Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


069 Cwm Glo, Gogledd


HLCA 069 Cwm Glo, Gogledd Ardal sy'n dangos tirwedd amaethyddol/anheddu gynharach; tirwedd grefyddol, angladdol a defodol; capel anghydffurfiol cynnar; cysylltiadau hanesyddol a chrefyddol; nodweddion cloddiol diwydiannol a nodweddion rheoli dwr a draenio.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

(Foto : GGAT Merthyr 069)

Ardal gymeriad Cwm Glo, Gogledd: tirwedd amaethyddol/anheddu a chanddi gysylltiadau hanesyddol a chrefyddol cryf.

Crynodeb

Tirwedd amaethyddol/anheddu a chanddi gysylltiadau hanesyddol a chrefyddol cryf, wedi'i chanoli ar y Ty Cwrdd anghydffurfiol yng Nghwm-y-Glo yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Cwm Glo, Gogledd yn cynnwys ardal yr effeithiwyd arni lai gan ddatblygiadau diwydiannol na'r ardaloedd o'i hamgylch, yn arbennig y rhai i'r de (gweler Ardaloedd HLCA 064 a 070). Mae ffermydd/bythynnod (Cwm-glo a Llwyn-yr-Eos), caeau amaethyddol cysylltiedig, dolydd a ffaldau i'w gweld o hyd yn yr ardal. Efallai mai ei nodwedd bwysicaf yw safle'r Capel Anghydffurfiol yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif, a sefydlwyd yn wreiddiol mewn ysgubor gerllaw. Y gynulleidfa oedd yr un a sefydlwyd cyn hynny tua 1642 ar Fferm Blaen-canaid. Adeiladwyd y capel parhaol cyntaf yng Nghwm-y-glo ym 1689 yn dilyn y Ddeddf Goddefiad a basiwyd yn yr un flwyddyn. Roedd y Capel yng Nghwm-y-glo yn gysylltiedig â nifer o bregethwyr anghydffurfiol cynnar pwysig megis Vavasor Powell (dyfaliad yn unig), Henry Maurice (fl 1672-1682), Roger Williams (fl. 1698-1730), a gynorthwywyd gan James Davies o Lanwrtyd, ac o 1730 Richard Rees o Wernllwyn. Gadawyd yr adeilad hwn, sef yr 'Hen-dy Cwrdd' yn wag rywbryd tua 1752 ar ôl i Galfiniaeth ac Arminiaeth a oedd wedi'u traethu hyd hynny o'r un pulpud ymrannu. Arweiniodd gwahaniaethau diwinyddol rhwng y Parch James Davies, Calfinydd traddodiadol a'r Parch Richard Rees a gymerodd le y Parch Roger Williams ac a draethai ysgol fwy modern o feddwl, at y rhwyg gwreiddiol ym 1747, pan sefydlodd yr Arminiaid a oedd yn byw ar ochr Merthyr Tudful i Fynydd Aberdâr Hen-dy Cwrdd yng Nghefn Coed-y-Cymer (HLCA 055). Ddwy flynedd yn ddiweddarach, sefydlodd y gynulleidfa Arminaidd o Aberdâr Hen-dy Cwrdd yn Nhrecynon, tra aeth y Presbyteriaid a oedd ar ôl i Ynysgau, Merthyr Tudful ym 1752.

Mae olion diwydiannol yr ardal yn cynnwys hen weithfeydd cloddio yng Nghwm-glo a thomenni gwastraff yn dyddio o'r 19eg ganrif, cyfadail llwyfan a siafft yn Factory Cottage, a'r tomenni yn dyddio o'r cyfnod ar ôl 1905 sy'n gysylltiedig â Mwynglawdd Drifft Cwmdu. Mae nodweddion diwydiannol nodedig eraill yn cynnwys y cronfeydd dwr a'r ffrydiau yng Nghoedcae, a gyflenwai systemau cydbwyso dwr mewn cloddfeydd cyfagos.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk