Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 068 Heolgerrig a Phen-yr-Heolgerrig Anheddiad sgwatwyr
diwydiannol â phatrwm afreolaidd, datblygiad strimynnog llinellol
cynnar yr ychwanegwyd terasau ac ystadau tai ato; nodweddion crefyddol,
angladdol a defodol, hy capeli anghydffurfiol; swyddogaeth fasnachol fach
nas datblygwyd; nodweddion cloddiol diwydiannol a nodweddion trafnidiaeth;
mân nodweddion amaethyddol.
|
|
Crynodeb Pentref diwydiannol a ddatblygodd o anheddiad sgwatwyr afreolaidd yn cynnwys datblygiad strimynnog cynnar o fythynnod terasog, a siop, swyddfa bost, ysgol a thafarn. Cefndir Hanesyddol Mae ardal dirwedd hanesyddol Heolgerrig a Phen-yr-Heolgerrig yn cynnwys anheddiad ar ffurf pentref diwydiannol, a ddatblygodd o anheddiad 'sgwatwyr' digynllun o ddaliadau gwasgaredig afreolaidd i'r gorllewin o Ben-yr-Heolgerrrig a'r Dramffordd o Gwm-glo (Cwmdu) i Gyfarthfa. Lleolid yr anheddiad 'sgwatwyr' gwreiddiol yn dyddio o'r 18fed ganrif (Penerheol Graig ym 1799) ar gwr y mynydd agored a chynhwysai wasgariad afreolaidd o ddaliadau yn debyg i'r un yn Ochr-y-Mynydd (gweler HLCA 065). Erbyn 1850, roedd yr anheddiad wedi ehangu mewn patrwm strimynnog nodweddiadol a chynhwysai ddatblygiadau llinellol cynnar o fythynnod terasog a chaeau geometrig cysylltiedig (rhandiroedd). Roedd rhagor o ddatblygiadau strimynnog wedi digwydd erbyn 1875 yn yr ardal i'r gogledd o Abernant Gwenith, rhwng Penyrheol (Fferm Pen-yr-heolgerrig) a Heol Genig, a ffurfiai gnewyllyn masnachol, cymdeithasol a chrefyddol yr anheddiad diweddarach. Dengys map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875 fod gan graidd strimynnog y pentref swyddfa bost a thafarn, sef y Six Bells, â'i fragdy cysylltiedig, tra dengys 2il agraffiad y map dyddiedig 1905 fod ysgol fabanod wedi'i hychwanegu, ac ysgol gynradd ar ôl hynny. Roedd capeli anghydffurfiol, megis Capel Annibynnol Salem a'i ysgol a adeiladwyd cyn 1875 a Chapel o eiddo'r Bedyddwyr a adeiladwyd erbyn 1915, yn rhai o briod nodweddion yr ardal ac maent yn dal i fod. Mae ychwanegiadau diweddarach yn cynnwys terasau yn dyddio o ddechrau'r 20fed ganrif yn Heolgerrig ac ystadau tai yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif a gwaith mewnlenwi diweddar. Cwmpasai'r ardal anheddu nifer o nodweddion diwydiannol a gynhwysai yn bennaf lwybr gwahanol dramffyrdd, a gysylltai weithfeydd cloddio'r ardal â'r Ffwrneisi Haearn yng Nghyfarthfa ac Ynys Fach. Cynhwysai'r rhain y Dramffordd o Gwm-glo (Cwmdu) i Gyfarthfa a'r Dramffordd o Fynydd Aberdâr (Winch Fawr) i Gyfarthfa, cynhwysai nodweddion diwydiannol eraill byllau glo, siafftiau, lefelydd yn gysylltiedig â thomenni gwastraff a ffyrdd aer; roedd y nodweddion hyn at ei gilydd yn eu lle erbyn 1826, ac fe'u nodir ar fapiau 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875-1915. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|