Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


074 Blaen-Canaid a Hendre-Fawr


HLCA 074 Blaen-Canaid a Hendre-Fawr Tirwedd greiriol amaethyddol o gaeau datblygedig afreolaidd bach a ffermydd cysylltiedig yn dyddio o ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol; tirwedd angladdol a defodol gynhanesyddol; cysylltiadau hanesyddol a chrefyddol pwysig; Coetir Hynafol a choetir a adfywiwyd yn ystod yr 20fed ganrif.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 

(Foto : GGAT Merthyr 074)

Ardal gymeriad Blaen-Canaid a Hendre Fawr: tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol o gaeau afreolaidd bach a ffermydd cysylltiedig.

Crynodeb

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol greiriol a nodweddir gan gaeau bach afreolaidd eu siâp a ffermydd cysylltiedig, y mae'n debyg iddynt gael eu sefydlu yn y cyfnod canoloesol, y gorchuddir y rhan fwyaf ohoni erbyn hyn gan goedwigoedd a blannwyd yn ystod yr 20fed ganrif (gan gynnwys olion Coetir Hynafol). Mae ganddi gysylltiadau hanesyddol a chrefyddol pwysig fel canolbwynt i ymneilltuaeth ar ddechrau'r 17eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Blaen-canaid a Hendre-fawr yn cynnwys tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol yn bennaf, rhan o Ystâd Dynevor yng nghanol y 19eg ganrif. Gwaed cryn dipyn o waith adfywio coetir a phlannu coedwigoedd yn yr ardal, sy'n cynnwys lleiniau pwysig o Goetir Hynafol, yn ystod yr 20fed ganrif. Nodweddir y dirwedd amaethyddol gan batrwm caeau datblygedig afreolaidd o gaeau bach, a ffermydd ôl-ganoloesol cynnar cysylltiedig, sef Blaen-canaid a Hendre-fawr (a gloddiwyd). Credir i'r ffermydd hyn, a ddarlunnir ar fap Yates dyddiedig 1799, gael eu sefydlu yn ystod y cyfnod canoloesol, tra bod system gaeau greiriol/systemau caeau creiriol yn yr ardal yn arwydd o draddodiad amaethyddol hir. Mae'r elfen 'hendre' yn awgrymu defnydd amaethyddol hirsefydlog yn dyddio yn ôl pob tebyg o'r cyfnod canoloesol. Yr hendre oedd hen neu brif anheddiad (gaeaf) daliad amaethyddol canoloesol sefydledig, a oedd yn gysylltiedig yn aml â'r system 'hendre-hafod' o amaethyddiaeth drawstrefa lle y byddai buchesi llaeth a theuluoedd ffermio yn symud i borfeydd anghysbell ac anheddau dros dro cysylltiedig yn ystod misoedd yr haf. Roedd gan ddaliad Blaen-canaid felin wlân fach, sef Melin Ganaid ar lannau Nant Canaid; darlunnir y strwythur ar fap Yates dyddiedig 1799 fel Canode Mill, ac fe'i dangosir ar fapiau diweddarach gan gynnwys pob un o'r tri argraffiad o fapiau 6 modfedd yr AO (1875-1915) ac ystyrir ei bod yn dyddio o'r 17eg ganrif. Mae gan yr ardal gysylltiadau anghydffurfiol pwysig (gweler hefyd HLCA 069): ffermdy Blaen-canaid oedd safle cyfarfodydd Ymneilltuwyr ar ddechrau'r 17eg ganrif (mae ffynonellau yn amrywio rhwng tua 1620 a thua 1642).

Ceir nifer o Garneddau neu domenni claddu yn dyddio o'r Oes Efydd ar hyd copa'r tir uchel ar hyd ffin orllewinol yr ardal, sy'n nodi ffin draddodiadol go hynafol. Mae'r safleoedd hyn, a leolir ar hyn o bryd o fewn planhigfeydd trwchus o goed, yn cynnwys safle cofrestredig Garn Las (SAM Gm236) ar Dwyn Gwersyllfa a Cham Castellymeibion (Pm 490m) i'r de, sef enghraifft dda o garnedd gylch.

Mae'r ardal hefyd yn cynnwys grwpiau o nodweddion cloddiol diwydiannol sydd ar wahân yn ddaearyddol, lefelau gan mwyaf ond hefyd siafftiau a chwareli a nodir ar argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875, er eu bod yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif yn ôl pob tebyg. Ar wahân i ddau safle i'r gorllewin o Flaen-canaid, sef chwarel fach a lefel, mae'r mwyafrif o nodweddion diwydiannol yr ardal yn ffurfio crynhoad nodedig wedi'u gosod ar hyd ffin ogleddol yr ardal a'r blanhigfa goed ac ychydig y tu mewn i'r ffin honno. Arferai'r ardal hon fod yn rhan o brydles gloddio helaeth y teulu Crawshay o Gyfarthfa o fewn Cwm-glo Uchaf (gweler HLCA 064). Mae'r crynhoad o weithfeydd cloddio yn arwydd bod ffin wedi'i newid yn yr ardal yn dilyn gwaith coedwigo ar ddiwedd yr 20fed ganrif, ac o ganlyniad nid ystyrir ei fod yn nodweddiadol yn gyffredinol o'r ardal ehangach.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk