Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


063 Clwyd-y-Fagwyr, Gellideg a Phen-Llwyn-Deri


HLCA 063 Clwyd-y-Fagwyr, Gellideg a Phen-Llwyn-Deri Anheddiad diwydiannol o resi unigol (19eg ganrif) a nodweddir erbyn hyn gan ystadau cynlluniedig rheolaidd mawr o dai cyngor a maestrefol yn bennaf (canol hyd ddiwedd yr 20fed ganrif); crefyddol, angladdol a defodol: capeli anghydffurfiol; tirwedd ddiwydiannol: lefelydd, a thomenni ysbwriel; nodweddion rheoli dŵr diwydiannol; coridor tramffyrdd.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 

(Foto : GGAT Merthyr 063)

Ardal gymeriad Clwyd-y-Fagwyr, Gellideg a Phen-Llwyn-Deri: ystadau cyngor yn dyddio o'r 20fed ganrif a chlystyrau a rhesi cynharach o fythynnod.

Crynodeb

Anheddiad sy'n cynnwys ystadau cyngor yn dyddio o'r 20fed ganrif yn bennaf, ond sydd wedi cadw clystyrau bach cynharach ar wahân o fythynnod a rhesi unigol o dai. Mae nodweddion eraill yn cynnwys capeli anghydffurfiol a nodweddion diwydiannol yn gysylltiedig â gweithgarwch cloddio a chludo glo a mwyn haearn.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Clwyd-y-Fagwyr, Gellideg a Phen-Llwyn-Deri yn cynnwys anheddiad sy'n cynnwys ystadau cyngor yn dyddio o'r 20fed ganrif yn bennaf, ond a ddatblygodd yn wreiddiol fel clystyrau bach ar wahân o fythynnod a rhesi bach wedi'u canoli yng Nghlwyd-y-Fagwyr a Phen-llwyn-deri, ac eiddo unigol arall yn ymestyn i Gellideg. Mae'n debyg bod yr anheddiad, a adeiladwyd ar dir yn perthyn i Ystâd Dynevor, yn un amaethyddol i ddechrau, ond daeth i gael ei gysylltu ar ôl hynny â gweithgarwch cloddio glo a mwyn haearn. Sefydlwyd yr anheddiad amaethyddol gwreiddiol yn y 18fed ganrif ac mae mapiau dyddiedig 1814, 1826, ac, yn arbennig, argraffiad cyntaf map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875 yn dilyn ei ddatblygiad diweddarach.

Mae'r anheddiad yn cynnwys rhesi diwydiannol unigol, sydd wedi'u llyncu bellach gan ystadau cynlluniedig rheolaidd mawr o dai cyngor a thai maestrefol (yn dyddio o'r cyfnod rhwng canol a diwedd yr 20fed ganrif), gan gynnwys byngalos, a gwaith ymestyn pellach a wnaed yn ddiweddar ar ddiwedd yr 20fed ganrif/dechrau'r 21ain ganrif sy'n cynnwys datblygiadau tai uwchraddol (ee Castle Park). Mae tai diwydiannol cynnar wedi goroesi yng Ngellideg (mae 15-21 yn rhestredig gradd II) a 23-28 hefyd a phopty, ac yng Nghlwyd-y-Fagwyr, a gynhwysai gyn-fragdy, sef yr Harp Inn, tra bod yr ardal hefyd yn cynnwys capeli anghydffurfiol nodweddiadol (Capel y Methodistiaid Clwyd-y-Fagwyr a Chapel Annibynnol Nant-gau).

Wedi'u gwasgaru o amgylch y rhesi unigol gwreiddiol roedd gweithfeydd cloddio a thomenni a oedd yn gysylltiedig â Mwyngloddiau Cyfarthfa; tirwedd ddiwydiannol, o lefelydd yn bennaf, megis Lefel William Morgan, Level R Morgan, Level Baynon, a thomenni gwastraff yn cynnwys blaenau bysedd, ynghyd â nodweddion rheoli dwr diwydiannol cysylltiedig (hy pyllau cydbwyso dwr a chronfeydd dwr). Ar ben hynny gweithredai'r ardal fel coridor tramffyrdd a chynhwysai rwydwaith cymhleth a helaeth o dramffyrdd a gysylltai lefelydd a phyllau'r ardal â'r gwaith haearn yng Nghyfarthfa (ee y Dramffordd o Fynydd Aberdâr i Gyfarthfa, a'r Dramffordd o Gyfarthfa i Glwyd-y-Fagwyr). Dechreuwyd ar y rhwydwaith helaeth o dramffyrdd ar ddiwedd y 18fed ganrif, a dilynir ei ddatblygiad gan fapiau dyddiedig 1814, 1826, ac yn arbennig argraffiad cyntaf map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk