwasgariad o fythynnod, sydd wedi'u hynysu'n bennaf o fewn eu daliadau cysylltiedig ond a gysylltir gan rwydwaith o lonydd. Mae bythynnod cynharach yn bodoli, er eu bod wedi'u haddasu a'u hymestyn yn fawr ar y cyfan, yn enwedig ers y 1920au.

Roedd ystad Beaufort yn berchen ar barseli o dir yn yr ardal; y prif ddeiliaid tir eraill oedd y Parchedig David Jones, a John, Amos a James Hodges. Mae map y degwm yn rhestru amrywiaeth o berchen-feddiannwyr unigol. Mae'r datblygiad bach hwn sy'n dameidiog ac yn ddatgysylltiedig ar y cyfan ers map y degwm yn cael ei adlewyrchu efallai mewn perchenogaeth tir wahanol barhaus. Yn fwy diweddar, trodd y duedd oddi wrth ddaliadau bach amaethyddol tuag at anheddiad 'preswyl' is-drefol, gyda thai modern ar wahân yn ychwanegu at y daliadau amaethyddol a'r bythynnod.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Pen-y-Fan gan gaelun afreolaidd datblygedig ag anheddiad ôl-ganoloesol gwasgaredig cysylltiedig, o darddiad cynnar efallai, yr ychwanegwyd ato gan ddatblygiad o dai ar wahân o'r ugeinfed ganrif. Dangosir rhywfaint o anheddiad gwasgaredig iawn ar fap degwm 1844, a dyma fel y mae bron yn gyfan gwbl hyd at 1921. Mae'r datblygiad o'r ugeinfed ganrif yn cydymffurfio â'r patrwm o anheddiad eithaf gwasgaredig a oedd yn bodoli eisoes, ac mae'n dueddol o fod wedi'i leoli mewn plotiau mawr o dir, tra'n parchu ffiniau'r clostiroedd amaethyddol a oedd yn bodoli eisoes, gan olygu bod modd cynnal patrwm gwreiddiol y caeau. Mae'r adeiladau cynharach, ac eithrio 'Duke's House', a oedd adeg y degwm yn eiddo i Ddug Beaufort (ac a brydleswyd i John Hodges), yn cynnwys bythynnod yn bennaf, a adeiladwyd o gerrig patrymog â thoeon llechi ar y cyfan, tra bod yr adeiladau modern wedi'u rendro'n nodweddiadol o doeon llechi neu banteils. Ychwanegiad diweddar i dirwedd yr anheddiad yw maes carafannau, gyda charafannau sefydlog mawr math hafoty, sy'n ychwanegu elfen hamdden a thwristiaeth.

Yn hanesyddol, amaethyddiaeth a choedyddiaeth gysylltiedig oedd y prif ddefnydd o dir ac mae'r patrwm caeau yn nodweddiadol o dresmasu tameidiog cynnar o goetir/neu wastraff. Nid yw'r patrwm o glostiroedd afreolaidd bach wedi newid fawr ddim ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda chymysgedd o dir âr a thir pori, ac ychydig o berllannau. Er bod yr ardal yn cynnwys nifer o ddaliadau bach neu ffermydd bach, prin yw'r wybodaeth am safleoedd hanesyddol yn yr ardal ac ar hyn o bryd dim ond dwy gofrestr HER a geir, sef dau strwythur/adeilad cysylltiedig; adeilad wal cerrig sych a oedd yn dy ac yn gwt anifeiliaid fwy na thebyg (PRN 07104g) a thwlch mochyn cysylltiedig o frics coch (PRN 07105g).

Ymhlith y nodweddion eraill mae llwybrau cysylltiadau a thrafnidiaeth a nodweddir gan lonydd suddedig troellog, a amgylchynir gan waliau cerrig sych yn aml, a chloddiau carreg neu ddaear â gwrychoedd ar eu pennau. Gellir hefyd nodweddu'r ardal gan ei choedwigaeth, fe'i hamgylchynir gan goetir hynafol ar dair ochr, ac mae'n debygol i'r ardal fodoli yn sgîl y coetir a gliriwyd yn hanesyddol. Mae coedwigaeth yn dal i fod yn bwysig yn yr ardal, yn enwedig ar y cyrion, ac mae'n bodoli ar ffurf darnau tameidiog rhwng clostiroedd. Amgylchynir y rhan fwyaf o'r clostiroedd gan wrychoedd â choed gwrych aeddfed nodedig.

Ymddengys i'r ardal hon ddatblygu mewn ffordd debyg wrth i ardaloedd o goedwigaeth gael eu clirio i wneud lle i ardal 'breswyl' lled-drefol gyfagos 'The Narth' (HLCA028), ond gyda llai o ddwysedd, gan gynnal mwy o'i chymeriad amaethyddol wledig. Ceir cysylltiadau hefyd ag ardal gyfagos Coedwig Hael (HLCA027), lle roedd melino seidr yn bwysig; ceir sawl perllan yn ardal Pen-y-Fan, a allai fod wedi cyflenwi'r melinau seidr lleol (PRN 07103g).