Dyffryn Gwy Isaf
024 Llaneuddogwy
HLCA 024 Llaneuddogwy
Anheddiad Canoloesol/Ôl-ganoloesol â tharddiad canoloesol cynnar a chefndir amaethyddol cysylltiedig: patrwm anheddu: clwstwr cnewyllol o amgylch yr eglwys; datblygiad hirgul a chlwstwr afreolaidd ar lethr; nodweddion anheddu/mathau o adeiladau nodweddiadol o'r 19eg/20fed ganrif; eglwysig: eglwys a mynwent ganoloesol/ôl-ganoloesol (tarddiad canoloesol cynnar); capel ôl-ganoloesol; ffiniau traddodiadol; clostir/patrwm caeau afreolaidd amrywiol: clostiroedd coediog bach (perllannau?) yn gysylltiedig ag anheddiad/ caeau afreolaidd canolig i fawr o amgylch y Rheithordy; Nodweddion cysylltiadau. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Llaneuddogwy yn anheddiad â hanes eglwysig cynnar diddorol. Prif bentref plwyf Llaneuddogwy ydyw, gyda rhan ohono yn faenor i Esgobaeth Llandaf, a'r gweddill yn rhan o faenor Trelech, a oedd yn nwylo Dug Beaufort. Erbyn dyddiad map y degwm (1844) prif berchennog y tir oedd Dug Beaufort. Fe'i lleolir ar lethrau isaf y bryn wrth dro siarp yn Afon Gwy, ac mae'n eistedd o dan yr uwchlethrau coediog. Amgylchynir yr ardal siâp powlen gan ochr serth y bryn ynghyd â choetir hynafol i'r gogledd, y de a'r gorllewin, tra bod y coridor cysylltiadau modern yn rhedeg ar hyd glan yr afon i'r dwyrain. Mae'r ardaloedd o anheddiad yn Llaneuddogwy, yn ogystal â rhannau o'r coetir hynafol cyfagos, wedi'u dynodi a'u diogelu'n Ardal Gadwraeth 1 gan Gyngor Sir Mynwy (Cynllun Datblygu Unedig Mabwysiedig, 2006).
Llywiwyd datblygiad yr anheddiad yn Llaneuddogwy gan ei hanes eglwysig cynnar. Gwelir tarddiad canoloesol cynnar y pentref yn y ffaith bod yr eglwys yn talu teyrnged i Euddogwy Sant, trydydd Esgob Llandaf, a oedd byw yn y chweched ganrif. Mewn hanes a geir yn Buchedd Euddogwy dywedir ei fod yn gwasanaethu Duw wrth nant Caletan (Nant Cleddon heddiw) a bod y Brenin Einion o Lewysig yn hela carw ar Afon Gwy, a'i fod wedi dianc rhag y cwn drwy orwedd ar glogyn Euddogwy Sant. Yna rhoddodd y brenin yr ardal i Esgobaeth Llandaf, ac adeiladodd Euddogwy dy ac oratori yno (Bradney 1913, 206).
Roedd yr ardal yn safle mynachaidd canoloesol cynnar pwysig, fel un o faenorau Esgobaeth Llandaf, ac fe'i crybwyllir sawl gwaith yn Siarteri Llandaf rhwng dechrau'r seithfed ganrif a chanol y degfed ganrif (tua 625 a thua 698), gyda'r olaf yn cofnodi ffiniau'r faenor a roddwyd i'r Esgob gan y Brenin Morgan o Lewysig, ac yn olaf, tua 942 yn galw synod yno. Mae'n bosibl i esgobaeth Llangystennin Garth Brenni gael ei symud i Laneuddogwy tua 900, cyn symud eto i Landaf (Davies 1978 158). Mae tystiolaeth ffisegol ar ffurf y fynwent gromliniol wreiddiol ar fapiau cynnar (map y degwm) yn ategu tystiolaeth ddogfennol arall o darddiad eglwysig canoloesol cynnar.
Ceir disgrifiad o'r eglwys ganoloesol sydd wedi newid cryn dipyn (PRN 00741g) o 1849; roedd yn cynnwys cangell ganoloesol â lawnsedi pen teirdalen i'r gogledd a'r de-ddwyrain, corff wedi'i addasu, tra bod bwa'r gangell, ystlys ogleddol a cholofnres oll yn ychwanegiadau diweddarach (Glynne 1902, 90). Y pensaer John Pollard Seddon, un o dirfesurwyr Archddiaconiaeth Mynwy a phensaer ymgynghorol Cymdeithas Gorfforedig Adeiladau Eglwysig, a oedd yn gyfrifol am ailadeiladu'r eglwys wreiddiol rhwng 1859 ac 1861. Mae'n debyg i'r eglwys newydd (PRN 07881g, LB 18575 Gradd II*) gael ei hadeiladu ar sylfeini newydd gan gael gwared ar holl olion yr adeilad canoloesol, ar wahân i henebion yn y portsh deheuol. Gwnaeth Seddon a Coates Carter, y bu Seddon yn gweithio mewn partneriaeth ag ef rhwng 1885 a 1904, waith pellach yn 1889. Ar yr adeg hon, ychwanegwyd y portsh deheuol a'r festri a chyflawnwyd y cynllun addurniadol i'r gangell, gan gynnwys y reredos gan Clarke o Landaf a'r mosaigau gan Powell o Lundain. Paentiodd artist Almaenig y waliau yn ôl cynlluniau Coates Carter.
Mae map y degwm yn dangos anheddiad pentref Llaneuddogwy ar ffurf tri grwp gwahanol o dai, sydd fwy na thebyg yn ymwneud â chamau datblygu'r anheddiad. Ymddengys fod y cam cynharaf yn cael ei gynrychioli gan yr anheddiad canoloesol sy'n gysylltiedig â'r eglwys ac o'i hamgylch, tra bod camau diweddarach yn cael eu cynrychioli gan ehangiad ôl-ganoloesol yr anheddiad i fyny ochr y bryn, a datblygiad hirgul ar hyd y ffordd dyrpeg yn 1829 a glannau Afon Gwy, fel y dangosir ar argraffiadau cynnar mapiau'r AO (1881, 1902 a 1921). ‘The Falls’, a elwir yn ‘The Priory’ hefyd, oedd prif dy'r ardal a ddangosir ar y Degwm; fe'i hadeiladwyd ar gyfer John Gough yn 1838 gan y penseiri Wyatt a Brandon (Newman 2000, 275). Er bod y rhan fwyaf o'r tir ym mhlwyf Llaneuddogwy yn eiddo i ystad Beaufort, teulu Gough oedd yn berchen ar y rhan fwyaf o bentref Llaneuddogwy ei hun. Mae map degwm 1844 yn nodi mai Eliza Gough oedd perchennog y rhan fwyaf o'r tir yn Llaneuddogwy. Roedd teulu Gough yn gweithredu cychod camlas (slwpiau neu fadau) ar Afon Gwy, ac mae'n debygol i'r gwaith o adeiladu'r rheilffordd gael effaith ddifrifol ar eu busnes.
Roedd yr afon yn llwybr cysylltiadau a thrafnidiaeth pwysig drwy'r ardal, cyn adeiladu'r ffordd dyrpeg, ac roedd yr elw o'r busnesau hyn yn bwysig yn hanes yr ardal, yn enwedig i deulu Gough.
Mae'n debygol, wrth adeiladu'r ffordd dyrpeg rhwng Trefynwy a Chas-gwent, drwy'r ardal rhwng 1826 a 1830, i ragor o anheddiad ddigwydd, yn enwedig ar hyd llwybr y ffordd honno, sef yr A466. Yn ogystal ag agor llwybrau cysylltiadau'r ardal i fyny'n fwy, byddai adeiladu Rheilffordd Dyffryn Gwy yn 1876 gyda gorsaf Llandogo Halt hefyd wedi cael effaith uniongyrchol ar dwf Llaneuddogwy.
Ar wahân i lenwi'r datblygiad hirgul ymhellach ar hyd yr A466, mae ystadau tai diweddar a adeiladwyd i'r gorllewin a'r gogledd-orllewin o'r eglwys, wedi gwneud y pentref yn fwy o faint.
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Nodweddir Llaneuddogwy fel anheddiad ôl-ganoloesol yn bennaf sy'n tarddu o'r cyfnod canoloesol cynnar/canoloesol. Mae Llaneuddogwy yn cynnwys gwasgariad o fythynnod nodweddiadol ynghyd ag adeiladau modern ar yr uwchlethrau a rhai adeiladau pictiwrésg o ddechrau'r ugeinfed ganrif. Ailadeiladwyd yr eglwys ganoloesol yn llwyr yn 1859-1861, sy'n rhywfaint o arwydd, efallai, o dwf yr anheddiad yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae gan Laneuddogwy amrywiaeth o fathau a meintiau o dai, gan gynnwys rhai sydd â dyheadau clasurol Sioraidd pendant, a hefyd res o fythynnod cefn wrth gefn posibl. Ymhlith yr adeiladau nodweddiadol yn yr ardal â nodweddion a geir ar fapiau hanesyddol, yn ogystal â bythynnod ac un ffermdy, mae tai teras, siopau, swyddfa bost, gwesty, ysgol (bechgyn a merched), addoldai (Capel ac eglwys) a ffald (Argraffiad 1af map yr AO). Ni welir unrhyw waith cynllunio yng nghynllun yr anheddiad gydag adeiladau wedi'u codi ar hap yn nodweddiadol. Yn yr ardal uwchben y pentref gwelir ychydig o fythynnod bach o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r adeiladau wedi'u hadeiladu o gerrig wedi'u rendro'n bennaf, gyda thoeon llechi, ond mae gwaith datblygu modern wedi arwain at fwy o amrywiaeth o ddeunyddiau ac arddulliau amrywiol. Ymhellach i lawr y llethrau, gallai The Old Farmhouse fod ychydig yn gynharach o ran ei darddiad. Bu gwaith adeiladu ystadau diweddarach ar derasau uwchben yr afon hefyd, gan gynnwys datblygiad cyngor tua 1950 (adfywiad cynhenid). Mae'r ardal yn cynnwys sawl byngalo.
Mae'n debygol i anheddiad cychwynnol Llaneuddogwy ddatblygu ar ôl sefydlu canolfan fynachaidd gynnar yma, oratori Euddogwy Sant (PRN 00705g), canolbwynt Maenor eglwysig cyn-Normanaidd. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yr ardal wedi datblygu i fod yn sawl anheddiad ar wahân (map degwm 1844): y craidd canoloesol yng nghyffiniau'r eglwys; dwy ardal lle ehangwyd yr anheddiad yn y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy'n tresmasu ar y coetir amgylchynol, a gynrychiolir yn bennaf gan fythynnod neu ffermydd bach (daliadau bach) mewn matrics o glostiroedd datblygedig afreolaidd; a datblygiad hirgul hirfain rhydd o adeiladau gwasgaredig, gan gynnwys swyddfa bost a gefail ar hyd y ffordd a glan afon yn arwain i'r de. Gellir gweld yr aneddiadau hyn o hyd, er gwaethaf gwaith mewnlenwi ychwanegol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif ar hyd yr A466.
Gwelir y thema bictiwrésg o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg mewn filâu a bythynnod, fel Priordy ysblennydd Llaneuddogwy (NPRN 45,071), fila dalcennog ac estyllog mawr a adeiladwyd yn 1838 gan y penseiri Wyatt a Brandon ar gyfer teulu'r Gough. Wedi'i leoli mewn man amlwg, adeiladwyd y ty o dywodfaen porffor golau lleol, ac mae ganddo ganol cilfachog â feranda bren ddeulawr rhwng talcenni cymesurol, gyda ffenestr oriel o dan y talcen i'r dde (Newman 200, 275). Yn gysylltiedig mae gerddi cyfoes (NPRN 308, 476) a phorthordy'r Priordy, Adeilad Rhestredig Gradd II (PRN 07948g; LB 24931); wedi'i adeiladu yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'i ymestyn yn ddiweddarach, fe'i hadeiladwyd o rwbel tywodfaen coch gyda rhai rhwymau cerrig nadd.
Mae gan yr ardal gysylltiadau eglwysig pwysig; yn safle mynachaidd yn wreiddiol ac yn brebend yn ddiweddarach, roedd Llaneuddogwy yn un o faenorau Esgobaeth Llandaf ac fe'i crybwyllir gyntaf tua 625 yn siarteri Llandaf. Mae cyfeiriadau pellach yn dyddio o tua 625 i 942 yn dynodi pwysigrwydd y safle (Brook 1988 72-73 79). Mae eglwys Llaneuddogwy yn talu teyrnged i Euddogwy Sant (Docheu neu Dochwy), trydydd esgob Llandaf, y dywedwyd iddo adeiladu ty ac oratori (PRN 00705g) yn yr ardal yn ystod y chweched ganrif. Mae'r ffaith bod yr eglwys yn talu teyrnged i Euddogwy Sant, y cyfeiriadau hanesyddol yn Siarteri Llandaf, a'r fynwent rannol gromliniol (PRN 07944g, LB 24919) a ddangosir ar fap degwm 1844 yn dynodi dyddiad cyn-Normanaidd ar gyfer sefydlu'r eglwys wreiddiol. Caiff yr eglwys, ac ardal fawr, sy'n ymestyn y tu hwnt i ffiniau plwyf Llaneuddogwy, eu crybwyll yn ddiweddarach yn y Siarteri pan sonnir y'u rhoddwyd i esgobaeth Llandaf gan y Brenin Morgan o Lewysing.
