Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


062 Coed Meurig


HLCA 062 Coed Meurig Tirwedd amaethyddol; ffiniau caeau traddodiadol ar ffurf waliau sych a chloddiau ac arnynt wrychoedd a chorlannau; ffermydd ôl-ganoloesol ac adeiladau fferm; Coetir Hynafol; rhywfaint o dresmasu diwydiannol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 

 

(Foto : GGAT Merthyr 062)

Ardal gymeriad Coed Meurig: tirwedd amgaeëdig amaethyddol yn cynnwys ffiniau traddodiadol a ffermydd ôl-ganoloesol.

Crynodeb

Tirwedd amgaeedig amaethyddol o ffiniau caeau traddodiadol ar ffurf gwrychoedd a waliau sych sy'n gysylltiedig â ffermydd ôl-ganoloesol. Mae gan yr ardal fân nodweddion diwydiannol hefyd ar ffurf tomenni sy'n ymestyn o weithfeydd cloddio i'r de o Ffordd yr A4102 i Abertawe (Clwyd-y-Fagwyr, Gellideg a Phen-Llwyn-Deri, ardal HLCA 063).

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Coed Meurig yn cynnwys ardal o gaeau amaethyddol a choetir collddail hynafol sy'n sensitif o safbwynt yr amgylchedd yn yr ardal i'r gogledd o'r A465(C) a Gellideg. Mae'r ardal yn cynnwys ffermydd ôl-ganoloesol ac adeiladau fferm, gan gynnwys Coed Meurig, Tai Mawr, Tai Mawr-uchaf, Penrhiw, Cwmffrwd, Ty'n Coedcae a Chwm-Waun-newydd, y lleolir y ddwy olaf ychydig i'r gorllewin o ffin y dirwedd hanesyddol. Cysylltir y rhain â thirwedd o gaeau â waliau sych a chorlannau. Roedd yr ardal yn rhan o Ystâd Dynevor yn ystod y 19eg ganrif, a brydleswyd i wahanol ffermwyr-denantiaid.

Awgrymir i bobl dresmasu yn raddol ar dir diffaith ar ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol gan natur y caeau (tir pori garw a amgaewyd), ac ategir hynny gan dystiolaeth enwau lleoedd, hy Ty'n Coedcae a Chwm Waun-newydd; mae'r olaf yn ychwanegiadau diweddarach, a anheddwyd yn ddiweddarach, ar ôl cael eu hamgáu, ar wahân i'r daliad gwreiddiol, efallai trwy i bobl yn mynd i fyw yn barhaol mewn strwythurau a arferai fod yn rhai dros dro. Y daliadau cynharach oedd Coed Meyric (Coed Meurig), Tai Mawr, Tai Mawr-uchaf, Pen-rhiw a Chwmffrwd. Roedd pob un o'r daliadau hyn yn aneddiadau parhaol hirsefydlog erbyn y 18fed ganrif ac maent yn ymddangos ar fap Yates dyddiedig 1799. Bodolai pob un o ddaliadau'r ardal erbyn 1814, ac fe'u nodir ar fapiau diweddarach (1826-1850; a phob un o'r tri argraffiad o fapiau 6 modfedd yr AO (1875-1915).

Er i fyd diwydiant dresmasu ar yr ardal hon ar raddfa fach, roedd hyn fel arfer ar ffurf tomenni yn ymestyn o weithfeydd cloddio i'r de o Ffordd yr A4102(C) i Abertawe (HLCA 063). Roedd y tomenni hyn yn cael eu creu yn ystod chwarter cyntaf y 19eg ganrif ac fe'u nodir yn gyntaf ar fap dyddiedig 1826. Dengys argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO o'r ardal dyddiedig 1875 hyd a lled y tresmasu diwydiannol yn yr ardal.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk