Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 075 Tir Comin Wedi'i Wella Garth Fawr Ardal a nodweddir
gan dir comin wedi'i wella a amgaewyd, caeau mawr rheolaidd a sefydlwyd
yn ddiweddar; tystiolaeth enwau lleoedd.
|
|
Crynodeb Ardal o dir comin wedi'i wella amgaeëdig a nodweddir gan gaeau mawr rheolaidd a sefydlwyd yn ddiweddar. Cefndir Hanesyddol Mae ardal dirwedd hanesyddol Tir Comin Wedi'i Wella Garth Fawr yn cynnwys ardal o dir comin a fu'n destun gwelliannau amaethyddol, hy clirio cerrig a gwaith draenio, yng nghanol yr 20fed ganrif. Dengys tystiolaeth gartograffig fod yr ardal wedi'i lleoli yn wreiddiol y tu allan i'r ardal o dir amgaeëdig. Efallai fod enwau lleoedd cynharach 'Cairn-mawr' ym 1875 ac ar ôl hynny Garth Fawr (sef cae mawr), sy'n awgrymu henebion claddu neu gaeau cynhanesyddol, yn cyfeirio at yr anheddiad cyfagos i'r gorllewin o'r ardal o fewn ardal HLCA 033, ond yn yr un modd gallant gyfeirio at natur greigiog gynharach y tir comin heb ei glirio. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|