Mae'r eglwys (PRN 07881g, LB 18575 Gradd II*), a ailadeiladwyd rhwng 1859 ac 1861 gan John Pollard Seddon a Coates Carter, wedi'i hadeiladu o flociau o dywodfaen coch sgwâr bras, gyda rhwymau a manylion pensaernïol mewn carreg Bath yn bennaf ond gyda thywodfaen wedi'i ddefnyddio mewn mannau i greu effaith stribedog â tho o lechi Cymreig. Mae ei mynwent (PRN 08177g) yn amlochrog bellach ond ar fap y degwm (1844) ac Argraffiad Cyntaf map yr AO (1881) mae'n rhannol gromliniol. Mae wal y fynwent (PRN 07944g, LB 24919 gradd II) wedi'i hadeiladu o dywodfaen bras a rwbel chwarts, a dorrwyd gan ddwy glwyd a chamfa. Mae rhwng metr a metr a hanner o uchder, a cheir copa crwn o gerrig bach arni. Ymddengys ei bod yn rhagddyddio adeilad presennol yr eglwys, o'r ail ganrif ar bymtheg o bosibl, ac ystyrir ei bod yn darnodi maint y fynwent ganoloesol wreiddiol. Mae'r beddrodau yn y fynwent yn ychwanegu at gymeriad eglwysig yr ardal, dau grwp o feddrodau cist wedi'u hadeiladu o dywodfaen (PRNs 07945g, 07946g) sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod cyn ailadeiladu'r eglwys wreiddiol, y cynharaf yn dyddio'n ôl i 1736.
Un nodwedd bwysig yn yr ardal yw'r llwybrau cysylltiadau sy'n amrywio o'r rhwydwaith o lonydd cul a throellog serth nodweddiadol ar ochrau serth y bryn i brif lwybr yr A466 ar waelod y dyffyn, sef llwybr ffordd dyrpeg 1829. Yn ardaloedd ochr y bryn a'r anheddiad hyn, rhydd y rhwydwaith o lonydd troellog caeedig cul (y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn hawliau tramwy statudol erbyn hyn) fynediad i'r daliadau a'r bythynnod amrywiol; mae waliau anferth o gerrig sych, gan gynnwys slabiau chwarts chwarel, yn amgylchynu llawer o'r lonydd hyn. Cyn adeiladu'r ffordd dyrpeg, y prif lwybrau i Laneuddogwy oedd y lôn fach o Dyndyrn, sy'n cyfuchlinio ochr y bryn o'r de uwchben y brif ffordd, a lôn serth iawn arall, sy'n mynd heibio i'r 'Priordy' drwy Cleddon ar y ffordd i Drelech. Rhydd lonydd eraill fynediad i'r eglwys ac Afon Gwy ac ardal y cei. Mae'n debygol bod y llwybrau hyn a llwybrau bach eraill yn tarddu o'r cyfnod canoloesol, os nad yn gynharach. Roedd Afon Gwy ei hun yn llwybr cysylltiadau a thrafnidiaeth pwysig cyn adeiladu'r ffordd dyrpeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac roedd traffig afon yn bwysig i economi'r ardal, gyda chychod camlas, sef slwpiau neu fadau, yn cludo nwyddau i fyny'r dyffryn. Adlewyrchir y broses hon o gludo nwyddau ar hyd yr afon mewn enwau lleoedd, fel The Ship Inn a Trow Cottage.
Rhydd amaethyddiaeth, sydd bellach yn ymylol ac yn gyfyngedig i ran ogleddol yr ardal â nodweddion, nodwedd arall. Amharwyd ar gydlyniad patrwm caeau'r ardal o gaeau maint canolig, er yn afreolaidd, sy'n adnabyddadwy ar fap y degwm, gyntaf drwy adeiladu Rheilffordd Dyffryn Gwy (Argraffiad Cyntaf map yr AO), ac yn ddiweddarach gan ddatblygiadau is-drefol yn yr ugeinfed ganrif. Mae'r ardaloedd amaethyddol sy'n weddill yn ddolydd ac yn dir pori yn bennaf; ceir tystiolaeth o glostiroedd coediog a pherllannau hefyd.