Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


079 Ffordd yr A470(C)


HLCA 079 Ffordd yr A470(C) Coridor trafnidiaeth ffordd yn ymestyn o'r gogledd i'r de, yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif cyn goridor rheilffordd (ail hanner y 19eg ganrif); cyn-dirwedd gloddiol ddiwydiannol yn gysylltiedig â'r fasnach mewn glo ager.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

(Foto : GGAT Merthyr 079)

Ardal gymeriad Ffordd yr A470(C): coridor ffordd modern sy'n cysylltu Merthyr Tudful â Chaerdydd.

Crynodeb

Coridor trafnidiaeth ffordd pwysig yn ymestyn o'r gogledd i'r de gan gysylltu Merthyr Tudful â Chaerdydd. Fe'i hadeiladwyd ar ddiwedd yr 20fed ganrif a disodlodd gyn-goridor rheilffordd a gynhwysai nodweddion cloddiol diwydiannol.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Ffordd yr A470(C) yn cynnwys datblygiad trafnidiaeth ffordd yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif, un o nifer o gynlluniau peirianyddol sifil i wella'r prif lwybr o'r Gogledd i'r De yng Nghymru.

Lleolid llwybrau cyn-Reilffordd Castle Pit (1850au) a Chyd-Linell y GWR a Rhymni (Cangen Merthyr Tudful a Mynwent y Crynwyr), a adeiladwyd ym 1884/85 yn yr ardal i'r de o Abercanaid Uchaf.

Ar ben hynny cynhwysai'r ardal byllau glo a oedd yn gysylltiedig â Chyfarthfa, hy safle Pwll Rhif 2 Gethin, ac, ychydig y tu hwnt i ffin ddeheuol y dirwedd hanesyddol, rhan o gyn-safle Castle Pit, Troed-y-rhiw, a agorwyd ym 1866-1869, i fanteisio ar yr elw a oedd i'w wneud o'r fasnach werthfawr mewn glo ager. Yn ystod y 1860au, datblygwyd y gweithfeydd cloddio yng Ngethin, a oedd wedi agor yn y degawd blaenorol, ymhellach i fanteisio ar y galw cynyddol am lo ager, er i brydlesi Cyfarthfa ar gyfer y pwll glo hwn a phyllau glo eraill yn yr ardal ddod i ben ym 1924. Gwelodd pyllau glo Gethin a Castle Pit ragor o weithgarwch yn ystod yr Ail Ryfel Byd, er iddynt gau o'r diwedd ym 1947, y flwyddyn y gwladolwyd y diwydiant.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk